1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:08 pm ar 10 Mawrth 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae nifer yr achosion o coronafeirws yng Nghymru a gadarnhawyd wedi codi i chwech erbyn hyn a disgwylir i hynny godi eto. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod unrhyw ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus yn cyrraedd pob rhan o Gymru nawr fel bod y cyhoedd yn gwbl ymwybodol o'r camau y gallan nhw eu cymryd i amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd ac i gyfyngu lledaeniad y feirws hwn. Pa gamau eraill all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod unrhyw ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cael cymaint o sylw â phosibl? Pa gamau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl Cymru yn adnabod symptomau'r feirws yn gyflym a'u bod nhw'n cael eu cyfeirio'n gywir at y cyngor a'r driniaeth briodol?
Diolchaf i Paul Davies am y cwestiwn pwysig yna. Mae'n iawn i ddweud bod chwe achos wedi eu cadarnhau yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae'r holl dystiolaeth a'r cyngor arbenigol sydd gennym ni'n dweud y bydd y nifer honno'n codi. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni wneud yn siŵr bod y negeseuon cyhoeddus yr ydym ni'n eu cynnig yn eglur, yn gryno ac yn ddealladwy i bobl.
Yng nghyfarfod pwyllgor COBRA ddoe, dan gadeiryddiaeth Prif Weinidog y DU, cytunasom ei bod hi'n bwysig y dylai'r negeseuon hynny gael eu cyfleu ledled y DU. Felly, mae llawer o bobl yng Nghymru, fel y mae arweinydd yr wrthblaid yn gwybod, yn cael y rhan fwyaf o'u newyddion o fannau y tu allan i Gymru. Felly, mae cysondeb negeseuon ar draws y Deyrnas Unedig yn dod yn arbennig o bwysig yn yr achos hwn, rwy'n credu, a byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraethau eraill y DU i wneud yn siŵr nad oes unrhyw ddryswch o ran negeseuon rhwng gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Yma yng Nghymru, mae gwiriwr symptomau effeithiol iawn, yn fy marn i, ar gael drwy wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes, lle, os bydd unrhyw un yn teimlo ei fod angen gwirio'r hyn y mae'n ei ddioddef yn erbyn symptomau coronafeirws, mae'n ei dywys trwy gyfres o gamau syml iawn ac yn rhoi cyngor iddo ar ddiwedd y broses. Mae'r system 111 bellach yn rhoi cyngor am ddim ar draws Cymru gyfan i bobl ym maes coronafeirws, a byddwn yn parhau i ddefnyddio ffynonellau cyngor dibynadwy drwy'r GIG a thrwy Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau, pan fydd negeseuon cyhoeddus yn cael eu darparu, eu bod yn cyrraedd cymaint o bobl a phosibl mor gyflym â phosibl.
Prif Weinidog, rwy'n deall erbyn hyn bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu arweinwyr gweinidogol ar coronafeirws ar draws adrannau'r Llywodraeth, ac efallai y gallech chi ddweud wrthym ni a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny hefyd i ymchwilio i'r holl broblemau ac effeithiau y gallai'r feirws eu creu. Er enghraifft, prin iawn yw'r cyfarwyddyd neu wybodaeth am y rhwydwaith cludiant cyhoeddus, yn enwedig o ystyried bod gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn BMC Infectious Diseases wedi canfod bod y rhai sy'n defnyddio cludiant cyhoeddus yn ystod achosion o'r ffliw hyd at chwe gwaith yn fwy tebygol o ddal haint anadlol acíwt. Wrth gwrs, ceir rhai pryderon dilys iawn ynghylch cludiant cyhoeddus gan fod nifer fawr o bobl yn aml yn teithio mewn cerbydau trên gorlawn, gall fod awyru gwael a diffyg cyfleusterau hylendid ar y trên hefyd. Ac eto mae teithio ar y rhwydwaith cludiant cyhoeddus yn dal yn hanfodol i lawer o bobl ledled Cymru. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa ymchwil y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i lefel y bygythiad sy'n cael ei beri drwy ddefnyddio'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus yn ei gyflwr presennol? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda chwmnïau cludiant cyhoeddus ledled Cymru ynghylch sut y gallan nhw sicrhau bod teithwyr mor ddiogel â phosibl wrth deithio? A pha adnoddau ychwanegol sy'n cael eu cynnig i gwmnïau cludiant cyhoeddus i sicrhau bod ganddyn nhw'r hyn sydd ei angen arnyn nhw i sicrhau bod eu cerbydau a'u gorsafoedd mor lân a diogel â phosibl?
