Gwasanaethau Cyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:00 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:00, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Cyni cyllidol yw'r grym sy'n dal i siapio ein gwasanaethau cyhoeddus, yn sbarduno galw ac yn lleihau ein gallu i ymateb. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus ac yn cael eu darparu'n gyhoeddus gan staff sy'n cael eu cymell gan synnwyr grymus o wasanaeth cyhoeddus.