– Senedd Cymru ar 4 Mawrth 2020.
Eitem 7 ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar anhwylderau bwyta, a galwaf ar Bethan Sayed i gyflwyno’r cynnig—Bethan.
Cynnig NDM7288 Siân Gwenllian
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2020 yn cael ei chynnal rhwng 2 Mawrth a 8 Mawrth ac y bydd y ffocws eleni ar bwysigrwydd grymuso a chefnogi teuluoedd a chyfeillion.
2. Yn credu:
a) bod anhwylderau bwyta yn salwch meddwl difrifol gyda chyfraddau marwolaeth uchel;
b) bod gwellhad yn bosibl;
c) gall teuluoedd a chyfeillion chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi adferiad.
3. Yn cymeradwyo'r rhai a fu'n gweithio ar yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gymerodd ran ynddo, ac uchelgais yr adolygiad i greu gwasanaeth anhwylderau bwyta o safon fyd-eang i Gymru, sy'n hygyrch i bawb sydd ei angen.
4. Yn credu y bydd grymuso a chefnogi teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr eraill yn hanfodol i wireddu'r uchelgais hwn.
5. Yn gresynu at y cyfnod estynedig o amser a gymerodd Llywodraeth Cymru i ymateb i gasgliadau adolygiad 2018 o'r gwasanaeth.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r holl randdeiliaid eraill i sicrhau bod argymhellion yr Adolygiad Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 yn cael eu gweithredu'n llawn.
Diolch. Wel, mae'r ddadl hon i’w gweld yn amserol heddiw oherwydd i mi ddechrau fy ngyrfa yn 2007 gyda dechrau'r grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta, ac rwy'n gorffen y rhan hon o fy ngyrfa cyn mynd ar gyfnod mamolaeth heddiw gyda dadl ar anhwylderau bwyta a'r fframwaith anhwylderau bwyta. Felly, mae'n ddiwrnod emosiynol, a byddwch yn amyneddgar os ydw i'n mynd yn fyr o anadl neu'n emosiynol.
Cawsom ddigwyddiad heddiw gyda Beat Cymru i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, a dyna pam roeddwn i eisiau cael y ddadl hon heddiw, oherwydd credaf ei bod hi'n wythnos bwysig y dylem ei nodi bob blwyddyn i sicrhau y gallwn geisio codi ymwybyddiaeth o wasanaethau anhwylderau bwyta yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, a hefyd i sicrhau ein bod yn rhoi polisïau Llywodraeth cryf ar waith i sicrhau nad oes raid inni ei drafod yn barhaus, ond bod gennym wasanaethau cryf ar waith i sicrhau ein bod yn targedu’r clefyd hollbresennol hwn.
Yn aml caiff ei yrru gan ddiffyg ymwybyddiaeth. Mae pobl yn dweud yn aml iawn mai deiet wedi mynd o'i le ydyw. Mae pobl yn wynebu pwysau enfawr mewn cymdeithas, o drawma yn ystod plentyndod i gamdriniaeth, i'r lluniau a welwn ar gyfryngau cymdeithasol bob dydd—mae pawb ohonom yn gwybod amdano, ac mae pawb ohonom yn gwybod ei fod yn effeithio nid yn unig ar fenywod ond ar bawb yn y gymdeithas. Gall diffyg hunan-barch cyffredinol neu gysylltiad â chyflyrau iechyd meddwl eraill ddwysau'r anhwylder bwyta hwnnw wrth gwrs.
Mae yna nifer o resymau y tu ôl i bob achos unigol o anhwylder bwyta. Nid oes neb a gyfarfûm erioed wedi cael yr un enghraifft yn union o anhwylder bwyta. Ond rwy’n gwybod mai dyma’r broblem iechyd meddwl sydd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau yn y DU, ac eto mae angen inni ddal i gydnabod y ffaith bod diffyg buddsoddiad enbyd, nid yma yng Nghymru yn unig ond mewn rhannau eraill o’r DU, ac mae angen inni newid hynny.
