Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:20 pm ar 10 Mawrth 2020.
Llywydd, ar y pwynt cyntaf, nid wyf i’n credu bod dull defnyddiadwy y gall unrhyw Lywodraeth ei ddilyn i olrhain pobl sy'n dychwelyd i'r wlad hon o lawer o rannau o'r byd, nid dim ond gogledd yr Eidal, ac eithrio drwy'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi eu rhoi ar waith drwy'r porthladdoedd a'r meysydd awyr. Rydym ni'n parhau i weithio ar lefel Cymru lle mae gennym ni rywfaint o gyfrifoldeb cyffredin yn hynny o beth.
Mae'r cyngor i bobl sydd wedi dychwelyd o rannau eraill o'r byd lle mae coronafeirws yn mynd o gwmpas yn eglur iawn: ni ddylen nhw fynd i feddygfa meddyg teulu nac i wasanaeth damweiniau ac achosion brys, dylen nhw ffonio yn gyntaf, dylen nhw gael cyngor. Mae'r Aelod, rwy'n gwybod, yn ymwybodol ein bod ni yng Nghymru wedi rhoi pwyslais arbennig ar brofi pobl yn eu cartrefi. Rydym ni'n mynd â'r prawf i'r person, fel nad oes perygl iddo ddod i gysylltiad â phobl a allai gael eu heintio ganddo wedyn.
Rydym ni'n credu bod y chwe achos a nodwyd gennym ni yng Nghymru hyd yma yn bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad ag eraill o ran arall o'r byd. Nid ydym ni'n credu bod gennym ni, ar hyn o bryd, ledaeniad cymunedol yng Nghymru, ond y cyngor yw mai mater o amser yw hynny. Felly, tra byddwn ni'n dal i fod yn y cyfnod cyfyngu, bydd hynny'n datblygu'n gyfres o gamau oedi ar yr adeg briodol.
Ac mae hynny'n dod â mi at yr ail bwynt a godwyd gan Adam Price, sef y pwynt a wneuthum wrth ateb Paul Davies am gyflymder. Y cyngor yr oeddem ni'n ei gael ddoe, Llywydd, oedd bod amseru camau gweithredu yn bwysig iawn. Os symudwn ni, er enghraifft, heddiw, at drefn lle gofynnwyd i unrhyw un a oedd â'r arwyddion cyntaf o annwyd ymneilltuo, mae bron yn sicr mai annwyd yw'r hyn y bydden nhw'n ymneilltuo ag ef, oherwydd mae annwyd yn mynd o gwmpas, ac nid yw coronafeirws. Felly, bydden nhw'n aros gartref am saith diwrnod, gyda'r holl anghyfleustra y mae hynny'n ei achosi, heb fod unrhyw ddiben mewn gwneud hynny. Pe byddai coronafeirws yn mynd o gwmpas ymhen 10 diwrnod, a ninnau'n gofyn iddyn nhw wneud hynny eto, mae'r modelu ymddygiadol yn dweud wrthym ni y byddai pobl yn fwy cyndyn o wneud hynny eilwaith, ar ôl bod drwy'r cwbl unwaith a chanfod nad oedd yn cyflawni unrhyw ddiben defnyddiol.
Felly, er fy mod i'n credu bod pob hawl i seneddwyr herio'r Llywodraeth, i ofyn y cwestiynau hynny, i fod yn feirniadol pan eu bod nhw'n credu y gellir cyfiawnhau beirniadaeth, byddwn ni'n gweithio ar sail y dystiolaeth orau sydd gennym ni ac, ar hyn o bryd, rydym ni'n credu bod trefn y camau y mae'n debygol y bydd yn rhaid i ni eu gofyn i ddinasyddion Cymru eu dilyn ar y pwynt cywir ar hyn o bryd, ac y byddwn ni'n amseru unrhyw bethau eraill y byddwn ni'n eu gofyn ganddyn nhw fel y bydd y gofynion hynny'n digwydd ar yr adeg y byddai'r camau hynny'n cael yr effaith fwyaf i arafu lledaeniad y feirws.