Grŵp 9: Corff Llais y Dinesydd — aelodau (Gwelliannau 5, 48, 6, 7, 8, 49, 9, 50, 51, 52, 10, 53, 11, 12, 54, 56, 14)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:04 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 7:04, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Er na allaf gefnogi'r prif welliant yn y grŵp hwn, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Gweinidog yn ceisio'i wneud. Fodd bynnag, credaf mai'r lle hwn, nid Gweinidogion Cymru, sydd yn y sefyllfa orau i benodi aelodau i gorff llais y dinesydd. Felly, rwyf yn dewis cefnogi gwelliannau Angela.

Corff llais y dinesydd yw un o rannau pwysicaf y ddeddfwriaeth hon. Nid oeddwn erioed yn cefnogi disodli'r cynghorau iechyd cymuned, ond rydym yn y sefyllfa sydd ohoni. Mae'n hanfodol, yn sgil y ddeddfwriaeth hon y ceir corff sy'n wirioneddol gefnogi cleifion mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Ni chredaf fod rhoi'r gallu i Weinidogion benodi a diswyddo yn cyd-fynd â'r ffaith y bydd angen i gorff llais y dinesydd herio penderfyniadau Gweinidogion gymaint â rhai y cyrff iechyd a gofal cymdeithasol, ac felly rwy'n dod i'r casgliad fod hwn yn enghraifft o wrthdaro buddiannau. Mae angen i gorff annibynnol sy'n llais i gleifion fod yn rhydd o unrhyw ymyrraeth dybiedig neu wirioneddol gan y Llywodraeth. Mae hynny'n cynnwys penodi a diswyddo, ac rwyf felly'n gwrthod gwelliannau 5, 7, 8, 9 a 10. Fodd bynnag, byddwn yn cefnogi'r rhan fwyaf o'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn. Diolch yn fawr.