Grŵp 6: Dyletswydd i sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau iechyd — cofrestr o reolwyr (Gwelliant 72)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:15, 10 Mawrth 2020

Diolch yn fawr. Dwi'n apelio yn gryf arnoch chi i gefnogi'r gwelliant yma. A ddylem ni fod yn gallu disgwyl neu obeithio cael y staff clinigol, meddygon, nyrsys ac yn y blaen, orau posib, o fewn yr NHS? Dwi'n credu y dylem ni, ac mae yna systemau mewn lle i sicrhau bod safonau yn cael eu cynnal. A ddylem ni fod yn gallu disgwyl cael, a gobeithio cael, y rheolwyr gorau yn yr NHS? Dylem, mi fyddwn i'n dadlau y dylem ni, ond does gennym ni ddim yr un systemau sy'n ceisio cynnal y safonau yna.

Beth mae'r gwelliant yma yn ei wneud ydy creu cofrestr o reolwyr NHS a chorff i oruchwylio'r gofrestr honno. Rydyn ni wedi gwneud newidiadau ers Cyfnod 2 i sicrhau bod gan y corff goruchwylio hwnnw y gallu i osod cymwyseddau ag i osod sancsiynau ar reolwyr sydd yn methu â chyrraedd safonau. 

Yn achos nyrsys, meddygon, bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, mae yna gyrff rheoleiddio sydd yn mynnu safonau uchel, sydd â'r gallu i'w disgyblu nhw os ydyn nhw'n methu â chyrraedd y safonau hynny, i gywiro lle mae safonau'n methu â chyrraedd y safon, lle mae yna esgeulustod, ac yna mae'n bosib erlyn yn unol â'r safonau rheoleiddio hynny. Ond ymhlith rheolwyr, does gennym ni ddim y trefniadau hynny mewn lle sy'n sicrhau nad ydyn ni'n fodlon pan mae pethau yn disgyn yn is na'r ansawdd rydyn ni'n credu ein bod ni ei angen. Mae gennym ni reolwyr rhagorol o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ar bob lefel. Mae eisiau rhoi bri i'r proffesiwn hwnnw o fod yn rheolwyr o fewn yr NHS. Mae eisiau dathlu rheolaeth dda. Ond ar yr un llaw, os ydyn ni'n gwneud hynny, ar y llaw arall mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni'r arfau hynny a'r systemau hynny sydd yn gosod llinyn mesur, lle rydyn ni'n gallu dweud dyma'r hyn rydyn ni yn chwilio amdano fo. 

Mae gennym ni, fel rydyn ni'n gwybod, ormod o brofiadau o fewn yr NHS yng Nghymru dros y blynyddoedd lle mae yna reolwyr wedi disgyn ymhell o dan y safonau y dylem ni fod yn disgwyl ohonyn nhw. Mae yna oblygiadau difrifol wedi bod lle mae camgymeriadau rheoli wedi digwydd. Ac yn aml iawn, mi welwn ni reolwr neu reolwraig yn cael ei symud ymlaen, ac yn cymryd swydd arall mewn bwrdd iechyd, heb fod yna brosesau wedi cael eu dilyn un ai i gywiro neu gosbi neu i ddod â sancsiynau mewn, ond yn bennaf i wthio safonau ar i fyny. 

Dwi'n deall bod yna gryn waith paratoi wedi cael ei wneud ar y fath o system rydyn ni yn ei argymell yn fan hyn, a bod hwn yn rhywbeth mae'r Llywodraeth yn sylweddoli y dylid mynd i'r afael ag o, ond, am ryw reswm, fod yna amharodrwydd wedi bod i ddweud, 'Na, dyna ddigon ar fod yn ffwrdd â hi ynglŷn â'r safonau rydyn ni'n eu disgwyl ymhlith reolwyr—gadewch inni wneud rhywbeth am y peth.'

Dwi ddim yn credu bod modd gyrru safonau i fyny, gwneud mwy efo llai, defnyddio adnoddau yn llawer gwell, heb sicrhau bod gennym ni fecanwaith ar gyfer gwella rheolaeth. Er mai gwrthod y gwelliant yma fydd y Llywodraeth, dwi'n ofni, dwi wirioneddol yn credu bod hwn yn faes y dylai’r Llywodraeth fod â ffocws arno fo, ac y dylai hwn fod wedi bod yn rhan greiddiol o Fil, os mai pwrpas y Bil hwnnw oedd codi safonau o fewn iechyd a gofal.