Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 4 Mawrth 2020.
Diolch. Hoffwn ddiolch i Bethan am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a defnyddio'r cyfle hefyd i ddiolch iddi am yr holl waith y mae wedi'i wneud yn y maes hwn, a'r modd y mae hi wedi'i wneud yn faes gwaith pwysig iawn i'r Cynulliad, ac am ei holl waith gyda'r grŵp trawsbleidiol, ac i ddymuno'r gorau i chi ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n falch iawn o gael cyfle heddiw i dynnu sylw at Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta ac i bwysleisio'r gwaith sy'n cael ei wneud i wella'r gwasanaeth anhwylderau bwyta yng Nghymru. Rwy'n derbyn yn llwyr fod anhwylderau bwyta'n gyflyrau difrifol sy'n effeithio nid yn unig ar y rhai sydd â'r cyflwr, ond y gallant gael effaith enfawr ar fywydau teuluoedd a chyfeillion. Ac mae ffrindiau a theuluoedd yn aml yn allweddol yng ngofal holistaidd y rhai sydd ag anhwylderau bwyta, ac mae'n addas fod pwyslais yr wythnos hon ar rymuso a chefnogi'r ffrindiau a'r teuluoedd hyn.
Hoffwn ymuno ag Aelodau'r Cynulliad i ganmol y rhai sydd wedi gweithio a chymryd rhan yn adolygiad y gwasanaeth anhwylderau bwyta. Fel y dywedodd Bethan, yn 2018, comisiynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Jacinta Tan o Brifysgol Abertawe i adolygu gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru ac i benderfynu pa newidiadau y mae angen eu gwneud er mwyn gwella gwasanaethau a chanlyniadau.
Rwy'n gwybod—a chredaf fod Bethan wedi dweud hyn ar y dechrau—fod profiad y rhai sydd ag anhwylderau bwyta a'u teuluoedd yn gwbl ganolog i gasgliadau Dr Tan, ac rwy'n ddiolchgar yn bersonol am y buddsoddiad y mae'r bobl hyn wedi'i wneud tuag at wella gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru. Rwy'n gwybod y gall fod yn anodd iawn—disgrifiodd Rhun yn fyw iawn y menywod ifanc a gyfrannodd at y digwyddiad amser cinio. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod y brwydrau y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu yn gwbl ganolog i benderfyniadau polisi. Cefais fy nharo hefyd gan yr hyn a ddywedodd Bethan am—rwy'n credu mai Zoe John a ddywedodd nad oedd hi'n ddigon tenau. Mae'r adolygiad yn eithaf clir na ddylid ar unrhyw gyfrif ddweud wrth gleifion sydd angen triniaeth nad ydynt yn ddigon sâl. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.
Mae adolygiad Dr Tan yn darparu dadansoddiad eang o wasanaethau anhwylderau bwyta cyfredol a gwnaeth nifer o argymhellion pwysig sy'n adlewyrchu'r hyn y gallai gwasanaethau ei gyflawni yn fwy hirdymor. Mae'r adolygiad yn sôn am rôl ffrindiau a theuluoedd yn cyfranogi yn y driniaeth: yn bod yn gynghreiriaid i therapyddion a chymell eu hanwyliaid. Mae hefyd yn cydnabod yr aberth emosiynol, ariannol a galwedigaethol a wneir i gefnogi ffrindiau a theulu.
Mae'r adolygiad yn argymell y dylid ystyried anghenion a safbwyntiau teuluoedd y rhai sydd ag anhwylderau bwyta wrth ddatblygu polisi a llunio gwasanaethau, a'u cynnwys yn nhriniaeth eu hanwyliaid. Rwy'n cefnogi'r egwyddor hon yn llwyr ac yn disgwyl i hyn, ynghyd ag egwyddorion eraill sy'n sail i'r adolygiad, lywio datblygiad gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru.
Ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y byrddau iechyd yn nodi'r camau y mae'n disgwyl iddynt gael eu cymryd mewn ymateb i'r adolygiad: ad-drefnu gwasanaethau tuag at ymyrraeth gynharach; gweithio tuag at gyflawni safonau NICE ar gyfer anhwylderau bwyta o fewn dwy flynedd; a datblygu cynlluniau i gyrraedd targed amser aros o bedair wythnos o fewn dwy flynedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn sylwadau gan bob bwrdd iechyd yn nodi dull awgrymedig ar gyfer cyflawni'r targedau hyn gan sicrhau bod cynlluniau mwy hirdymor yn cyd-fynd ag uchelgais yr adolygiad.
Mae'n amlwg y bydd angen cyllid ychwanegol er mwyn dechrau darparu'r lefel o wasanaethau sydd eu hangen yng Nghymru, ac mae swyddogion wrthi'n datblygu dull o ariannu a fydd yn ein galluogi i wneud cynnydd. Gwn y byddai llawer o bobl yn hoffi gweld hyn yn digwydd yn gyflymach ac rwy'n credu mai dyna oedd thema'r cyfraniadau yma heddiw, ond mae hwn wedi bod yn adolygiad sylweddol, sy'n galw am ei ddadansoddi'n fanwl. Bu'n rhaid ymgysylltu â chlinigwyr i brofi'r argymhellion a sicrhau ein bod yn symud ymlaen mewn ffordd sy'n ystyried y cynnydd a wnaed eisoes mewn sawl maes. Ac i gefnogi'r cynnydd hwn, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd adnodd cenedlaethol ar gael i sicrhau bod modd gwneud y cynnydd a welir mewn rhai rhannau o'r wlad ar draws Cymru, oherwydd roedd y broblem fod y gwasanaethau'n dameidiog ar draws Cymru'n bwynt pwysig arall a wnaethpwyd.
Er ei bod yn bwysig i fyrddau iechyd ddarparu gwasanaethau yn eu hardaloedd, mae angen inni sicrhau bod pobl sy'n byw yng Nghymru yn gallu disgwyl triniaeth ragorol ar gyfer anhwylderau bwyta, lle bynnag y maent yn byw. Mae'r newidiadau rydym yn gweithio tuag atynt yn uchelgeisiol ac yn adlewyrchu maint yr her sy'n ein hwynebu, ac ni fydd y newidiadau hyn yn digwydd dros nos. Mae'r gwaith a wnaed gan weithwyr proffesiynol, y rhai ag anhwylderau bwyta a'u teuluoedd ar ddatblygu'r adolygiad wedi bod yn allweddol ar gyfer pennu'r camau sy'n cael eu cymryd i wella gwasanaethau yng Nghymru. Felly, mae cynllun clir ar y gweill.
Hoffwn gloi, a dweud y gwir, drwy ddiolch i Bethan am gyfrannu at y sefyllfa sydd gennym. Mae gennym gynllun clir rydym yn gweithio tuag ato, ond mae'n gymhleth a bydd yn cymryd amser. Ond fel y clywsoch yn fy araith, rhoddir terfynau amser ar gyfer cyrraedd y sefyllfa rydym am fod ynddi.