Diolchaf i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau yna.
Yn Llywodraeth Cymru, mae'r Cabinet yn trafod materion coronafeirws yn ein holl gyfarfodydd erbyn hyn, ac rydym ni wedi sefydlu grŵp gweinidogol craidd a fydd yn cyfarfod rhwng cyfarfodydd rheolaidd y Cabinet i wneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa i ymateb ar frys ac ar unwaith pan fo angen ymateb o'r fath. Mae'r pwyllgor COBRA gweinidogol yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos hefyd, ac mae Gweinidogion Cymru wedi eu cynrychioli yn y cyfarfodydd hynny bob amser.
Y cyngor gorau sydd gennym ni ar hyn o bryd gan brif wyddonwyr a chan brif swyddogion meddygol yw y dylai pobl barhau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus fel y bydden nhw ar unrhyw adeg arall, ac nad oes unrhyw anawsterau ar hyn o bryd i bobl wneud hynny. Ond mae hwn yn glefyd y mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym ni ei fod yn mynd i ddatblygu ymhellach, y gallai ddatblygu'n gyflym fel yr ydym ni wedi ei weld mewn mannau eraill yn y byd, ac i ddychwelyd at y pwynt cyntaf a wnaeth Paul Davies, Llywydd, mae'n bwysig iawn felly bod cyngor sy'n newid ar gael i aelodau'r cyhoedd, oherwydd wrth i'r clefyd ddatblygu, bydd y sefyllfa o ran cyngor ar gludiant cyhoeddus yn datblygu ochr yn ochr â hynny.
Rydym ni'n gweithredu, yn yr unig ffordd y gallwn ni rwy'n credu, ar sail y cyngor gorau y gallwn ni ei gael, ac rydym ni'n gwneud hynny ar sail DU gyfan a rennir gan ddefnyddio'r grŵp cynghori gwyddonol, y prif wyddonydd a'r pedwar prif swyddog meddygol. Mae cyd-aelodau unigol yn y Cabinet yn cymryd camau i gysylltu â'r sectorau y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw i wneud yn siŵr bod y sectorau hynny'n gwneud paratoadau ar gyfer yr hyn y gallai fod angen ei wynebu wrth i'r clefyd ddatblygu, boed hynny'n golygu gallu darparu gwasanaeth â llai o staff, oherwydd bydd mwy o bobl yn sâl a bydd llai o bobl yn y gwaith, neu'n golygu ymateb i faterion seilwaith ffisegol o'r math y cyfeiriodd Paul Davies atyn nhw yng nghyswllt cludiant cyhoeddus.
Prif Weinidog, wrth gwrs, rwy'n falch bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ar ddeddfwriaeth i gryfhau pwerau Llywodraeth Cymru ar faterion fel cwarantinio a chrynoadau torfol, ac fel yr ydych chi eisoes yn gwybod, mae rhai ysgolion yng Nghymru a ledled y DU wedi cau eu drysau i fyfyrwyr sydd mewn perygl o coronafeirws. Wrth gwrs, mae ysgolion yn broblem benodol o ran atal lledaeniad y feirws, ac felly mae'n bwysig bod dulliau ar waith i Lywodraeth Cymru gau ysgolion, os bydd angen iddi wneud hynny.
Gan fod y bygythiad o ledaenu'r feirws yn dal yn uchel, pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud ar gyfer yr effaith y gallai hyn ei chael ar ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru ar hyn o bryd? Pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal gyda Gweinidogion ledled y DU am ddatblygu cynlluniau wrth gefn ar gyfer y sector addysg ac, yn wir, y gwasanaeth iechyd, pe byddai cynnydd sylweddol i nifer y plant a phobl ifanc sy'n cael eu heffeithio? A pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda'r sector meithrin a blynyddoedd cynnar, o gofio bod plant o dan bump oed, ac yn enwedig y rhai o dan ddwyflwydd oed, mewn mwy o berygl oherwydd eu bod yn llai gwydn?