Mae 1.25 miliwn o bobl yn y DU yn byw gydag anhwylder bwyta, ond gallai hwn fod yn dangyfrif, oherwydd yn syml iawn, nid yw rhai pobl yn cydnabod bod ganddynt anhwylder bwyta, oherwydd fel gyda phroblemau iechyd meddwl eraill, yn aml ni fyddwn yn ei adnabod ynom ein hunain. Ac yn aml, ac yn enwedig dynion, maent yn ei anwybyddu'n llwyr ac nid ydynt yn gwybod sut i droi at bobl i ofyn am gefnogaeth.
Mae triniaeth yn bosibl ac mae cymorth yn bosibl. Ond cefais drafodaethau gyda phobl sydd ag anhwylderau bwyta dros y blynyddoedd ynglŷn â'r gair 'adferiad' ac mae rhai pobl yn dweud wrthyf na fyddant byth yn gwella'n llwyr o anhwylder bwyta, ond yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw bod y ffordd i wellhad yno i bawb ohonom os ydym am ei dilyn ac y gallwn ymdopi ag anhwylder bwyta hyd yn oed os yw'n aros gyda ni am weddill ein hoes.
Hoffwn ddweud bod—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf—Nick.
Rydych chi newydd fynd â mi yn ôl i 2007, a chredaf fod eich grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta yn un o'r grwpiau trawsbleidiol cyntaf i mi eu mynychu, a daethoch â dyn ifanc gyda chi i'r cyfarfod hwnnw a oedd wedi bod yn dioddef o anhwylder bwyta. Felly, rwy'n credu bod y pwynt a wnaethoch, fod dynion yn aml yn amharod i gyfaddef bod ganddynt anhwylder bwyta neu broblem iechyd meddwl ehangach, yn broblem benodol. Felly, efallai fod hynny'n rhywbeth y gellir mynd i'r afael ag ef wrth symud ymlaen, fel bod y nifer fawr o bobl nad ydynt wedi’u cofnodi yn camu ymlaen ac yn dweud—dal eu llaw a dweud, 'Hei, mae gennyf broblem.'
Diolch am ddod i'r cyfarfod cyntaf hwnnw, Nick. Rwy'n credu eich bod chi'n siarad am James Downs sydd wedi bod yn ymgyrchydd anhygoel. Mae wedi symud i Loegr bellach ac mae'n gwneud yr un math o ymgyrchu ag y gwnaeth yma. Felly, mae ganddo fynydd i'w ddringo, ond mae'n dal i chwarae rhan fawr, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn annog y bobl hynny i gamu ymlaen.
Y broblem i lawer o bobl, rwy’n credu, yw bod yr aros yn aml yn beryglus o hir a bod y ddarpariaeth o wasanaethau yn dameidiog mewn sawl ardal. Mewn rhai ardaloedd maent yn dda iawn, ond mewn ardaloedd eraill, prin eu bod yn bodoli—os edrychwn ar ganolbarth Cymru, mae'n anodd iawn cael mynediad at y gwasanaethau hynny. A’r hyn sydd ei angen arnom yw cymorth mwy cyson—pan fydd ganddynt fynediad at y gwasanaethau hynny yn y gymuned, dywed llawer o bobl nad oes ganddynt grwpiau cefnogi i fynd iddynt wedyn, lle gallant gyfarfod â phobl eraill a gallant rannu eu profiadau gyda phobl eraill.
Yn 2018 arweiniodd Dr Jacinta Tan adolygiad fframwaith anhwylderau bwyta Llywodraeth Cymru. Hwn oedd yr adolygiad y buom yn ymgyrchu amdano yn ôl yn 2007, adolygiad a roddwyd ar waith gan Edwina Hart, fel y Gweinidog ar y pryd. Ac yna fe wnaethom ymgyrchu i'r adolygiad ddigwydd ym mis Tachwedd 2018. I fod yn deg â Jacinta Tan, roedd yr adolygiad yn gryf iawn, yn gadarn iawn, ac roedd gofalwyr, cleifion a'u teuluoedd wedi cymryd rhan ynddo, a theimlent eu bod yn cael eu cynnwys ac yn rhan o'r broses. Yr unig beth a berai bryder i mi ar y pryd oedd bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd amser eithaf hir i gynnig unrhyw syniadau ynglŷn â sut y byddent yn gweithredu'r adolygiad hwnnw, a chredaf y byddem yn annog Llywodraeth Cymru yma heddiw i ddweud wrthym sut y bwriadant roi'r newidiadau yn yr adolygiad ar waith i'w wireddu.
