Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 4 Mawrth 2020.
Diolch am ddod i'r cyfarfod cyntaf hwnnw, Nick. Rwy'n credu eich bod chi'n siarad am James Downs sydd wedi bod yn ymgyrchydd anhygoel. Mae wedi symud i Loegr bellach ac mae'n gwneud yr un math o ymgyrchu ag y gwnaeth yma. Felly, mae ganddo fynydd i'w ddringo, ond mae'n dal i chwarae rhan fawr, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn annog y bobl hynny i gamu ymlaen.
Y broblem i lawer o bobl, rwy’n credu, yw bod yr aros yn aml yn beryglus o hir a bod y ddarpariaeth o wasanaethau yn dameidiog mewn sawl ardal. Mewn rhai ardaloedd maent yn dda iawn, ond mewn ardaloedd eraill, prin eu bod yn bodoli—os edrychwn ar ganolbarth Cymru, mae'n anodd iawn cael mynediad at y gwasanaethau hynny. A’r hyn sydd ei angen arnom yw cymorth mwy cyson—pan fydd ganddynt fynediad at y gwasanaethau hynny yn y gymuned, dywed llawer o bobl nad oes ganddynt grwpiau cefnogi i fynd iddynt wedyn, lle gallant gyfarfod â phobl eraill a gallant rannu eu profiadau gyda phobl eraill.
Yn 2018 arweiniodd Dr Jacinta Tan adolygiad fframwaith anhwylderau bwyta Llywodraeth Cymru. Hwn oedd yr adolygiad y buom yn ymgyrchu amdano yn ôl yn 2007, adolygiad a roddwyd ar waith gan Edwina Hart, fel y Gweinidog ar y pryd. Ac yna fe wnaethom ymgyrchu i'r adolygiad ddigwydd ym mis Tachwedd 2018. I fod yn deg â Jacinta Tan, roedd yr adolygiad yn gryf iawn, yn gadarn iawn, ac roedd gofalwyr, cleifion a'u teuluoedd wedi cymryd rhan ynddo, a theimlent eu bod yn cael eu cynnwys ac yn rhan o'r broses. Yr unig beth a berai bryder i mi ar y pryd oedd bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd amser eithaf hir i gynnig unrhyw syniadau ynglŷn â sut y byddent yn gweithredu'r adolygiad hwnnw, a chredaf y byddem yn annog Llywodraeth Cymru yma heddiw i ddweud wrthym sut y bwriadant roi'r newidiadau yn yr adolygiad ar waith i'w wireddu.
Amserau aros—mae llawer o gyflyrau eraill yn broblem yma. Gwyddom o gronfa ddata cyfnodau cleifion Cymru fod amseroedd aros y GIG yn ychwanegol at yr amser helaeth y mae’n aml yn ei gymryd i lawer o bobl gamu ymlaen a gofyn am gymorth ar gyfer eu cyflwr. Felly, gallai hyn olygu aros hyd at dair blynedd fan lleiaf. Felly, yn yr adolygiad o’r gwasanaeth, argymhellir na ddylid aros mwy na phedair wythnos ar gyfer atgyfeiriadau nad ydynt yn rhai brys ac un wythnos ar gyfer atgyfeiriadau brys. Ac eto, mae hyn ymhell iawn o’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae’n destun pryder, fel y dywedais, fod Llywodraeth Cymru i’w gweld yn bell iawn o'i weithredu, felly hoffwn wybod pryd y maent yn mynd i wneud hynny.
Felly, er bod yr amseroedd aros yn broblem, mae mynediad yn broblem hefyd. Ac rwyf wedi colli cyfrif ar y nifer o weithiau mae pobl wedi dweud wrthyf na allant fanteisio ar wasanaethau’n ddigon cyflym iddynt allu trin eu hanhwylder bwyta.
Ac mae nifer ohonynt—. Nid wyf am feirniadu gweithwyr iechyd proffesiynol yn benodol, ond rydym yn gwybod, os ewch at eich meddyg teulu—nid ydynt yn arbenigwyr, ond nid ydynt yn gwybod, weithiau, at bwy i atgyfeirio claf, nid ydynt yn gwybod beth yw'r prosesau. Felly, rwy'n credu bod angen llawer mwy o hyfforddiant yn hynny o beth. Ac yna sonia'r adolygiad am ddull o ddarparu gwasanaethau ar gyfer pob oedran a fyddai’n dileu rhai o’r heriau y mae trosglwyddo rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed a gwasanaethau oedolion yn aml yn eu hachosi. Nid wyf am i fy amser ddod i ben cyn i mi allu crynhoi; rwy'n sylweddoli fy mod yn mynd yn arafach nag arfer.
Fe glywais gan lysgennad Beat, Zoe John, yma heddiw a ddywedodd eu bod wedi barnu nad oedd hi'n ddigon tenau i gael triniaeth, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl anfaddeuol. Mae angen inni adolygu'r BMI, hyd yn oed os nad ydych am ei ddileu. Pe bawn i'n aelod o'r Llywodraeth, buaswn yn ei ddileu, oherwydd hyd yn oed os na fydd gennych anhwylder bwyta ar y cychwyn, gallech gael anhwylder bwyta am eu bod yn dweud wrthych eich bod yn rhy drwm neu fod angen i chi wneud pethau penodol i'ch ffordd o fyw er eich bod yn gwneud hynny'n barod efallai, ac rwy'n credu ei bod hi'n allweddol inni edrych ar hynny, ac ni chafodd sylw yn yr adolygiad hwn o anhwylderau bwyta.
Ceir cymaint o straeon y mae pobl wedi'u dweud wrthyf, ond bu'n fraint cael arwain y grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta ac rwy'n gobeithio y byddwch yn bwrw ymlaen â'r gwaith tra byddaf oddi yma ac yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r newidiadau i'r adolygiad fel y gallaf ddod yn ôl ac y gallaf fod—wel, ni fydd gennyf lawer i'w wneud bryd hynny. [Chwerthin.] Felly, ni chaf amser i ymateb i chi; bydd yn rhaid i chi ddod â rhywun arall i mewn. Ond diolch yn fawr iawn.