Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 4 Mawrth 2020.
Rwy'n nodi eich gwelliant gyda braw, mae'n rhaid i mi ddweud, ac ni fyddaf yn ei gefnogi, oherwydd yn gyntaf oll, ni allaf weld eich bod wedi cyflwyno unrhyw brawf o gwbl i ddweud bod (b) yn welliant dilys. A hefyd, fy mhrofiad i o'r hyn y mae pobl—ar ôl siarad â phlant mewn gofal a chymryd achosion, yn aml iawn, mae'r cysylltiad yn cael ei dorri oherwydd mai dyna sydd orau er lles y plentyn; nid yw byth yn cael ei dorri fel arall.