Unwaith eto, diolchaf i'r Aelod am y cwestiynau pwysig yna. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar Fil brys sy'n debygol o gael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, ac rydym ni'n dod i gytundebau gyda gweinyddiaethau eraill ledled y Deyrnas Unedig ar bwerau y mae angen iddyn nhw ddod i Gymru i ymdrin â gwasanaethau datganoledig, gan gynnwys y sector addysg.
Rydym ni'n ymwybodol iawn, Llywydd, y bydd—yn yr hyn a fydd yn weithdrefn frys—angen i ni weithio gyda'r Comisiwn i wneud yn siŵr bod cyfleoedd i'r Senedd graffu ar y cynigion hynny o ran sut maen nhw'n effeithio ar Gymru, ynghyd ag unrhyw femorandwm o gydsyniad deddfwriaethol y bydd y Llywodraeth yn ei gyflwyno ar lawr y Siambr. Bydd y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru o ran addysg, a bydd angen i'r pwerau hynny gael eu defnyddio ar yr adeg y maen nhw fwyaf effeithiol.
Ac os caf wneud yr un pwynt hwn, Llywydd: yng nghyfarfod COBRA ddoe, y pwynt yr oedd y prif wyddonwyr a'r prif swyddogion meddygol yn fwyaf awyddus i'w wneud oedd bod angen defnyddio'r pwerau y bydd y Bil brys yn eu darparu ar yr adeg pan fyddan nhw'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, ac na ddylid eu defnyddio'n rhy gynnar. Oherwydd os byddwch chi'n eu defnyddio'n rhy gynnar ac yna angen eu defnyddio nhw eto, mae lefel cydymffurfiad y cyhoedd â'r mesurau hynny yn debygol o ostwng. Felly, os ydych chi'n mynd i ddefnyddio pwerau sy'n arwyddocaol, mae'n rhaid i chi eu hamseru nhw'n iawn, a byddwn yn gweithredu ar y cyngor gorau a gawn ni gan yr awdurdodau hynny ynglŷn ag amseru.
Yn y cyfamser, mae cynlluniau wrth gefn yn cael eu datblygu, wrth gwrs, ac mae Paul Davies yn iawn i dynnu sylw at sector y blynyddoedd cynnar. Dim ond i roi un enghraifft o'r meddylfryd sy'n mynd ymlaen: ceir rheoliadau, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, bod cymhareb oedolion i blant yn y lleoliad gofal plant, ac mae'r gymhareb honno wedi'i phennu mewn rheoliadau. Nawr, os oes llai o bobl i weithio oherwydd dyfodiad coronafeirws, efallai y bydd angen i ni fod yn fwy hyblyg yn y gymhareb reoleiddiol honno, a dyna yw ein meddylfryd ac mae'r math hwnnw o waith yn cael ei wneud eisoes.
A bydd hefyd, yn olaf, Llywydd, yn ymwybodol bod hwn yn sector sy'n arbennig o agored i niwed yn economaidd oherwydd ei fod yn dibynnu ar y ffioedd y mae'n eu cael gan rieni sy'n talu. Yr hyn nad ydym ni eisiau ei weld—rydym ni wedi bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU heddiw cyn y gyllideb yfory ar y pwynt hwn—yw busnesau hyfyw a phwysig yng Nghymru yn mynd i'r wal oherwydd effaith fyrdymor, er ei bod yn effaith fyrdymor ddifrifol, o'r cyflwr hwn. Byddwn yn disgwyl i Lywodraeth y DU gynorthwyo i wneud yn siŵr y gellir helpu'r busnesau hynny trwy gyfnod anodd, oherwydd byddwn ni eu hangen pan fydd coronafeirws wedi dod i ben.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n credu y cadarnhawyd bod pob achos o coronafeirws a gadarnhawyd yng Nghymru wedi dychwelyd yn ddiweddar o'r Eidal. Pa fesurau ydych chi wedi eu cymryd fel Llywodraeth i nodi trigolion Cymru sydd wedi dychwelyd o'r Eidal ers dyfodiad y feirws, a pha ragofalon ychwanegol sydd ar waith i sicrhau bod y clefyd yn cael ei gyfyngu cymaint â phosibl?
