Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:08 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae nifer yr achosion o coronafeirws yng Nghymru a gadarnhawyd wedi codi i chwech erbyn hyn a disgwylir i hynny godi eto. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod unrhyw ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus yn cyrraedd pob rhan o Gymru nawr fel bod y cyhoedd yn gwbl ymwybodol o'r camau y gallan nhw eu cymryd i amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd ac i gyfyngu lledaeniad y feirws hwn. Pa gamau eraill all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod unrhyw ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cael cymaint o sylw â phosibl? Pa gamau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl Cymru yn adnabod symptomau'r feirws yn gyflym a'u bod nhw'n cael eu cyfeirio'n gywir at y cyngor a'r driniaeth briodol?