Amserau aros—mae llawer o gyflyrau eraill yn broblem yma. Gwyddom o gronfa ddata cyfnodau cleifion Cymru fod amseroedd aros y GIG yn ychwanegol at yr amser helaeth y mae’n aml yn ei gymryd i lawer o bobl gamu ymlaen a gofyn am gymorth ar gyfer eu cyflwr. Felly, gallai hyn olygu aros hyd at dair blynedd fan lleiaf. Felly, yn yr adolygiad o’r gwasanaeth, argymhellir na ddylid aros mwy na phedair wythnos ar gyfer atgyfeiriadau nad ydynt yn rhai brys ac un wythnos ar gyfer atgyfeiriadau brys. Ac eto, mae hyn ymhell iawn o’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae’n destun pryder, fel y dywedais, fod Llywodraeth Cymru i’w gweld yn bell iawn o'i weithredu, felly hoffwn wybod pryd y maent yn mynd i wneud hynny.
Felly, er bod yr amseroedd aros yn broblem, mae mynediad yn broblem hefyd. Ac rwyf wedi colli cyfrif ar y nifer o weithiau mae pobl wedi dweud wrthyf na allant fanteisio ar wasanaethau’n ddigon cyflym iddynt allu trin eu hanhwylder bwyta.
Ac mae nifer ohonynt—. Nid wyf am feirniadu gweithwyr iechyd proffesiynol yn benodol, ond rydym yn gwybod, os ewch at eich meddyg teulu—nid ydynt yn arbenigwyr, ond nid ydynt yn gwybod, weithiau, at bwy i atgyfeirio claf, nid ydynt yn gwybod beth yw'r prosesau. Felly, rwy'n credu bod angen llawer mwy o hyfforddiant yn hynny o beth. Ac yna sonia'r adolygiad am ddull o ddarparu gwasanaethau ar gyfer pob oedran a fyddai’n dileu rhai o’r heriau y mae trosglwyddo rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed a gwasanaethau oedolion yn aml yn eu hachosi. Nid wyf am i fy amser ddod i ben cyn i mi allu crynhoi; rwy'n sylweddoli fy mod yn mynd yn arafach nag arfer.
Fe glywais gan lysgennad Beat, Zoe John, yma heddiw a ddywedodd eu bod wedi barnu nad oedd hi'n ddigon tenau i gael triniaeth, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl anfaddeuol. Mae angen inni adolygu'r BMI, hyd yn oed os nad ydych am ei ddileu. Pe bawn i'n aelod o'r Llywodraeth, buaswn yn ei ddileu, oherwydd hyd yn oed os na fydd gennych anhwylder bwyta ar y cychwyn, gallech gael anhwylder bwyta am eu bod yn dweud wrthych eich bod yn rhy drwm neu fod angen i chi wneud pethau penodol i'ch ffordd o fyw er eich bod yn gwneud hynny'n barod efallai, ac rwy'n credu ei bod hi'n allweddol inni edrych ar hynny, ac ni chafodd sylw yn yr adolygiad hwn o anhwylderau bwyta.