A hefyd, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ymateb i rai o'r sylwadau a wnaed gan Ganghellor yr wrthblaid ddoe pan feirniadodd gyflymder y gweithredu yn yr ymateb gan Lywodraeth y DU a'r arafwch ar ran y Canghellor gan alw ar Lywodraeth y DU i gael gafael ar bethau. I ryw raddau, adleisiwyd y sylwadau hyn gan y cyn-Weinidog Rory Stewart. A ydych chi'n credu bod y sylwadau hyn yn bryderon dilys mewn unrhyw ffordd ar hyn o bryd?
Llywydd, ar y pwynt cyntaf, nid wyf i’n credu bod dull defnyddiadwy y gall unrhyw Lywodraeth ei ddilyn i olrhain pobl sy'n dychwelyd i'r wlad hon o lawer o rannau o'r byd, nid dim ond gogledd yr Eidal, ac eithrio drwy'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi eu rhoi ar waith drwy'r porthladdoedd a'r meysydd awyr. Rydym ni'n parhau i weithio ar lefel Cymru lle mae gennym ni rywfaint o gyfrifoldeb cyffredin yn hynny o beth.
Mae'r cyngor i bobl sydd wedi dychwelyd o rannau eraill o'r byd lle mae coronafeirws yn mynd o gwmpas yn eglur iawn: ni ddylen nhw fynd i feddygfa meddyg teulu nac i wasanaeth damweiniau ac achosion brys, dylen nhw ffonio yn gyntaf, dylen nhw gael cyngor. Mae'r Aelod, rwy'n gwybod, yn ymwybodol ein bod ni yng Nghymru wedi rhoi pwyslais arbennig ar brofi pobl yn eu cartrefi. Rydym ni'n mynd â'r prawf i'r person, fel nad oes perygl iddo ddod i gysylltiad â phobl a allai gael eu heintio ganddo wedyn.
Rydym ni'n credu bod y chwe achos a nodwyd gennym ni yng Nghymru hyd yma yn bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad ag eraill o ran arall o'r byd. Nid ydym ni'n credu bod gennym ni, ar hyn o bryd, ledaeniad cymunedol yng Nghymru, ond y cyngor yw mai mater o amser yw hynny. Felly, tra byddwn ni'n dal i fod yn y cyfnod cyfyngu, bydd hynny'n datblygu'n gyfres o gamau oedi ar yr adeg briodol.
Ac mae hynny'n dod â mi at yr ail bwynt a godwyd gan Adam Price, sef y pwynt a wneuthum wrth ateb Paul Davies am gyflymder. Y cyngor yr oeddem ni'n ei gael ddoe, Llywydd, oedd bod amseru camau gweithredu yn bwysig iawn. Os symudwn ni, er enghraifft, heddiw, at drefn lle gofynnwyd i unrhyw un a oedd â'r arwyddion cyntaf o annwyd ymneilltuo, mae bron yn sicr mai annwyd yw'r hyn y bydden nhw'n ymneilltuo ag ef, oherwydd mae annwyd yn mynd o gwmpas, ac nid yw coronafeirws. Felly, bydden nhw'n aros gartref am saith diwrnod, gyda'r holl anghyfleustra y mae hynny'n ei achosi, heb fod unrhyw ddiben mewn gwneud hynny. Pe byddai coronafeirws yn mynd o gwmpas ymhen 10 diwrnod, a ninnau'n gofyn iddyn nhw wneud hynny eto, mae'r modelu ymddygiadol yn dweud wrthym ni y byddai pobl yn fwy cyndyn o wneud hynny eilwaith, ar ôl bod drwy'r cwbl unwaith a chanfod nad oedd yn cyflawni unrhyw ddiben defnyddiol.
Felly, er fy mod i'n credu bod pob hawl i seneddwyr herio'r Llywodraeth, i ofyn y cwestiynau hynny, i fod yn feirniadol pan eu bod nhw'n credu y gellir cyfiawnhau beirniadaeth, byddwn ni'n gweithio ar sail y dystiolaeth orau sydd gennym ni ac, ar hyn o bryd, rydym ni'n credu bod trefn y camau y mae'n debygol y bydd yn rhaid i ni eu gofyn i ddinasyddion Cymru eu dilyn ar y pwynt cywir ar hyn o bryd, ac y byddwn ni'n amseru unrhyw bethau eraill y byddwn ni'n eu gofyn ganddyn nhw fel y bydd y gofynion hynny'n digwydd ar yr adeg y byddai'r camau hynny'n cael yr effaith fwyaf i arafu lledaeniad y feirws.
