5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:04, 4 Mawrth 2020

Mi hoffwn i wneud ychydig o sylwadau yn gwisgo sawl het wahanol. Rydw i'n meddwl, yn gyntaf, rydw i'n rhyngwladolwr. Hynny ydy, rydw i'n gweld Cymru a'i lle yn y byd ac yn credu'n gryf mewn ymestyn ein rhwydwaith ni fel gwlad i bedwar ban byd, er mwyn y budd mae hynny'n dod i ni fel gwlad ond hefyd y lles sy'n dod o weld gwledydd yn gweithio'n agos efo'i gilydd wastad.

Rydw i hefyd yn siarad fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar faterion rhyngwladol. Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod gennym ni grŵp o'r math yna ac mae'n dda cael cefnogaeth o ar draws y pleidiau i'r grŵp hwnnw. Rydym ni'n trafod bob mathau o feysydd gwahanol o ran y math o ymgysylltu rhyngwladol mae Cymru yn ei wneud. Ac yn digwydd bod, mae'r cyfarfod nesaf rydym ni'n ei gynnal, ar 25 Mawrth, os ydw i'n cofio'n iawn, yn ymwneud â'r strategaeth ryngwladol yma, lle mae'r Gweinidog yn mynd i fod efo ni a chyfle i edrych yn ddyfnach eto ar y strategaeth.