Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf welliant 35, a gyflwynwyd yn fy enw i, yn ffurfiol. Aelodau, rwyf eisiau dannedd, nid i mi ond i'r GIG, ac mae gwelliant 35 wedi'i gyflwyno i gefnogi argymhelliad 6 gan y Pwyllgor, sy'n gofyn i'r Gweinidog wneud darpariaeth benodol ar gyfer goblygiadau peidio â chydymffurfio â'r ddyletswydd ansawdd. Rwyf wedi ail-gyflwyno hwn o Gyfnod 2 oherwydd, mewn gwirionedd, credaf ei bod yn hanfodol bwysig, os oes gennym ddeddfwriaeth, bod yn rhaid iddi gael rhwystrau a gwrthbwysau yn rhan ohoni a holl bwynt hyn yw rhoi'r dannedd hynny sy'n bwysig iawn i'r Llywodraeth, i'r holl system.
Nid yw'n fwriad iddo gael effaith andwyol ar sefyllfa ariannol byrddau iechyd, ymddiriedolaethau neu awdurdodau arbennig, ond gellid ymdrin ag ef drwy drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd y GIG gan y Gweinidog iechyd. Yn ystod y sesiynau tystiolaeth ac ymgynghoriad y pwyllgor, roedd yn amlwg bod llawer o randdeiliaid eisiau cyflwyno goblygiadau ar gyfer diffyg cydymffurfio mewn cysylltiad â'r dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd. Nododd Cymdeithas Feddygol Prydain fod angen mynd i'r afael â hyn, gan nodi:
Oni bai bod rhyw fath o sancsiwn neu gamau cywiro'n cael eu sbarduno, credwn y byddai perygl i'r ddyletswydd arfaethedig ddiffygio o ran effeithiolrwydd, ac y byddai ar ei gwaethaf yn troi'n ymarfer ticio blychau yn unig.
Nododd y Coleg Nyrsio Brenhinol fod yn rhaid bod goblygiadau o'i wneud neu o beidio â'i wneud, neu fel arall nid oes cymhelliad i'w wneud, ar ryw ystyr, ar y lefel fwyaf sylfaenol.
Gweinidog, ni wnaeth eich ymateb yng Nghyfnod 2 roi unrhyw sicrwydd imi o gwbl. Fe wnaethoch ddweud, unwaith eto, yn eich sylwadau o Gyfnod 1, fod dulliau ar gael eisoes, gan gynnwys mesurau uwchgyfeirio, a fyddai'n tanategu'r methiant i lynu at y ddyletswydd ansawdd honno. Hefyd, aethoch ymlaen i ddweud bod y trefniadau hyn yn rhan o lywodraethu ac atebolrwydd ehangach o fewn y GIG, a'ch bod yn credu eu bod yn cynnig cyfleoedd ar gyfer craffu a gweithredu a dysgu priodol ac amserol.
Wel, mae'n ddrwg gennyf, Gweinidog, nid wyf yn credu ein bod yn defnyddio'r dulliau hyn ac nid wyf yn credu eu bod wedi darparu cyfleoedd ar gyfer gweithredu a dysgu amserol. Nid wyf yn gweld byrddau iechyd yn gweithredu'n gyflym iawn nac yn dysgu eu gwersi. Felly, er enghraifft, rydym ni'n dal i ymdrin â chanlyniadau rhai o'n sefyllfaoedd gwaethaf: Tawel Fan, lle mae Betsi Cadwaladr yn dal i fod mewn mesurau arbennig bedair blynedd a hanner yn ddiweddarach, sy'n golygu nad yw mesurau arbennig ac ymyrraeth uniongyrchol gan y Llywodraeth wedi cael llawer o effaith ar drefniadau llywodraethu'r bwrdd. Mewn adolygiad annibynnol o'i wasanaethau therapi seicolegol—hynny yw, gwasanaethau iechyd meddwl—tynnwyd sylw at y ffaith ei fod yn dal i fethu mewn nifer o feysydd. Felly, byddech wedi disgwyl, ar ôl Tawel Fan, y bydden nhw wedi edrych ar yr ansawdd hwnnw yn yr elfen honno o'r gwasanaethau iechyd.
Nid wyf eisiau rhoi gormod o bwys ar wasanaethau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg, ond mae'n rhaid inni ei ddweud yma. Dyma'r gwir: er gwaethaf adroddiadau niferus rhwng 2010 a 2018 yn datgan bod gwasanaethau mamolaeth y bwrdd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn trafferthion, gan gynnwys adroddiad mewnol damniol gan fydwraig ymgynghorol, a ddywedodd fod methiannau systemig, fe'u hanwybyddwyd gan yr uwch reolwyr. Felly, ble mae'r ddyletswydd honno i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd? Mae hyn yn adlewyrchu'n union yr hyn a welsom yn Betsi.
Felly, Gweinidog, Aelodau'r blaid lywodraethol, rwyf eisiau ichi feddwl am hyn. Gallai hwn fod yn ddarn defnyddiol iawn o ddeddfwriaeth i sbarduno ansawdd, i sbarduno gonestrwydd drwy'r GIG, ond mae'n rhaid iddo gael rhywfaint o ddannedd, ac mae'r gwelliant cyfan hwn yn ymwneud â rhoi'r dannedd hynny i'r Ddeddf gyfan er mwyn sicrhau ein bod yn cael y gydymffurfiaeth wirioneddol honno. Ni allwn fforddio i'n GIG ni barhau mewn modd fel na allwn ddwyn pobl i gyfrif a gwneud yn siŵr bod yna welliannau mewn gwirionedd. Dyletswydd i sicrhau ansawdd, diffyg cydymffurfio, rhowch ddannedd inni.