Yn amlwg, mae coronafeirws yn rhoi pwysau ar y GIG ym mhob un o'r pedair gwlad. Gofynnodd llefarydd iechyd y blaid Lafur, Jon Ashworth, ddoe i'r Ysgrifennydd iechyd yn Lloegr am adnoddau ychwanegol gan fod gwelyau gofal critigol yn Lloegr wedi cyrraedd 81 y cant o'r capasiti yn ystod yr wythnos yr oedd y ffigurau coronafeirws diweddaraf ar gael. Dywedodd grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru ei hun:
Mae gan GIG Cymru lai o welyau gofal critigol ar gyfer maint y boblogaeth na gweddill y DU.
Yn amlwg, mae angen i nifer y gwelyau sydd ar gael yn y GIG gynyddu'n sylweddol, o gofio bod ysbytai wedi bod yn gweithredu uwchlaw'r lefel ddiogel o 85 y cant o welyau llawn ers bron i 10 mlynedd. O dan yr amgylchiadau sy'n ein hwynebu ni nawr, a ydych chi eisoes wedi nodi sut y byddech chi'n sicrhau gwelyau gofal critigol ychwanegol? Ac os felly, faint ohonyn nhw?
Llywydd, rydym ni'n disgwyl i Lywodraeth y DU ddarparu adnoddau ychwanegol i gynorthwyo'r GIG ac i gynorthwyo'r economi. Byddwn yn edrych ar y gyllideb yfory i weld bod y sicrwydd a roddwyd gan y Canghellor yn cael ei droi'n ffigurau mwy penodol i ni yfory. Mae mwy o welyau gofal dwys yng Nghymru o ganlyniad i gamau'r Llywodraeth hon. Bydd llawer ohonom ni yn y fan yma yn cofio'r ddadl ynghylch y Bil rhoi organau a'r angen i gynyddu capasiti gofal critigol i sicrhau bod y Ddeddf honno'n llwyddo.
Ond hoffwn geisio dweud wrth yr Aelodau yn y modd mwyaf cymedrol y gallaf, Llywydd, pe byddai sefyllfa waethaf bosibl realistig yn cael ei gwireddu pryd y byddai 80 y cant o'r boblogaeth yn dal coronafeirws a 25 y cant o'r boblogaeth yn ei ddal mewn ffordd sy'n gofyn am ymyrraeth feddygol sylweddol, mae hynny'n mynd i roi straen enfawr ar ein holl wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, oherwydd bydd y feirws yn cael yr un effaith ar bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd. Felly, byddwn yn wynebu sefyllfa lle bydd llawer mwy o alw a straen gwirioneddol ar y bobl sydd ar ôl i'w fodloni.
Felly, rydym ni'n gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, i nodi'r cynlluniau y gellir eu rhoi ar waith, yr adnoddau y gellir eu darparu; ond nid dim ond gwelyau fydd yr adnoddau hyn, byddan nhw'n bobl i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen. Ac mewn sefyllfa pan fo 25 y cant o'r boblogaeth yn ddifrifol wael, bydd hynny'n effeithio ar y bobl hynny hefyd. Rydym ni'n gwybod y bydd hon yn effaith a fydd yn cael ei theimlo dros lawer o wythnosau, a bydd gwydnwch y bobl yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i ddod i mewn ac ymateb mewn argyfwng yn anodd ei gynnal wythnos ar ôl wythnos dros y cyfnod estynedig hwnnw.
Yn amlwg, nid yw sefyllfa sydd ar fin troi'n bandemig byd-eang o bosibl yn amser pan fyddai unrhyw un eisiau ystyried cau cyfleusterau yn y GIG. Bum wythnos yn ôl, pan ofynnwyd a fyddech chi'n ymyrryd i gadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, dywedasoch nad ydym ni'n agos o gwbl at y pwynt hwnnw eto. Yn ystod y pythefnos nesaf, bydd y bwrdd iechyd yn gwneud penderfyniad terfynol. A ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw? Ac os felly, a wnewch chi ymyrryd heddiw?