Ceir cymaint o straeon y mae pobl wedi'u dweud wrthyf, ond bu'n fraint cael arwain y grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta ac rwy'n gobeithio y byddwch yn bwrw ymlaen â'r gwaith tra byddaf oddi yma ac yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r newidiadau i'r adolygiad fel y gallaf ddod yn ôl ac y gallaf fod—wel, ni fydd gennyf lawer i'w wneud bryd hynny. [Chwerthin.] Felly, ni chaf amser i ymateb i chi; bydd yn rhaid i chi ddod â rhywun arall i mewn. Ond diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig a galwaf ar Angela Burns i gynnig y gwelliannau, 1 a 2, yn enw Darren Millar.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd dros dro. A Bethan Sayed, hoffwn roi rhybudd teg i chi, os ydych yn credu, pan fydd eich bwndel bach o lawenydd wedi dod i'r byd, y bydd gennych lai i'w wneud, rydych chi'n camgymryd yn arw. [Chwerthin.] Ond mae'n mynd i fod yn daith wych, ac rwy'n dymuno'r gorau i chi. Hoffem ni, ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig, ddiolch yn fawr i chi am bopeth a wnaethoch yma yn y Cynulliad ar ddatblygu'r maes pwysig hwn, oherwydd mae'n bwysig. Mae'n effeithio ar gynifer o bobl, nid yn unig y rheini sydd â chyflwr o anhwylderau bwyta, ond hefyd y teuluoedd a'r ffrindiau. Rydych chi wedi dweud llawer iawn o'r pethau roeddwn i eisiau eu dweud a hynny'n daclus iawn.
Rydym yn cefnogi'r cynnig yn llwyr, ond byddwn yn ei wrthwynebu er mwyn cael ein gwelliant wedi'i glywed. Y rheswm pam ein bod am gael ein gwelliant wedi'i glywed yw ein bod yn credu ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i siarad gwag—mae angen i'r Dirprwy Weinidog weithredu bellach ac mae angen inni weld symud ar hyn a chael gwasanaeth anhwylderau bwyta. Mae'n dweud y cyfan yn y fan hon; nid oes angen i mi ei ailadrodd. Y cyfan sydd angen inni ei wneud yw gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud ac mae angen inni ei ddweud yn awr.
Mae amser yn hollbwysig. Mae canfod ac ymyrryd yn gynnar yn un o egwyddorion sylfaenol yr adolygiad hwn, ac mae'r holl weithwyr proffesiynol yn cydnabod bod ymyrraeth gynnar mor bwysig. Ac eto, mae gennyf etholwyr sy'n aros am flynyddoedd yn llythrennol ar ôl i'w hanhwylder bwyta ddechrau cyn iddynt ddechrau cael unrhyw fath o driniaeth. Ac os ydynt yn ddigon lwcus i gael triniaeth, yn aml iawn ni fydd ond yn para am chwe wythnos. Wel, beth ar y ddaear y mae chwe wythnos yn mynd i'w wneud pan fydd angen cymorth a dealltwriaeth iechyd meddwl arnoch i fynd ar daith hir iawn?
Mae'r amseroedd aros yn hir, ond mae'n ymwneud hefyd â chael y diwrnod hwnnw a'r driniaeth breswyl. Ac rwyf wedi cael etholwyr—rhieni—yn dod ataf ac yn dweud bod eu meddyg teulu wedi dweud wrthynt, 'Eich bet gorau yw mynd i'r Priory yn Llundain, neu i Clouds'—neu beth bynnag yw ei enw—'yn Wiltshire.' Wel, nid yw hwnnw'n ateb. Oherwydd mae angen cymorth preswyl ar y sawl rydych chi'n pryderu amdanynt i'w cael drwy hyn, ac mae gwir angen inni edrych ar hyn.
Yr un pwynt rwyf am fynd ar ei drywydd yw'r holl faes sy'n ymwneud â rhoi mwy o brofiad o bob mater iechyd meddwl i feddygon teulu yn ystod eu hyfforddiant, gan gynnwys anhwylderau bwyta. Rwy'n siarad o fy mhrofiad personol fy hun, o fewn fy nheulu, pan glywyd y neges, 'Tynnwch eich hun at eich gilydd', a 'Mynd drwy gyfnod y mae hi.' Wyddoch chi—ie, cyfnodau yw'r hyn rydych chi'n mynd drwyddynt pan fyddwch chi'n tyfu o fod yn 5 troedfedd 3 modfedd i fod yn 5 troedfedd 4 modfedd. Gallwch alw hwnnw'n gyfnod, ond nid yw anhwylderau bwyta'n gyfnod. Credaf fod gwir angen inni sicrhau bod meddygon teulu, am mai hwy yw'r rheng flaen, yn deall bod angen i bob problem iechyd meddwl gael ei thrin yn dda, a bod anhwylderau bwyta yn rhywbeth go iawn, mae'n gyflwr, mae'n glefyd. Ac os gallwch helpu rhywun i ymdopi a dysgu byw gydag ef a'i reoli a'i goncro, gobeithio, fe gânt ganlyniad cymaint yn well mewn bywyd.
