Grŵp 4: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd — diffyg cydymffurfio (Gwelliant 35)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:59, 10 Mawrth 2020

Yn fyr iawn, dim ond i ategu hynny. Mae'n rhaid cael grym y tu ôl i unrhyw ddeddfwriaeth a sicrhau bod yna ddannedd, fel mae Angela Burns wedi'i ddweud, y tu ôl i'r ddeddfwriaeth yma. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r gwelliant yma; mi fyddwn ni'n dadlau ei bod hi yn ddibwys pasio deddfwriaeth oni bai bod yna oblygiadau pan fo rhywun yn mynd yn groes i ofynion y ddeddfwriaeth yna.