Llywydd, ceir proses sydd wedi'i chyflwyno'n eglur iawn ac sy'n angenrheidiol yn gyfreithiol a ddilynir fel bod penderfyniad yn cyrraedd ar ddesg un o Weinidogion Cymru. Mae honno'n broses lle mai'r sefydliadau hynny sydd â hawl gyfreithiol i gyfeirio mater at ddesg y Gweinidog yw'r bobl sy'n gorfod gwneud hynny, os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny. Dydyn ni ddim ar y pwynt hwnnw. Bydd yn rhaid i'r bwrdd iechyd wneud ei benderfyniad, ac yna byddai'n rhaid i sefydliad, fel cyngor iechyd cymuned, a all gyfeirio'r mater hwnnw at Weinidog i'w benderfynu, benderfynu gwneud hynny. Dyna sut mae'r broses yn gweithio. Dyna sut y mae'n rhaid i'r broses weithio i fod yn gyfreithiol anatebadwy. A dydyn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt hwnnw. Efallai na fyddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw, oherwydd mae'n rhaid i'r penderfyniad gael ei atgyfeirio er mwyn i Weinidog wneud penderfyniad. Ond, os bydd yn digwydd, mae gan Weinidogion gyfrifoldebau cyfreithiol. A dyna pam mae wedi bod mor bwysig, yn hynny i gyd, nad yw Gweinidogion yn rhagfarnu sefyllfa lle byddai unrhyw benderfyniad y maen nhw'n ei wneud wedyn yn agored i her.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, os caf i droi at lifogydd, mae'r gymdeithas diwydiant ar gyfer busnesau coedwigaeth, Confor, yn dweud bod dehongliad Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn atal newidiadau i unrhyw dirwedd lle nad yw'r cynefin neu'r dynodiad ar gyfer coetir. O gofio manteision plannu coed ar ucheldir i liniaru rhag llifogydd, a'r cyfleoedd i ddatgarboneiddio sydd yno hefyd, a ydych chi'n cytuno bod y canllawiau ar gyfer dehongli'r Ddeddf yn rhy hen erbyn hyn?
Yn 2017, edrychodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar rwystrau i blannu coed. Roedd Confor a Tilhill Forestry ymhlith y rhai a roddodd dystiolaeth, a dywedasant fod yr asesiadau o'r effaith amgylcheddol yn rhwystr enfawr i blannu coed. Ers yr adroddiad hwnnw, nid yw'r rheoliadau asesu effaith amgylcheddol wedi newid. A fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n bryd i ni wneud mwy i alluogi plannu coed, o ystyried yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd, a'r llifogydd dinistriol yr ydym ni wedi eu gweld yn ddiweddar, ac a ddylai hyn gynnwys diweddaru rheoliadau a chanllawiau Deddf yr amgylchedd i gael gwared ar rwystrau i blannu coed?
Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am yr effaith lesol y gall plannu coed ei chael o ran atal llifogydd. Mae cynyddu gorchudd coedwigoedd mewn dalgylchoedd afonydd yn cynyddu anweddiad canopi, yn gwella storfeydd dŵr daear, yn gwella strwythur a gwydnwch y pridd, ac, yn bwysig iawn, yn arafu llif dŵr. Felly, ceir achos cryf y mae'r Aelod wedi cyfeirio ato fod gan blannu coed ychwanegol ran i'w chwarae mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Mae angen taro cydbwysedd rhwng plannu coetiroedd ychwanegol a'r effaith ar fioamrywiaeth. Nawr, gan fod yn rhaid cael y cydbwysedd hwnnw, mae gennym ni drefn yng Nghymru lle, os cynigir plannu coetiroedd dros bum hectar, yna mae'n rhaid cynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol i wneud yn siŵr nad yw'r plannu coed ychwanegol, gyda'i fanteision, yn atal amcanion pwysig eraill yn y maes amgylcheddol. Gwn fod y Gweinidog yn ystyried ar hyn o bryd a yw'r trothwy pum hectar hwnnw'n rhy isel, ac a ellid ei godi. Byddai hynny'n fuddiol o ran ei gwneud yn haws plannu coed, ond byddai'n rhaid i ni fod yn ffyddiog na fyddai'n arwain at golled sylweddol o ran bioamrywiaeth, a allai, ar ei ben ei hun, wrthbwyso'r manteision a fyddai'n dod yn sgil plannu coed.
