1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Mawrth 2020.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiad gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol? OAQ55193
Cyni cyllidol yw'r grym sy'n dal i siapio ein gwasanaethau cyhoeddus, yn sbarduno galw ac yn lleihau ein gallu i ymateb. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus ac yn cael eu darparu'n gyhoeddus gan staff sy'n cael eu cymell gan synnwyr grymus o wasanaeth cyhoeddus.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. Rwy'n credu bod llawer o Aelodau, fel finnau, yn falch iawn o glywed y Gweinidog cyllid yn gwneud datganiad y mis diwethaf ar sut y bydd Cymru ddigidol yn symud ymlaen. Roedd gen i ddiddordeb arbennig, wrth gwrs, yn ei barn y bydd academi sgiliau digidol yn cael ei lleoli yng Nglynebwy, yn fy etholaeth i, ac y byddwn yn buddsoddi mewn prif swyddogion digidol ar draws pob rhan o wasanaethau cyhoeddus Cymru, gan greu clwstwr o ragoriaeth gwirioneddol iawn lle y gallwn ysgogi newid digidol. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod Gweinidog yr economi a'r Gweinidog addysg ill dau wedi ymweld â Thales yng Nglynebwy yn ystod yr wythnosau diwethaf i lansio'r presenoldeb seiber-ddiogelwch yno, sy'n rhan o fenter y Cymoedd Technoleg. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu, felly, sut y mae'n gweld y clwstwr yng Nglynebwy, ond yr ymgyrch ehangach i greu gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru, yn symud ymlaen yn ystod y misoedd nesaf, a sut y gallwn ni sicrhau bod y clwstwr hwn o ragoriaeth yr ydym ni'n ei weld yn cael ei ddatblygu yng Nglynebwy yn sail ac yn sylfaen i dwf economaidd pellach a rhagoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus?
A gaf i ddiolch i Alun Davies am hynna ac am dynnu sylw at y ffaith ein bod ni ar fin recriwtio prif swyddog digidol newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru? Y prif swyddog digidol presennol, Llywydd, hoffwn dalu teyrnged i'w chyfnod yn y swydd a dymuno'n dda iddi yn ei hymddeoliad. Byddwn yn cryfhau'r swydd honno sy'n ymwneud â'r Llywodraeth gyfan gyda phrif swyddogion digidol mewn llywodraeth leol ac ym maes iechyd, a bydd hynny i gyd yn cael ei roi ar waith ochr yn ochr â bwrdd digidol trawslywodraethol y gweinidogion sy'n cael ei gadeirio gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd.
Mae digideiddio gwasanaethau cyhoeddus yn un o'r ffyrdd allweddol yr ydym ni'n gwybod y gallwn ni barhau i wireddu ein penderfyniad bod gwasanaethau cyhoeddus ar gael yn briodol i ddinasyddion ledled Cymru gyfan mewn ffordd sy'n cyfateb i'w profiad cyfoes. Y synnwyr hwnnw o fod ar flaen y gad o ran datblygu digideiddio yw'r union beth sy'n digwydd yng Nglynebwy a thrwy ranbarth y Cymoedd Technoleg, gyda gwaith Thales, gyda'r academi sgiliau, gyda'r ganolfan gwasanaethau cyhoeddus digidol, a fydd yn weithredol yng Nglynebwy o fis Ebrill 2020 ymlaen, a chan ddwyn ynghyd yno, Llywydd, y seilwaith sydd ei angen arnom ni i gefnogi'r datblygiadau hynny ond, yn bwysig iawn, creu'r sgiliau sy'n golygu y bydd y gweithlu yn y rhan honno o Gymru mewn sefyllfa dda i fod ar flaen y gad o ran y datblygiadau hyn.
Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wasgaru ffyniant ar draws y wlad trwy ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n credu bod angen i ni wrando ar y rhai sy'n teimlo ein bod ni mewn perygl o efelychu camgymeriad Lloegr o or-ganoli grym a datblygiad economaidd mewn un rhan o'r wlad. Nawr, un o'r syniadau y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno, ac rwyf i'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol ohono, yw Deddf adnewyddu rhanbarthol i ddatganoli grym, gan sicrhau bod pob rhan o'r wlad yn cael ei chyfran deg o fuddsoddiad a bod cyrff cyhoeddus yn cael eu sefydlu mewn rhannau o'r wlad sydd wir angen swyddi newydd. Ceir rhannau o'm rhanbarth i yn y de-ddwyrain sydd wedi dioddef diboblogi a dirywiad economaidd ac maen nhw wir angen cymorth Llywodraeth Cymru—ardaloedd fel Tredegar, fel Merthyr ac fel Glynebwy. Mae cysylltiadau trafnidiaeth yn yr ardaloedd hynny mor wael ac mae'r economi sylfaenol yn crefu am fuddsoddiad. Felly, Prif Weinidog, hoffwn ofyn sut yr ydych chi'n meddwl y gall y Llywodraeth helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd fel hyn fel y gellir eu codi i fyny unwaith eto a'u gwneud yn ddeniadol i fusnesau gael eu sefydlu yno yn y dyfodol, yn ogystal â denu amwynderau lleol newydd a allai roi hwb i'r cymunedau hynny.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae effaith ranbarthol yr economi yn rhywbeth sy'n gwbl flaenllaw yn y modd y mae Gweinidog yr economi yn llunio ei bolisi a'i adran i ddarparu yn y modd rhanbarthol deg hwnnw, er, fel y dangosodd cwestiwn yr Aelod, Llywydd, mae anghydraddoldebau o fewn rhanbarthau yn fwy amlwg nag anghydraddoldebau rhwng rhanbarthau yng Nghymru.
Felly, gan wneud yn siŵr, mewn rhanbarth fel y de-ddwyrain, sydd â rhai rhannau llewyrchus iawn ohono a rhai rhannau sy'n sylfaenol i economi Cymru—sut ydym ni'n gwneud yn siŵr bod ffrwyth y datblygiad hwnnw'n cael ei deimlo ym mhob man? Dyna sydd wrth wraidd yr agenda gwaith teg, mae wrth wraidd y Bil partneriaethau cymdeithasol y byddwn ni'n ei gyflwyno gerbron y Cynulliad hwn ac, i ddychwelyd at bwynt Alun Davies, mae'n rhaid edrych ar wasanaethau digidol drwy'r lens anghydraddoldeb honno hefyd.
Yn y modd hwnnw, rwy'n credu y gellir gwahaniaethu rhwng y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r pethau hyn a'r ffordd yr aethpwyd i'r afael â'r materion hyn mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Fel y dywed Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, rydym ni eisiau creu Cymru sy'n fwy cyfartal, a bod y Gymru fwy cyfartal honno wedi ei gwreiddio mewn cyfle cyfartal yn yr economi.
Prif Weinidog, roedd eich addewid ym maniffesto 2016, a dyfynnaf, 'Ein nod fydd creu awdurdodau lleol mwy a chryfach', gan fod Llafur Cymru yn cydnabod yn ôl pob golwg y swyddogaeth hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae ym mywydau pawb—. A allwch chi roi diweddariad, os gwelwch yn dda, ar eich diwygiad o lywodraeth leol, neu a yw'r addewid hwn yn mynd i fynd i'r un bin â ffordd liniaru'r M4?
Wel, Llywydd, mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn cael ei gyflwyno yn y Cynulliad hwn. Bydd yn dangos y ffordd y byddwn ni'n creu awdurdodau lleol sy'n gadarn ar gyfer y dyfodol, gan gadw'r 22 o bresenoldebau lleol, gyda drws ffrynt y mae pobl wedi dod yn gyfarwydd ag ef erbyn hyn dros bron i 30 mlynedd, ac eto gwneud cydweithredu ar sail ranbarthol yn ofynnol ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau llywodraeth leol craidd. Yn y ffordd honno, rwy'n credu y byddwn ni'n cyfuno'r manteision o gael awdurdodau lleol sy'n ddigon agos i boblogaethau i bobl deimlo eu bod nhw'n berchen arnyn nhw, a synnwyr o atebolrwydd i'r poblogaethau hynny, gyda'r manteision y bydd gweithio rhanbarthol at ddibenion allweddol yn eu cynnig. Bydd y Bil hwnnw gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn, a bydd yr Aelod yn cael pob cyfle i gyfrannu at ei ddadlau a'i ddatblygu.