– Senedd Cymru am 6:54 pm ar 10 Mawrth 2020.
Grŵp 9 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r grŵp yma'n ymwneud ag aelodau o gorff llais y dinesydd. Gwelliant 5 yw'r prif welliant. Galwaf ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant, ac i siarad i'r grŵp. Vaughan Gething.
Diolch. Byddaf yn siarad yn gyntaf am welliannau'r Llywodraeth yr wyf yn eu cynnig, ac yna'n troi i ystyried y gwelliannau eraill sydd wedi'u rhestru yn y grŵp hwn.
Nid oedd y Bil fel y'i cyflwynwyd yn cynnwys darpariaethau i brif weithredwr corff llais y dinesydd fod yn aelod o'r bwrdd. Cwestiynwyd hynny yn ystod y broses graffu gan fwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned, ac rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am godi'r mater. Gan mai prif weithredwr y corff fydd ei swyddog cyfrifyddu, mae'n briodol y dylai'r prif weithredwr fod yn aelod o'r bwrdd. Felly, rwy'n falch o gynnig y grŵp hwn o welliannau sy'n gwneud y prif weithredwr yn aelod o'r bwrdd ac yn gwneud newidiadau ôl-ddilynol i adlewyrchu'r ffaith y bydd gan y bwrdd bellach gyfuniad o un prif weithredwr a chwech i wyth aelod anweithredol, ynghyd â chadeirydd a dirprwy gadeirydd.
Mae gwelliannau'r Llywodraeth hefyd yn gwneud darpariaeth i aelodau anweithredol y corff wahodd unrhyw undebau y mae wedi'u cydnabod i enwebu ymgeisydd cymwys i'w benodi'n aelod cyswllt undeb llafur y corff. Mae ymgeisydd yn gymwys i'w benodi os yw: yn aelod o staff corff llais y dinesydd ac yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan y corff. Ei swyddogaeth fydd rhoi cyngor i'r bwrdd i sicrhau bod profiad y gweithlu yn llywio gweithgaredd, gweithredu a thrafodaeth y bwrdd. Y nod yw cryfhau cysylltiad y bwrdd â staff a gwella trefniadau llywodraethu a darparu gwasanaethau'r corff. Bydd gan yr aelod undeb llafur swyddogaeth gynghori, yn hytrach na swyddogaeth bleidleisio. Mae'r rhain yn welliannau a fydd yn cryfhau arweinyddiaeth a llywodraethu'r bwrdd a gofynnaf i'r Aelodau eu derbyn.
Byddaf nawr yn ymdrin â gwelliannau nad ydyn nhw yn rhai'r Llywodraeth. Mae'r gwelliannau yn cadw'r strwythur aelodaeth gwreiddiol a nodir yn y Bil, ond yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y swyddogaeth o benodi bwrdd y corff a chyflawni swyddogaethau megis cymeradwyo telerau ac amodau staff y corff. Rwyf wedi gwneud fy safbwynt ar benodiad gan y Cynulliad yn glir yn ystod camau 1 a 2. Bydd penodiad Gweinidogion Cymru o aelodau'r bwrdd yn ddarostyngedig i reolau'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Mae hynny'n gwarantu cystadleuaeth deg ac agored i'r swyddi. Rwyf eisoes wedi dweud fy mod yn fwy na pharod i gynnwys cam rhanddeiliaid yn y broses benodi. Yn ogystal â hyn, fel y dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol ohono, mae Pwyllgor pwnc perthnasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar benodiadau cadeiryddion penodol cyn eu penodi. Rwyf eisoes wedi cytuno y bydd penodi cadeirydd corff llais y dinesydd yn agored i'r lefel ychwanegol honno o graffu gan Aelodau yn y fan hon.
Dywedodd y cynghorau iechyd cymuned eu hunain yn eu tystiolaeth fod y trefniant newydd yn llawer mwy annibynnol na'u model presennol, ac ni ddylem golli golwg ar hyn. Yn y sylwadau agoriadol a wnaed, dywedwyd bod hyn yn ymwneud â chael gwared ag annibyniaeth y cynghorau iechyd cymuned. Mae hyn ymhell o'r gwirionedd: mae'n cryfhau eu hannibyniaeth yn sylweddol. Fel y gŵyr yr Aelodau o bosib, ceir nifer o enghreifftiau o gyrff y penodir eu byrddau gan Weinidogion Cymru, er enghraifft Gofal Cymdeithasol Cymru a Chymwysterau Cymru. Fel y gŵyr pawb, nid yw'r ffaith bod Gweinidogion Cymru yn penodi pobl i fyrddau cyrff cyhoeddus yn atal y cyrff hynny rhag cwestiynu neu feirniadu'r Llywodraeth pan gredant ei bod yn iawn gwneud hynny. Mae'r profiad yn dangos nad yw penodiadau gweinidogol yn mygu llais y corff mewn unrhyw ffordd nac yn cyfyngu ar ei weithredoedd.
Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff osod copi o'i adroddiad blynyddol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd, wrth gwrs, yn cael ei adnabod yn fuan dan enw gwahanol. Cafodd hyn ei gynnwys yn fanwl fel y byddai'r adroddiad blynyddol yn cael ei ddwyn i sylw Aelodau'r Cynulliad. Felly, bydd gan y Cynulliad bob cyfle i graffu ar waith y corff, a disgwyliaf yn llawn i'r Cynulliad drafod cynnwys yr adroddiad. Felly, ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliannau nad ydyn nhw yn rhai'r Llywodraeth yn y grŵp hwn.
Angela Burns i ymateb.
Diolch yn fawr, Llywydd. Am syndod. A bod yn onest, rydym bellach wedi dod at wraidd y darn hwn o ddeddfwriaeth o ran corff llais y dinesydd. Mae ein cynghorau iechyd cymuned presennol yn sefydliadau eithriadol. Mae rhai ohonynt yn hollol ragorol yn y gwaith a wnânt. Mae rhai ohonynt wedi mynd allan yno ac wedi datgelu problemau gwirioneddol, wedi tynnu sylw atynt, wedi mynd i'r afael â nhw, ac wedi'u datrys.
Felly, y llwyth nesaf o welliannau sy'n rhedeg—ble'r ydym ni? Rwy'n credu ein bod ni ar grŵp 9—hyd at bron 20 i gyd yn ymwneud â chorff llais y dinesydd: sut mae'n mynd i weithredu; sut mae'n mynd i gael ei weld gan y cyhoedd. A hoffwn eich atgoffa, cyn inni fanylu ar y gwelliannau hyn, fod corff llais y dinesydd ar gyfer y bobl. Ac yn yr adolygiad seneddol—y mae'r Gweinidog yn hoffi ein hatgoffa yn aml ein bod ni i gyd wedi dweud fel grŵp y byddem yn ei ystyried ac yn cytuno arno—roedd yn gwbl glir y byddai ein gwasanaeth iechyd, wrth symud ymlaen, yn cynnwys pobl wrth ddarparu'r gwasanaeth iechyd. Byddai pobl yn ei siapio; bydden nhw yn helpu i benderfynu ar gyfeiriad y daith; byddai ganddyn nhw fewnbwn; a byddai eu lleisiau, wrth symud ymlaen, yn cael eu clywed.
Felly, sut ydych chi'n clywed eu llais? A ydych yn clywed eu llais drwy brif weithredwr bwrdd iechyd? Dydw i ddim yn meddwl hynny, nid mewn gwirionedd. A glywch eu llais drwy Aelodau'r Cynulliad sy'n dod yma ac yn codi achosion unigol? Ydym, rydym i gyd yn ei wneud. Rydym i gyd yn gwneud hynny ar ran ein holl etholwyr, lle bynnag yr ydym. A ydych yn clywed eu llais drwy unrhyw sefydliadau eraill? Dim llawer. O bryd i'w gilydd, bydd rhai o'r colegau proffesiynol yn ymwneud â mater penodol. Byddwch yn ei glywed yn bennaf drwy gorff llais y dinesydd, neu'r hyn a ddaw'n gorff llais y dinesydd.
Felly, rydym wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn—gwelliannau 48, 54 a 56—yn ôl ger eich bron eto; fe'u cyflwynwyd gennym yng Nghyfnod 2. Nid realiti annibyniaeth yn unig y mae angen inni ei weld yma, ond mae'n rhaid inni gadarnhau canfyddiad y cyhoedd o annibyniaeth. Dywedais hyn yng Nghyfnod 2, ac rwyf yn mynd i'w ddweud eto ac atgoffa'r Gweinidog, ac roedd yn sylw a wnaed gan yr ombwdsmon yr wyf i, mewn gwirionedd, yn ei barchu'n fawr am y gwaith a wna dros bobl Cymru yn y swydd honno fel ombwdsmon, fe ddywedodd ef, heb annibyniaeth, y byddai gan rai'r canfyddiad ei fod o bosib yn debyg i bwdl; ni fyddai ganddyn nhw'r dannedd.
Ac ni allwn gytuno mwy. Rwy'n siomedig, Gweinidog, eich bod wedi ail-gyflwyno eich gwelliannau ar gyfer cyfnod 2—sydd wedi'u rhifo'n 5, 12 a 14 erbyn hyn. Nodwyd yng Nghyfnod 2 nad oes llawer i awgrymu y byddai'r broses penodiadau cyhoeddus yn fwy addas ar gyfer annibyniaeth y corff. Yn hytrach, defnyddir y Cynulliad fel ffordd o warantu aelodau annibynnol a fyddai'n gallu herio'r Gweinidog a'r byrddau iechyd heb ofn cael eu cyhuddo neu golli eu swydd.