Croesawaf y ffaith fod y Gweinidog yn ailystyried yn y modd hwnnw. Fodd bynnag, cyfeiriodd Confor hefyd at y mater o ble mae tirwedd wedi'i dynodi mewn rhyw ffordd arall, math o rostir ucheldirol dywedwch, eu bod nhw'n canfod bod rhagdybiaeth yn erbyn plannu coed yn yr ardaloedd hynny. A gallan nhw fod yn ardaloedd llawer rhatach, £1,000 yr hectar dywedwch, yn hytrach na sawl mil, gan wneud y plannu'n llawer mwy economaidd ac yn debygol o fynd rhagddo. Oni ddylem ni edrych hefyd ar y dynodiadau hynny, a chaniatáu mwy o hyblygrwydd ar gyfer plannu coed?
Nawr, mae cyfarwyddeb fframwaith dŵr yr UE yn effeithio ar benderfyniadau ynghylch carthu, ac rydym ni'n gwybod bod y defnydd o garthu wedi lleihau'n sylweddol tua'r adeg y cafodd y gyfarwyddeb honno ei phasio a'i gweithredu. Nawr, rydym ni'n gwybod na fyddai mwy o garthu yn lliniaru'r holl lifogydd, ond efallai y byddai wedi gwneud gwahaniaeth mewn rhai achosion, er enghraifft, afon Conwy, lle y clywsom ni gan Janet Finch-Saunders. Gwnaeth Vikki Howells, o'ch meinciau chi eich hun, bwynt tebyg yr wythnos diwethaf o safbwynt Cymoedd y De. Yn y cyfamser, mae'n ymddangos bod ailddechrau carthu Gwastadeddau Gwlad yr Haf wedi bod o gymorth yn yr ardal honno. O'i gyplysu â rheoliadau sy'n annog plannu coed ar yr ucheldir, oni allai mwy o garthu liniaru perygl llifogydd yn y dyfodol? Gan ein bod ni wedi gadael yr UE erbyn hyn, oni ddylem ni ddatblygu ein harferion a'n fframweithiau cartref ar gyfer carthu ac amddiffyn rhag llifogydd? Ac a ydych chi'n cytuno y dylai'r rhain annog plannu coed ar yr ucheldir a'i gwneud yn haws ymgymryd â gwaith carthu priodol?
Wel, o ran y mater cyntaf o ddynodiad, Llywydd, mae dynodiad yno am reswm; mae ar gyfer mathau eraill o amddiffyniadau. Ond, mewn byd ôl-Brexit, mae'r cynllun y mae fy nghyd-Weinidog, Lesley Griffiths wedi bod yn bwrw ymlaen ag ef fel 'Brexit a'n tir' ac sydd bellach yn 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', yn tynnu sylw at y ffaith y bydd y cyhoedd, yn y dyfodol, yn fodlon talu ffermwyr i wneud pethau sydd â budd cyhoeddus uniongyrchol, ac mae'n bosibl iawn y gallai plannu coed ychwanegol fod yn rhan o un elfen yn y repertoire o bethau y bydd y cyhoedd yn fodlon talu amdanyn nhw, am y rhesymau y mae'r Aelod yn eu hamlinellu, a gallai hynny arwain at oblygiadau o ran dynodi.
O ran carthu, yn ein gwaith casglu tystiolaeth gan awdurdodau lleol, wrth i ni ddechrau symud, gobeithio, i'r cyfnod adfer ar ôl y llifogydd diweddar, un o'r pethau y byddwn ni'n eu trafod gyda'r awdurdodau lleol hynny yw pa un a fyddai carthu, carthu ychwanegol, wedi cael effaith ar y llifogydd a gafwyd. Felly, mae'n cael ei ystyried yn weithredol yn y ffordd seiliedig ar dystiolaeth honno, ond byddwn eisiau clywed gan bob awdurdod lleol am eu hamgylchiadau penodol. Mewn rhai mannau—mae'n debyg bod fy nisgwyliad yn anghywir—ond o'r hyn yr wyf i wedi ei weld hyd yma, fy nisgwyliad yw y bydd rhai achosion lle y byddai carthu ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth, ond efallai na fydd yn ateb a fydd yn cael effaith lesol ym mhobman.