Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:15 pm ar 10 Mawrth 2020.
Unwaith eto, diolchaf i'r Aelod am y cwestiynau pwysig yna. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar Fil brys sy'n debygol o gael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, ac rydym ni'n dod i gytundebau gyda gweinyddiaethau eraill ledled y Deyrnas Unedig ar bwerau y mae angen iddyn nhw ddod i Gymru i ymdrin â gwasanaethau datganoledig, gan gynnwys y sector addysg.
Rydym ni'n ymwybodol iawn, Llywydd, y bydd—yn yr hyn a fydd yn weithdrefn frys—angen i ni weithio gyda'r Comisiwn i wneud yn siŵr bod cyfleoedd i'r Senedd graffu ar y cynigion hynny o ran sut maen nhw'n effeithio ar Gymru, ynghyd ag unrhyw femorandwm o gydsyniad deddfwriaethol y bydd y Llywodraeth yn ei gyflwyno ar lawr y Siambr. Bydd y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru o ran addysg, a bydd angen i'r pwerau hynny gael eu defnyddio ar yr adeg y maen nhw fwyaf effeithiol.
Ac os caf wneud yr un pwynt hwn, Llywydd: yng nghyfarfod COBRA ddoe, y pwynt yr oedd y prif wyddonwyr a'r prif swyddogion meddygol yn fwyaf awyddus i'w wneud oedd bod angen defnyddio'r pwerau y bydd y Bil brys yn eu darparu ar yr adeg pan fyddan nhw'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, ac na ddylid eu defnyddio'n rhy gynnar. Oherwydd os byddwch chi'n eu defnyddio'n rhy gynnar ac yna angen eu defnyddio nhw eto, mae lefel cydymffurfiad y cyhoedd â'r mesurau hynny yn debygol o ostwng. Felly, os ydych chi'n mynd i ddefnyddio pwerau sy'n arwyddocaol, mae'n rhaid i chi eu hamseru nhw'n iawn, a byddwn yn gweithredu ar y cyngor gorau a gawn ni gan yr awdurdodau hynny ynglŷn ag amseru.
Yn y cyfamser, mae cynlluniau wrth gefn yn cael eu datblygu, wrth gwrs, ac mae Paul Davies yn iawn i dynnu sylw at sector y blynyddoedd cynnar. Dim ond i roi un enghraifft o'r meddylfryd sy'n mynd ymlaen: ceir rheoliadau, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, bod cymhareb oedolion i blant yn y lleoliad gofal plant, ac mae'r gymhareb honno wedi'i phennu mewn rheoliadau. Nawr, os oes llai o bobl i weithio oherwydd dyfodiad coronafeirws, efallai y bydd angen i ni fod yn fwy hyblyg yn y gymhareb reoleiddiol honno, a dyna yw ein meddylfryd ac mae'r math hwnnw o waith yn cael ei wneud eisoes.
A bydd hefyd, yn olaf, Llywydd, yn ymwybodol bod hwn yn sector sy'n arbennig o agored i niwed yn economaidd oherwydd ei fod yn dibynnu ar y ffioedd y mae'n eu cael gan rieni sy'n talu. Yr hyn nad ydym ni eisiau ei weld—rydym ni wedi bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU heddiw cyn y gyllideb yfory ar y pwynt hwn—yw busnesau hyfyw a phwysig yng Nghymru yn mynd i'r wal oherwydd effaith fyrdymor, er ei bod yn effaith fyrdymor ddifrifol, o'r cyflwr hwn. Byddwn yn disgwyl i Lywodraeth y DU gynorthwyo i wneud yn siŵr y gellir helpu'r busnesau hynny trwy gyfnod anodd, oherwydd byddwn ni eu hangen pan fydd coronafeirws wedi dod i ben.