Prosiectau Cynhyrchu Ynni Lleol a Chymunedol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:35, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol yn llwyddiannus ers 2010, ac yn parhau i wneud hynny trwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru. Rydym ni wedi gosod targedau perchenogaeth leol heriol i sicrhau ein bod ni'n cadw cyfoeth ac yn cynnig budd i gymunedau ledled Cymru.