Felly, un o'r pethau rwyf o ddifrif eisiau ei hyrwyddo yw hyfforddiant ychwanegol o'r fath i feddygon teulu, wedi'i gylchdroi yn y gymuned, wedi'i gylchdroi mewn gwasanaethau iechyd meddwl a deall ei bwysigrwydd. Diolch i chi unwaith eto am gyflwyno'r ddadl hon—a phob lwc, fe gewch amser gwych.
Galwaf yn awr ar Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Mi es i i'r digwyddiad amser cinio heddiw yma yn y Senedd, wedi'i drefnu i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, wedi'i drefnu gan y grŵp Beat, ac wedi'i noddi gan Bethan Sayed. A gaf i ddweud wrthych chi mor falch ydw i fy mod i wedi mynd i'r digwyddiad hwnnw ac i allu gwrando ar ferched ifanc yn egluro mor huawdl sut oedd eu bywydau nhw wedi cael eu taro gan anhwylderau bwyta: y pwysau i gydymffurfio yn y lle cyntaf o ran siâp eu cyrff neu eu hedrychiad; y diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth oedd ganddyn nhw o'r peryg y gallan nhw syrthio i drap anhwylderau bwyta; sut doedden nhw ddim wedi sylweddoli bod problem yn datblygu arnyn nhw tan fod y broblem honno wedi troi yn un ddifrifol; a sut roedd yr ymateb i'w cri nhw am help, neu eu cais am gymorth gan y gwasanaeth iechyd, wedi bod yn annerbyniol o wael?
Ac mae hynny yn sicr yn fy argyhoeddi i y dylem ni fod yn cymryd anhwylderau bwyta yn llawer iawn mwy o ddifrif nag rydym ni wedi bod yn eu cymryd nhw o ran yr angen am frys. A dyna, mewn difrif, ydy gofyniad Beat a'r merched ifanc yna wnes i glywed ganddyn nhw heddiw yma—i weithredu efo brys. Ac mae'r cyfarwyddiadau ar beth ddylen ni fod yn ei wneud gennym ni, achos mae'r adolygiad wedi cael ei gynnal. Yr hyn rydym ni'n ei ofyn amdano fo, yn syml iawn, ydy gweithredu'r hyn a ddaeth allan o'r adolygiad hwnnw.
Cael gwasanaethau o safon sydd eu hangen ar fechgyn a merched sydd yn dioddef o'r salwch meddwl yma; sicrhau bod yna gysondeb mewn gwasanaethau ar draws Cymru; sicrhau ein bod ni'n datblygu ffyrdd o fonitro'r gofal sydd yn cael ei roi; sicrhau bod staffio yn cael sylw digonol, a bod y cyllidebau yno mewn lle ar lefel ein byrddau iechyd ni i weithredu system sydd yn briodol; a sicrhau ein bod ni'n dysgu ein meddygon ifanc ni ynglŷn ag anhwylderau bwyta, a bod yna fwy o amser na'r llai na dwy awr sy'n cael ei gynnig i feddygon ifanc yn eu hyfforddiant ar hyn o bryd, a bod yr amser yna yn cael ei gynyddu fel bod yna ddealltwriaeth ymhlith y gweithlu iechyd drwyddo draw ynglŷn â difrifoldeb hyn.
