7. Dadl Plaid Cymru: Anhwylderau Bwyta

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:45, 4 Mawrth 2020

Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Mi es i i'r digwyddiad amser cinio heddiw yma yn y Senedd, wedi'i drefnu i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, wedi'i drefnu gan y grŵp Beat, ac wedi'i noddi gan Bethan Sayed. A gaf i ddweud wrthych chi mor falch ydw i fy mod i wedi mynd i'r digwyddiad hwnnw ac i allu gwrando ar ferched ifanc yn egluro mor huawdl sut oedd eu bywydau nhw wedi cael eu taro gan anhwylderau bwyta: y pwysau i gydymffurfio yn y lle cyntaf o ran siâp eu cyrff neu eu hedrychiad; y diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth oedd ganddyn nhw o'r peryg y gallan nhw syrthio i drap anhwylderau bwyta; sut doedden nhw ddim wedi sylweddoli bod problem yn datblygu arnyn nhw tan fod y broblem honno wedi troi yn un ddifrifol; a sut roedd yr ymateb i'w cri nhw am help, neu eu cais am gymorth gan y gwasanaeth iechyd, wedi bod yn annerbyniol o wael?

Ac mae hynny yn sicr yn fy argyhoeddi i y dylem ni fod yn cymryd anhwylderau bwyta yn llawer iawn mwy o ddifrif nag rydym ni wedi bod yn eu cymryd nhw o ran yr angen am frys. A dyna, mewn difrif, ydy gofyniad Beat a'r merched ifanc yna wnes i glywed ganddyn nhw heddiw yma—i weithredu efo brys. Ac mae'r cyfarwyddiadau ar beth ddylen ni fod yn ei wneud gennym ni, achos mae'r adolygiad wedi cael ei gynnal. Yr hyn rydym ni'n ei ofyn amdano fo, yn syml iawn, ydy gweithredu'r hyn a ddaeth allan o'r adolygiad hwnnw.

Cael gwasanaethau o safon sydd eu hangen ar fechgyn a merched sydd yn dioddef o'r salwch meddwl yma; sicrhau bod yna gysondeb mewn gwasanaethau ar draws Cymru; sicrhau ein bod ni'n datblygu ffyrdd o fonitro'r gofal sydd yn cael ei roi; sicrhau bod staffio yn cael sylw digonol, a bod y cyllidebau yno mewn lle ar lefel ein byrddau iechyd ni i weithredu system sydd yn briodol; a sicrhau ein bod ni'n dysgu ein meddygon ifanc ni ynglŷn ag anhwylderau bwyta, a bod yna fwy o amser na'r llai na dwy awr sy'n cael ei gynnig i feddygon ifanc yn eu hyfforddiant ar hyn o bryd, a bod yr amser yna yn cael ei gynyddu fel bod yna ddealltwriaeth ymhlith y gweithlu iechyd drwyddo draw ynglŷn â difrifoldeb hyn. 

Mae'r patrwm yna yn dilyn yr adolygiad. Gadewch inni, drwy'r ddadl fer yma heddiw yma, wneud y pwynt fel Senedd ein bod ni'n disgwyl i'r argymhellion yna gael eu gweithredu, a hynny ar frys, er mwyn ein pobl ifanc ni.