6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Plant sy'n Derbyn Gofal

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 4:55, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad drwy gydnabod bod consensws trawsbleidiol cryf yng Nghymru fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cael y gofal a'r cymorth gorau sydd ar gael. Yr wythnos diwethaf, Ddirprwy Lywydd, gofynnais gwestiwn i'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles AC, am y cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n faes diddordeb yr hoffwn fynd ar ei drywydd heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £224,000 i awdurdodau lleol Cymru i gynorthwyo dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n gwneud cais i'r cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE. Y gyfran o'r cyllid hwnnw sy'n mynd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw £9,500, yn seiliedig ar amcangyfrif o 3,000 o ddinasyddion yr UE yn yr awdurdod lleol hwnnw. Felly, heddiw, rwyf wedi ysgrifennu at y cyngor i ganfod faint o'r 435 o blant sydd wedi cael profiad o ofal sy'n ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, a beth y mae'r awdurdod yn ei wneud i sicrhau bod eu statws o fewn y Deyrnas Unedig yn cael ei ddiogelu. Felly, hoffwn ehangu fy nealltwriaeth—os gall y Gweinidog fy helpu—ynglŷn â pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi a sicrhau bod awdurdodau lleol fel Caerffili yn nodi pa blant sy'n gymwys ar gyfer y cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd.  

Mae ystadegau'n dangos, fel y dywedwyd, fod nifer y plant mewn gofal yng Nghymru yn dal i gynyddu, fel sy'n wir ar draws y Deyrnas Unedig. Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae nifer y plant sy'n cael profiad o ofal yng Nghymru wedi codi 34 y cant, ac mae hon yn ffaith a ddylai beri i bawb ohonom oedi i feddwl. Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau'n cymell y duedd hon, gan gynnwys tlodi, amddifadedd, ac effeithiau gwirioneddol cyni a newidiadau i'r system les. Ni allwn anwybyddu hynny. Mae cyflwyno'r dreth ystafell wely, toriadau i fudd-daliadau a rhewi budd-daliadau, a'r gostyngiad yng nghyfraddau credyd cynhwysol yn enwedig, wedi taro'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru yn galetach na neb. Gwyddom mai materion ariannol yw'r sbardun mwyaf i chwalu teuluoedd, dirywiad iechyd meddwl a'r ysgogiad i gamddefnyddio sylweddau. Felly, rwy'n falch fod y Llywodraeth yma wedi gwneud y mater hwn yn flaenoriaeth.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £9 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i ehangu'r cymorth ar gyfer plant sydd wedi cael profiad o ofal ers 2017. Mae'r arian hwn wedi golygu bod gwasanaethau ar ffiniau gofal bellach ar gael ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae wedi arwain at sefydlu cronfa Dydd Gŵyl Dewi sy'n torri tir newydd, ac sydd wedi cefnogi bron 2,000 o bobl ifanc sy'n gadael gofal wrth iddynt bontio i fywyd fel oedolion. Ac mae wedi darparu ar gyfer cyflwyno'r rhaglen Reflect ledled Cymru, sy'n cefnogi rhieni ifanc y mae eu plant wedi cael eu rhoi yn y system ofal. Gwyddom fod hyn yn bwysig. Buddsoddir £15 miliwn arall dros y ddwy flynedd nesaf drwy'r gronfa gofal integredig i ehangu gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael gwasanaethau di-dor sy'n canolbwyntio ar y teulu ac yn eu cynorthwyo i aros gyda'i gilydd.

Mae'r rhain yn fentrau ymarferol, seiliedig ar gymorth sy'n gweithio. Mae angen i bob un ohonom sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cael y gofal a'r cymorth gorau sydd ar gael i'w galluogi i ffynnu mewn amgylchedd diogel a mwynhau'r un cyfleoedd ag y byddai unrhyw blentyn arall yn ei ddisgwyl. Mae pawb ohonom yn y Siambr yn rhieni corfforaethol yn yr ystyr hon. I'r perwyl hwnnw, rhaid inni gydnabod, does bosibl, fod yr oes hon o bolisi cyni Llywodraeth y DU yn niweidio cyfleoedd bywyd y plant tlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru a'r DU.