Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 10 Mawrth 2020.
Yn sicr, egluraf fel hyn: rwy'n cydnabod bod y GIG yn beiriant cymhleth â llawer o haenau rheoli ynddo. Y trueni, mewn ffordd, yw ein bod yma yng Nghyfnod 3, ar ôl cynnig hwn yng Nghyfnod 2, ac wedi rhoi hwn ar y bwrdd ar adeg pryd y dylai ac y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi ymgysylltu ag ef mewn ffordd, gan ddefnyddio nerth peiriant y Llywodraeth o bosib, y byddent wedi gallu nodi'n glir sut i weithredu'r math hwn o newid. Ond dydw i ddim yn credu bod hynny'n tynnu oddi wrth yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i gyflawni yma.