Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 4 Mawrth 2020.
Nawr, rwy'n llwyr o blaid atal ac ymyrryd yn gynnar, ac rwy'n derbyn bod llawer ohonoch chi hefyd, fel grŵp cynghori'r Gweinidog, sydd wedi atgyfnerthu symudiadau tuag at atal. Yn bwysig, tanlinellodd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod cyfle i ddefnyddio gwariant ataliol yn well i sicrhau canlyniadau hirdymor gwell i'n plant. Fodd bynnag, mae lle i wella o hyd. Er enghraifft, er bod £5 miliwn wedi'i roi i 22 awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau ar ffiniau gofal yn 2017-18, mae'r comisiwn cyfiawnder yng Nghymru wedi bod yn amheus ynglŷn â llwyddiant y gwariant hyd yma. Mynegwyd pryder hefyd gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n dweud bod yr arian cyfyngedig sydd ar gael yn mynd yn gynyddol ar ddarparu cymorth brys i blant a theuluoedd sydd eisoes mewn argyfwng, gan adael fawr ddim i'w fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar. Yn bersonol, rwy'n cymeradwyo llwyddiant y rhaglen Troubled Families a lansiwyd gan Lywodraeth y DU yn 2012. Mae wedi gweld gwahaniaeth o 32 y cant yng nghyfran y plant sy'n derbyn gofal. Fel y dywedodd yr Athro Jonathan Portes o Goleg y Brenin, Llundain, effaith fwyaf sylweddol y rhaglen yw lleihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal.
Mae gan Lywodraeth Cymru ffordd bell i fynd i wella cyfleoedd bywyd y plant sy'n mynd i mewn i'r system ofal. Mewn perthynas ag addysg, yng nghyfnod allweddol 2, dim ond 58.3 y cant o blant sy'n derbyn gofal sy'n cyflawni'r dangosydd pynciau craidd, o'i gymharu â chyfartaledd o 87.8 y cant ledled Cymru. Yng nghyfnod allweddol 4, dim ond 10.9 y cant sy'n cyflawni'r dangosydd pynciau craidd, o'i gymharu â thua 60 y cant yn gyffredinol. Daw'r ffeithiau hynny er i'n Prif Weinidog presennol gyd-gyhoeddi 'Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru: Strategaeth' yn 2016. Gellir cyflawni cynnydd drwy ystyried menter Skolfam yn Sweden a chyflwyno premiwm plant sy'n derbyn gofal.
Nawr, o ran iechyd meddwl, canfu NSPCC fod plant sy'n derbyn gofal bum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef anhwylder iechyd meddwl o ryw fath, a naw gwaith yn fwy tebygol o gael anhwylder ymddygiadol. Ac mewn astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd, dangoswyd ffeithiau gwirioneddol frawychus am bobl ifanc mewn gofal preswyl, er enghraifft: hwy sy'n sgorio leiaf o ran lles meddyliol; mae 56 y cant wedi cael eu bwlio; a gwelwyd bod canran uwch ohonynt wedi bod yn feddw ac wedi defnyddio canabis yn ystod y mis diwethaf na phlant nad ydynt mewn gofal. Nawr, er bod Llywodraeth Cymru wedi addo rhagor o fuddsoddiad ar gyfer iechyd emosiynol a meddyliol pob plentyn a pherson ifanc, ni allaf anwybyddu'r ffaith ein bod ni yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn teimlo ei fod yn aneglur. Mae angen inni wybod faint yn union sy'n cael ei dargedu at blant sy'n derbyn gofal yn benodol. Sut y caiff ei fonitro o ran ei effaith ar gyflawni argymhellion 'Cadernid meddwl'? O ran dyfodol mwy disglair, mae canfyddiadau gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Chymdeithas y Plant yn dangos bod y rhai sy'n gadael gofal yn wynebu mwy o risg o fod yn ddigartref ac o fod yn dlawd.
Fe allai ac fe ddylai Cymru sicrhau dyfodol gwell na hyn i'n plant, ac mae yna gamau y gallwn eu cymryd. Er enghraifft, unwaith eto, argymhellodd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y dylai pob plentyn sydd wedi cael profiad o ofal gael gwybod fel mater o drefn am eu hawl i eiriolwr a chael gwybodaeth glir ynglŷn â sut i gael gafael ar yr ystod o wasanaethau eiriolaeth sydd ar gael. Nid yw'r rhain yn ofynion mawr, ond mae angen iddynt fod ar waith. Fodd bynnag, canfu TGP Cymru yn ddiweddar mai dim ond 5 y cant i 10 y cant o gartrefi plant yn y sector preifat sydd â threfniadau eiriolaeth ymweliadau preswyl ar waith. Felly, dylem weithredu hefyd ar alwadau gan Gymdeithas y Plant i helpu i sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru yn nodi plant ifanc sy'n wladolion Ewropeaidd yn eu gofal, ac sydd wedi gadael eu gofal, fel y gellir eu cynorthwyo i sicrhau eu statws neu eu dinasyddiaeth os oes angen. Yn yr un modd, mae angen i ni gefnogi trefniadau lleoli plant. Mae'r Rhwydwaith Maethu wedi adrodd bod Cymru angen 550 o deuluoedd maeth ychwanegol i sicrhau bod plant yn cyrraedd y cartref cywir yn gyntaf. Os na lwyddwn i gyflawni hyn, bydd rhai plant yn wynebu cael eu gwahanu oddi wrth eu brodyr a'u chwiorydd eu hunain. Mae awdurdodau lleol wedi dechrau ymuno â'r her recriwtio, ond mae angen i'ch Llywodraeth wneud mwy i'w cynorthwyo.
Mae'r un peth yn wir am rieni sy'n mabwysiadu, sy'n dod â mi at fy mhwynt olaf. Mae gennyf etholwraig sydd ag un plentyn maeth ac un plentyn wedi'i fabwysiadu. Mae hi'n daer, yn angerddol, eisiau cynnwys y plentyn maeth yn y teulu a dod yn rhiant sy'n mabwysiadu. Ar ôl gofyn iddi a oedd hyn yn mynd i ddigwydd, dywedodd 'na', a'r rheswm am hynny yn syml oedd y gostyngiad sylweddol yn y cymorth a fyddai'n dilyn. Yn aml iawn, pan fydd pobl yn symud o'r model maethu i'r model mabwysiadu, rydych ar eich pen eich hun i raddau helaeth iawn, ac nid yw'n gweithio fel hynny. Dylai'r cymorth ddal i fod ar gael i rieni sy'n mabwysiadu er mwyn cadw'r teuluoedd hyn gyda'i gilydd, ac rwyf wedi ymdrin â dau achos arall lle mae brodyr a chwiorydd wedi wynebu cael eu gwahanu o bosibl oherwydd gall y gofynion cymorth sydd ynghlwm wrth fabwysiadu brodyr a chwiorydd fod yn eithaf dwys. Nid oes dyletswydd ar unrhyw un i gefnogi rhieni sy'n mabwysiadu. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n gofyn i chi edrych o ddifrif ar hyn a cheisio cael mwy o'n plant, lle bo angen, i mewn i sefyllfaoedd lle mae rhieni'n mabwysiadu.
Gall sefyllfa plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru fod yn eithaf digalon, ond mae gennyf obaith ar gyfer y dyfodol, ac mae gennyf obaith i'r plant hyn. Gan weithio gyda'n gilydd yn drawsbleidiol yma ac mewn mannau eraill, credaf mai synnwyr cyffredin yw ein cynnig heddiw, dyma sydd ei angen, a byddai'n braf iawn pe gallai Llywodraeth Cymru gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.