Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:26 pm ar 10 Mawrth 2020.
Yn amlwg, nid yw sefyllfa sydd ar fin troi'n bandemig byd-eang o bosibl yn amser pan fyddai unrhyw un eisiau ystyried cau cyfleusterau yn y GIG. Bum wythnos yn ôl, pan ofynnwyd a fyddech chi'n ymyrryd i gadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, dywedasoch nad ydym ni'n agos o gwbl at y pwynt hwnnw eto. Yn ystod y pythefnos nesaf, bydd y bwrdd iechyd yn gwneud penderfyniad terfynol. A ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw? Ac os felly, a wnewch chi ymyrryd heddiw?