Mae'r patrwm yna yn dilyn yr adolygiad. Gadewch inni, drwy'r ddadl fer yma heddiw yma, wneud y pwynt fel Senedd ein bod ni'n disgwyl i'r argymhellion yna gael eu gweithredu, a hynny ar frys, er mwyn ein pobl ifanc ni.
Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch. Hoffwn ddiolch i Bethan am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a defnyddio'r cyfle hefyd i ddiolch iddi am yr holl waith y mae wedi'i wneud yn y maes hwn, a'r modd y mae hi wedi'i wneud yn faes gwaith pwysig iawn i'r Cynulliad, ac am ei holl waith gyda'r grŵp trawsbleidiol, ac i ddymuno'r gorau i chi ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n falch iawn o gael cyfle heddiw i dynnu sylw at Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta ac i bwysleisio'r gwaith sy'n cael ei wneud i wella'r gwasanaeth anhwylderau bwyta yng Nghymru. Rwy'n derbyn yn llwyr fod anhwylderau bwyta'n gyflyrau difrifol sy'n effeithio nid yn unig ar y rhai sydd â'r cyflwr, ond y gallant gael effaith enfawr ar fywydau teuluoedd a chyfeillion. Ac mae ffrindiau a theuluoedd yn aml yn allweddol yng ngofal holistaidd y rhai sydd ag anhwylderau bwyta, ac mae'n addas fod pwyslais yr wythnos hon ar rymuso a chefnogi'r ffrindiau a'r teuluoedd hyn.
Hoffwn ymuno ag Aelodau'r Cynulliad i ganmol y rhai sydd wedi gweithio a chymryd rhan yn adolygiad y gwasanaeth anhwylderau bwyta. Fel y dywedodd Bethan, yn 2018, comisiynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Jacinta Tan o Brifysgol Abertawe i adolygu gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru ac i benderfynu pa newidiadau y mae angen eu gwneud er mwyn gwella gwasanaethau a chanlyniadau.
Rwy'n gwybod—a chredaf fod Bethan wedi dweud hyn ar y dechrau—fod profiad y rhai sydd ag anhwylderau bwyta a'u teuluoedd yn gwbl ganolog i gasgliadau Dr Tan, ac rwy'n ddiolchgar yn bersonol am y buddsoddiad y mae'r bobl hyn wedi'i wneud tuag at wella gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru. Rwy'n gwybod y gall fod yn anodd iawn—disgrifiodd Rhun yn fyw iawn y menywod ifanc a gyfrannodd at y digwyddiad amser cinio. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod y brwydrau y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu yn gwbl ganolog i benderfyniadau polisi. Cefais fy nharo hefyd gan yr hyn a ddywedodd Bethan am—rwy'n credu mai Zoe John a ddywedodd nad oedd hi'n ddigon tenau. Mae'r adolygiad yn eithaf clir na ddylid ar unrhyw gyfrif ddweud wrth gleifion sydd angen triniaeth nad ydynt yn ddigon sâl. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.
Mae adolygiad Dr Tan yn darparu dadansoddiad eang o wasanaethau anhwylderau bwyta cyfredol a gwnaeth nifer o argymhellion pwysig sy'n adlewyrchu'r hyn y gallai gwasanaethau ei gyflawni yn fwy hirdymor. Mae'r adolygiad yn sôn am rôl ffrindiau a theuluoedd yn cyfranogi yn y driniaeth: yn bod yn gynghreiriaid i therapyddion a chymell eu hanwyliaid. Mae hefyd yn cydnabod yr aberth emosiynol, ariannol a galwedigaethol a wneir i gefnogi ffrindiau a theulu.
Mae'r adolygiad yn argymell y dylid ystyried anghenion a safbwyntiau teuluoedd y rhai sydd ag anhwylderau bwyta wrth ddatblygu polisi a llunio gwasanaethau, a'u cynnwys yn nhriniaeth eu hanwyliaid. Rwy'n cefnogi'r egwyddor hon yn llwyr ac yn disgwyl i hyn, ynghyd ag egwyddorion eraill sy'n sail i'r adolygiad, lywio datblygiad gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru.
Ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y byrddau iechyd yn nodi'r camau y mae'n disgwyl iddynt gael eu cymryd mewn ymateb i'r adolygiad: ad-drefnu gwasanaethau tuag at ymyrraeth gynharach; gweithio tuag at gyflawni safonau NICE ar gyfer anhwylderau bwyta o fewn dwy flynedd; a datblygu cynlluniau i gyrraedd targed amser aros o bedair wythnos o fewn dwy flynedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn sylwadau gan bob bwrdd iechyd yn nodi dull awgrymedig ar gyfer cyflawni'r targedau hyn gan sicrhau bod cynlluniau mwy hirdymor yn cyd-fynd ag uchelgais yr adolygiad.
Mae'n amlwg y bydd angen cyllid ychwanegol er mwyn dechrau darparu'r lefel o wasanaethau sydd eu hangen yng Nghymru, ac mae swyddogion wrthi'n datblygu dull o ariannu a fydd yn ein galluogi i wneud cynnydd. Gwn y byddai llawer o bobl yn hoffi gweld hyn yn digwydd yn gyflymach ac rwy'n credu mai dyna oedd thema'r cyfraniadau yma heddiw, ond mae hwn wedi bod yn adolygiad sylweddol, sy'n galw am ei ddadansoddi'n fanwl. Bu'n rhaid ymgysylltu â chlinigwyr i brofi'r argymhellion a sicrhau ein bod yn symud ymlaen mewn ffordd sy'n ystyried y cynnydd a wnaed eisoes mewn sawl maes. Ac i gefnogi'r cynnydd hwn, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd adnodd cenedlaethol ar gael i sicrhau bod modd gwneud y cynnydd a welir mewn rhai rhannau o'r wlad ar draws Cymru, oherwydd roedd y broblem fod y gwasanaethau'n dameidiog ar draws Cymru'n bwynt pwysig arall a wnaethpwyd.
Er ei bod yn bwysig i fyrddau iechyd ddarparu gwasanaethau yn eu hardaloedd, mae angen inni sicrhau bod pobl sy'n byw yng Nghymru yn gallu disgwyl triniaeth ragorol ar gyfer anhwylderau bwyta, lle bynnag y maent yn byw. Mae'r newidiadau rydym yn gweithio tuag atynt yn uchelgeisiol ac yn adlewyrchu maint yr her sy'n ein hwynebu, ac ni fydd y newidiadau hyn yn digwydd dros nos. Mae'r gwaith a wnaed gan weithwyr proffesiynol, y rhai ag anhwylderau bwyta a'u teuluoedd ar ddatblygu'r adolygiad wedi bod yn allweddol ar gyfer pennu'r camau sy'n cael eu cymryd i wella gwasanaethau yng Nghymru. Felly, mae cynllun clir ar y gweill.
Hoffwn gloi, a dweud y gwir, drwy ddiolch i Bethan am gyfrannu at y sefyllfa sydd gennym. Mae gennym gynllun clir rydym yn gweithio tuag ato, ond mae'n gymhleth a bydd yn cymryd amser. Ond fel y clywsoch yn fy araith, rhoddir terfynau amser ar gyfer cyrraedd y sefyllfa rydym am fod ynddi.
Galwaf yn awr ar Bethan Sayed i ymateb i'r ddadl.
Diolch i chi, a diolch i'r rhai sydd wedi cyfrannu; rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb a gawsom. Rwyf am ddechrau gyda hyn: fe ddywedoch chi, Ddirprwy Weinidog, na fydd yn digwydd dros nos, ac rwy'n sylweddoli y bydd unrhyw newid i'r gwasanaethau yn cymryd amser, ond credaf mai'r hyn yr hoffwn eich annog i'w wneud yn yr ystyr honno, felly, yw sicrhau bod y bobl a gyfrannodd at yr adolygiad—boed yn gleifion, boed yn ofalwyr, boed yn geraint—yn cymryd rhan lawn yn yr amserlenni sydd gennych.
