Gwasanaethau Cyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:06 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 1:06, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, roedd eich addewid ym maniffesto 2016, a dyfynnaf, 'Ein nod fydd creu awdurdodau lleol mwy a chryfach', gan fod Llafur Cymru yn cydnabod yn ôl pob golwg y swyddogaeth hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae ym mywydau pawb—. A allwch chi roi diweddariad, os gwelwch yn dda, ar eich diwygiad o lywodraeth leol, neu a yw'r addewid hwn yn mynd i fynd i'r un bin â ffordd liniaru'r M4?