5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:49, 4 Mawrth 2020

Rwy'n falch iawn i gymryd rhan yn y drafodaeth yma. Gaf i longyfarch y Cadeirydd yn y lle cyntaf ar ei araith agoriadol, yn fendigedig yn cyfleu beth sydd angen ei ddweud ynglŷn â'r adroddiad yma ac ymateb y Llywodraeth? Yn naturiol, rydyn ni i gyd yn cydnabod bod yna waith da yn mynd ymlaen, ac hefyd rydyn ni'n deall nad oes llond trol o arian ar gael i'r Gweinidog. Yn yr amser byr sydd ar gael, roeddwn i jest yn mynd i fynegi rhai syniadau—rhai dwi wedi crybwyll eisoes efo'r Gweinidog—ynglŷn â sut y gallwn ni gamu ymlaen. Dwi'n credu bod yn rhaid gweithio i greu mwy o gysylltiadau naturiol efo gwledydd fuasai'n gallu cael cysylltiad naturiol efo Cymru, megis—fel sydd wedi cael ei gyfeirio ato eisoes—y gwledydd eraill gyda ieithoedd lleiafrifol, ieithoedd nad ydynt yn brif iaith llefydd. Ie, dwi'n deall Gwlad y Basg, yn naturiol, Catalunya, Llydaw, Occitan, Alsace. Pan ydych chi'n mynd i'r Ffindir, mae Karelia a Sámi hefyd. Pan ŷch chi'n mynd i'r Almaen, mae Sorbian a Frisian. Mae lot o ieithoedd lleiafrifol eraill nad ydynt yn y brif ffrwd, a dwi'n credu buasai'r bobl yma jest yn adeiladu ar y cysylltiad.

Mae yna gysylltiad naturiol efo gwledydd eraill sydd yn wledydd bychain dros y byd: Slofenia, Cyprus, Melita, a 62 o wledydd annibynnol dros y byd sydd yn llai o faint na Chymru. Dwi'n credu y buasai yna atyniad naturiol wrth adeiladu pontydd yn fanna hefyd. A hefyd, cysylltiadau eraill efo gwledydd Celtaidd eraill, yn naturiol: Iwerddon, Alban, Cernyw, ac ati. Ond hefyd, Llydaw, Galicia, Asturias; gwledydd Celtaidd eraill hefyd.

Hefyd cysylltiadau y gallem ni adeiladu arnyn nhw, achos mae yna ffordd naturiol i gysylltu efo nhw, ydy gwledydd eraill sy'n chwarae rygbi. Rydyn ni wedi clywed y drafodaeth eisoes. Seland Newydd: maen nhw'n gwybod am Gymru achos y gêm rygbi. Awstralia, Ffrainc, De Affrica, ac ati. Mae yna ffordd i adeiladu cysylltiadau naturiol, achos beth sydd gyda ni yn gyffredin. Ac hefyd, mae yna wledydd lle mae llawer iawn o Gymry dros y blynyddoedd wedi symud i fyw yn y ddwy ganrif ddiwethaf, fel Awstralia, wrth gwrs, yn naturiol; Patagonia yn yr Ariannin, ac ati. Mae yno filoedd ar filoedd o bobl o dras Gymreig yn byw ym Mhatagonia heddiw ac yn siarad y Gymraeg ym Mhatagonia heddiw, ac wrth gwrs, Unol Daleithiau America. Mae yna 1.8 miliwn o drigolion Unol Daleithiau America sydd o dras Gymreig. Yn nhalaith Wisconsin, mae yna bron i 30,000 o bobl o dras Gymreig. Yn nhalaith Efrog Newydd, mae yna 74,000 o bobl o dras Gymreig. Yn nhalaith Ohio, mae yna 117,000 o bobl o dras Gymreig, ac yn Pennsylvania, mae yna 155,000 o bobl o dras Gymreig. Felly, mae yna gysylltiadau naturiol yn fanna, yn ogystal â'r categori olaf: gwledydd sydd efo cysylltiadau crefyddol naturiol efo Cymru, fel mae David Melding newydd ei fynegi—Madagascar, er enghraifft, cenhadon o Gymru yn fanna; a Mizoram yn ne-ddwyrain India: cysylltiad naturiol Cristnogol yn fanna, yn seiliedig ar ein hanes crefyddol ni. Felly cysylltiadau naturiol.

A'r ail beth ydy adeiladu ar y tueddiad sydd wedi bod ers degawdau rŵan i'n trefi a'n pentrefi a'n dinasoedd i fod yn gefeillio efo dinasoedd a threfi eraill rownd y byd, fel dwi wedi crybwyll o'r blaen i chi, Weinidog. Rŷch chi'n gwybod bod Abertawe wedi gefeillio efo Mannheim, a Cork, ac ati; Caerdydd wedi ei gefeillio efo Stuttgart. Mae hyd yn oed Mwmbwls wedi gefeillio efo Hennebont yn Llydaw a Havre de Grace yn Unol Daleithiau America, yn ogystal â Kinsale, Iwerddon. Dwi'n siŵr bod yna fodd i adeiladau ar y cysylltiadau anffurfiol yma o efeillio sydd wedi digwydd ers degawdau, ac fel dwi wedi crybwyll o'r blaen, efallai dechrau gefeillio o'r newydd, fel efo talaith Oklahoma, fel dwi wedi crybwyll o'r blaen. Oklahoma City, maen nhw eisiau gefeillio efo Caerdydd. Tulsa, yr ail ddinas, eisiau gefeillio efo Abertawe. Ac mi allen ni gael y cysylltidau is-wladwriaethol yna efo y gwahanol daleithiau yna, yn enwedig taleithiau America y gwnes i eu rhestru: Wisconsin, Efrog Newydd, Ohio, Pennsylvania, sydd efo cefndir cryf Cymreig. Mi allai yna ryw fath o efeillio naturiol ddigwydd efo'r taleithiau yna.

A ddim jest stopio yn fanna: gan ein bod ni yn is-wladwriaeth, felly, mae yna is-wladwriaethau eraill dros y lle i gyd sydd efo cysylltiad naturiol, megis Bavaria, Baden-Württemberg, Hessen, Saxony, ac ati, Friesland, ac ati. Mae yna ddigon o bosibiliadau yn fan hyn, o gofio'ch daearyddiaeth. Diolch yn fawr.