Oherwydd fe wnaethant ddweud wrthyf fod gostyngiad wedi bod ar ôl iddynt gyfrannu at adolygiad Jacinta Tan, ac na chawsant wybod gan Lywodraeth Cymru beth oedd yn digwydd. Ni chawsant eu cynnwys. Ac nid oes mwy y maent eisiau gallu ei wneud na chael gwybod beth sy'n digwydd a chael cymryd rhan. Felly, hoffwn eich annog, hyd yn oed os ydych chi'n mynd i ddweud wrthynt, 'Mae'n mynd i gymryd ychydig o amser, byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda', wyddoch chi beth, nid ydynt yn mynd i'ch beirniadu am hynny, oherwydd maent yn gwybod eich bod yn rhoi'r wybodaeth honno iddynt? Felly, byddwch yn ymwybodol o hynny.
Rydych yn dweud y bydd angen arian ychwanegol a'ch bod yn cysylltu â gweision sifil i edrych ar sut y bydd hynny'n digwydd. Yn amlwg, fe fyddwch wedi darllen yn adolygiad Jacinta Tan y byddai'n rhagweld bod angen tua £9 miliwn i allu gwneud hynny. Felly, hoffwn ddeall beth y mae eich gweision sifil yn ei wneud o ran costio gwahanol fodelau a sut y byddant yn ymdrin â hynny mewn gofynion cyllidebol yn y dyfodol, felly. Oherwydd wrth gwrs, ar hyn o bryd, yr £1 filiwn o arian rheolaidd y buom yn ymgyrchu drosto yn 2007 ydyw o hyd, ac mae pethau wedi newid ers hynny. Oes, mae pocedi o arian wedi mynd i wahanol wasanaethau, fel pontio ac yn y blaen, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei groesawu'n llwyr, ond yn ei hanfod mae'n dal yn eithaf bach o gymharu â chyllideb y GIG yn ei chyfanrwydd. Ac fel y dywedasom, unwaith eto, mae pobl yn marw o'r cyflwr hwn, ac rydym am atal hynny rhag digwydd yn y dyfodol.
Felly, rwyf am orffen yn awr, a hoffwn ddweud nad yw'n rhywbeth a ddylai fod—. Fel y byddwn yn trafod yn y ddadl nesaf, mae pob ffurf ar iechyd meddwl yn bwysig, ond yn benodol, nid yw anhwylderau bwyta yn perthyn i faes iechyd yn unig, maent yn perthyn i fyd addysg hefyd. Mae llawer o bobl wedi dweud wrthyf eu bod yn mynd i'r ysgolion a byddent yn hoffi cael mwy o wybodaeth ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu iddynt. Dywedodd Emily Hoskins, a oedd yma'n gynharach, fod ei thad yn athro a bod pobl yn dweud wrth bobl yn yr ysgol—am eu bod yn gwybod bod gan Emily anhwylder bwyta—pe bai ganddynt anhwylder bwyta yn yr ysgol honno y gallent fynd i'w weld. Wel, roedd yn ymdopi â hynny fel gofalwr, ac yna'n dod i mewn a phobl yn cyfeirio pobl ato am help gydag anhwylderau bwyta. Nid oedd hynny'n briodol mewn gwirionedd.
Felly, rwy'n credu bod angen inni edrych ar bob elfen o gymdeithas a sut y gall nid yn unig y system addysg ddarparu ar gyfer y rhai sydd ei angen, ond hefyd sut y gellir diwygio'r system iechyd wedyn i sicrhau bod y rhai sydd angen triniaeth yn ei chael yn amserol ac yn cael y driniaeth y maent ei hangen ar gyfer eu gofynion eu hunain, yma yn y gymdeithas.
Felly, diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth gymryd rhan, a gobeithio y bydd newidiadau ar y gweill er mwyn sicrhau bod y newidiadau hynny yn helpu'r bobl sydd ar y rheng flaen, fel eu bod nhw ddim yn mynd mor sâl fel bod angen iddyn nhw fynd mewn i uned driniaeth yn Lloegr, a'u bod nhw'n gallu aros yn y gymuned i gael y driniaeth benodol honno.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.