Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 4 Mawrth 2020.
Diolch, Lywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith, sy'n waith rhagorol yn fy marn i? Wrth gwrs, rydym wedi gweld y strategaeth ryngwladol bellach ac mae llawer o'r argymhellion yn cael eu trafod yn y ddogfen newydd honno. Ac a gaf fi ganmol Llywodraeth Cymru am y gwaith y mae wedi'i wneud hyd yma ar wella ei hymgysylltiad â'r gymuned ryngwladol, yma yng Nghymru a thramor? Credaf fod yr ymgysylltiad hwnnw wedi gwella’n sylweddol, a chredaf ei bod ond yn deg fod gennym bresenoldeb ar lwyfan rhyngwladol. Dylwn sôn hefyd, wrth gwrs, am waith y grŵp trawsbleidiol a gadeirir gan Rhun ap Iorwerth yn hyn o beth. Credaf fod hwnnw hefyd wedi bod yn gyfrwng rhagorol ar gyfer sicrhau ein bod yn trafod y materion hyn mewn perthynas â'r agenda ryngwladol a'r rhagolygon y mae pob un ohonom yn dymuno’u cael, rwy'n credu, ar bob ochr i'r Siambr hon yn y dyfodol.
Mae rhai meysydd, wrth gwrs, lle credaf fod angen gwneud rhywfaint o waith ychwanegol, ac mae'n drueni na chyfeiriwyd at y rhain bob amser yn y strategaeth ryngwladol hyd yma. Un o'r rheini, wrth gwrs, yw'r cyfraniad aruthrol y gall ein cymunedau ffydd ei wneud i'n helpu gyda'r ymgysylltiad rhyngwladol hwnnw. Rydym eisoes wedi clywed gan ddau siaradwr heddiw am enw da llawer o arweinwyr Cristnogol Cymru yn y gorffennol, yn enwedig ein harweinwyr anghydffurfiol, a’r ffaith bod eu henwau’n aml yn cael eu hadrodd dramor ond yn llai adnabyddus yma. Ac wrth gwrs, gwyddom fod hanes Cymru wedi arwain at gysylltiadau aruthrol sydd gennym o hyd mewn llawer o'r gwahanol rannau hyn o'r byd, drwy gysylltiadau eglwysi unigol, gyda phrosiectau dramor mewn lleoedd fel Affrica, Asia ac America Ladin.
Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae gan y gymuned Fwslimaidd gysylltiadau cryf yn y dwyrain canol ac yn y dwyrain pell yn enwedig. A chredaf fod angen inni arfer y cyfleoedd hynny ychydig yn fwy, ac roedd yn siom i mi’n bersonol—ac i gymunedau ffydd yn fwy cyffredinol, rwy’n credu—na chyfeiriwyd at y rhain yn amlach yn y strategaeth ryngwladol pan gafodd ei chyhoeddi. Gwn ichi ymgysylltu â'r cymunedau ffydd hynny wrth ddatblygu’r strategaeth, a chredaf ei bod ychydig yn siomedig na roddwyd mwy o bwyslais arnynt.
Cafwyd cyfeiriadau, wrth gwrs, at chwaraeon fel ffordd o ymgysylltu â chymunedau dramor, a bu’n wych cael y cyfle ardderchog i ymgysylltu â Japan drwy Gwpan Rygbi'r Byd yn ddiweddar, ac y bydd y cysylltiadau hynny'n parhau i gael eu meithrin drwy ymweliad gan lysgennad Japan â Chaerdydd cyn bo hir. Credaf ei bod yn dda ein bod yn edrych ar dimau chwaraeon Cymru wrth iddynt fynd dramor er mwyn estyn allan i ymgysylltu â'r gymuned ryngwladol. Ond mae angen inni hefyd wahodd llygaid y byd i edrych ar Gymru drwy ein chwaraeon, a dyna pam y credaf ei bod yn bwysig iawn inni ddenu digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr a phwysig i'n gwlad yn y dyfodol. Gwn ein bod, yn hanesyddol, wedi gweithio'n galed iawn gyda gwledydd Celtaidd eraill i gyflwyno cais ar y cyd am gwpan Ewropeaidd. Felly, gadewch inni estyn am y sêr unwaith eto a dechrau tynnu’r mathau hynny o gynigion at ei gilydd yn y dyfodol, fel y gallwn sicrhau bod y sylw’n cael ei hoelio ar Gymru, a’n bod yn cael cyfle i ddenu ymwelwyr rhyngwladol na fyddent, a bod yn onest, yn manteisio ar y cyfle i ddod i ymweld â ni fel arall.
Y pwynt olaf y buaswn yn ei wneud yw bod angen y dull tîm Cymru hwn arnom i adeiladu ein henw da dramor. Roeddwn yn falch o weld bod hyn yn rhywbeth a gydnabuwyd yn y strategaeth ryngwladol, ac yn wir, mae'n wych ein bod wedi cael ymweliadau gan Aelodau'r Cynulliad â Seneddau yng Nghanada a mannau eraill dros y misoedd diwethaf, a gwn fod y Llywydd, er enghraifft, yn cynrychioli’r Cynulliad Cenedlaethol ym Mrwsel yr wythnos hon, yn ogystal â’r Prif Weinidog. A chredaf ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom, ni waeth beth fo'n plaid wleidyddol, i wneud yr hyn a allwn i weithredu fel llysgenhadon dros ein cenedl, ni waeth i ble yn y byd yr awn, pa bryd bynnag y teithiwn, a'n bod yn ymgysylltu, yn enwedig yn y byd gwleidyddol. Byddai'n wych clywed gan y Gweinidog, mewn ymateb i'r ddadl hon, a yw hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth wedi meddwl mwy amdano o ran sut y gallai helpu i sicrhau bod hynny’n digwydd.
Ond a gaf fi ganmol yr adroddiad, cymeradwyo ymateb cadarnhaol y Gweinidog, a dweud ein bod yn edrych ymlaen at weithio gyda chi ar y meinciau hyn, fel yr wrthblaid, i hyrwyddo Cymru gartref a thramor?