8. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 4 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 6:09, 4 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Roeddwn am adael i'r Siambr wybod fy mod wedi cael cyfarfod ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar y mater hwn, gyda'r pennaeth, ac roedd hi'n eithaf clir ynglŷn â'r anawsterau—yr anawsterau deddfwriaethol ac ymarferol—a fyddai'n codi pe bai sefydliad yng Nghymru yn monitro lleoliad yn Lloegr.