Gofynnais nifer o gwestiynau i'r Gweinidog ar annibyniaeth yng Nghyfnod 2, nad wyf yn credu iddynt gael eu hateb yn ddigonol gan y broses benodiadau cyhoeddus, ac yn enwedig o ystyried bod gennym ni, yma yng Nghymru, gronfa fach iawn o bobl i ddewis ohonynt; pobl sy'n aml iawn yn gysylltiedig â swyddi anllywodraethol eraill, y trydydd sector neu gyrff llywodraethol. Wyddoch chi, nid rhywbeth i deimlo cywilydd yn ei gylch yw hyn; mae'n un o ffeithiau bywyd, mae'n rhaid ei wynebu a gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi'r prosesau cywir ar waith i sicrhau bod gan gorff llais y dinesydd berson cwbl annibynnol yn gadeirydd.
Felly, Gweinidog, sylwaf eich bod yn honni bod eich dull chi o weithredu yn cynnig camau diogelwch, ond nid wyf yn credu hynny, a byddwn yn gofyn i'r Aelodau feddwl o ddifrif am hyn. Dyma lais y dinesydd. Hwn yw'r unig le y gallant ein dal ni, y byrddau iechyd, y Gweinidog, y GIG cyfan, i gyfrif. Rhaid inni adael iddyn nhw fod yn annibynnol. Felly a fyddech cystal â phasio gwelliannau 48, 54 a 56.
Gwelliannau pwysig iawn yn fan hyn. Mi fyddem ni’n pleidleisio yn erbyn gwelliannau’r Llywodraeth, oherwydd mae hynny’n angenrheidiol er mwyn inni allu cael pleidlais ar welliannau 48 i 54 a 56. Mae ein barn ni ar hwn wedi bod yn gyson drwy gydol y drafodaeth ar y ddeddfwriaeth yma. Rydym ni’n credu, yn syml iawn, y dylai bwrdd llais y dinesydd gael ei benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan Weinidogion Cymru. Mae’r bwrdd, mewn difrif, yn cymryd lle'r cynghorau iechyd cymuned, ac yn hynny o beth, felly, yn mynd i fod yn chwarae rôl allweddol yn sgrwtineiddio'r NHS a llais y cleifion ydy o i fod.
Pa ffordd bynnag yr ydych chi eisiau ei ddehongli, fe fydd tybiaeth o hyd o wrthdaro buddiannau pan gaiff y corff y mae ei angen fwyaf i sefyll o blaid y cleifion—mewn geiriau eraill, i fod yn feirniadol, pan fo angen, o'r ffordd y caiff y gwasanaeth ei redeg—ei benodi'n uniongyrchol gan y Gweinidog. Dyma un o'r rhesymau allweddol eraill pam na allwn ni gefnogi'r Bil hwn. Gwyddom, mewn rhannau o Gymru o leiaf, fod y cyngor iechyd cymuned wedi bod yn barod i sefyll o blaid cleifion a bod yn feirniadol o'r gwasanaeth. Edrychwch ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan y cyngor yn y gogledd ar hyn o bryd o ran penderfyniadau a wneir ar faterion fasgwlaidd. Rydym yn parhau'n bryderus iawn mai canlyniad y Bil hwn fydd dileu haen hanfodol bwysig o graffu o fewn ein system iechyd a gofal.
Er na allaf gefnogi'r prif welliant yn y grŵp hwn, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Gweinidog yn ceisio'i wneud. Fodd bynnag, credaf mai'r lle hwn, nid Gweinidogion Cymru, sydd yn y sefyllfa orau i benodi aelodau i gorff llais y dinesydd. Felly, rwyf yn dewis cefnogi gwelliannau Angela.
Corff llais y dinesydd yw un o rannau pwysicaf y ddeddfwriaeth hon. Nid oeddwn erioed yn cefnogi disodli'r cynghorau iechyd cymuned, ond rydym yn y sefyllfa sydd ohoni. Mae'n hanfodol, yn sgil y ddeddfwriaeth hon y ceir corff sy'n wirioneddol gefnogi cleifion mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Ni chredaf fod rhoi'r gallu i Weinidogion benodi a diswyddo yn cyd-fynd â'r ffaith y bydd angen i gorff llais y dinesydd herio penderfyniadau Gweinidogion gymaint â rhai y cyrff iechyd a gofal cymdeithasol, ac felly rwy'n dod i'r casgliad fod hwn yn enghraifft o wrthdaro buddiannau. Mae angen i gorff annibynnol sy'n llais i gleifion fod yn rhydd o unrhyw ymyrraeth dybiedig neu wirioneddol gan y Llywodraeth. Mae hynny'n cynnwys penodi a diswyddo, ac rwyf felly'n gwrthod gwelliannau 5, 7, 8, 9 a 10. Fodd bynnag, byddwn yn cefnogi'r rhan fwyaf o'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch i'r Aelodau am eu sylwadau ac rwy'n cydnabod y gallwn ni ailadrodd nifer o bwyntiau yn y grwpiau nesaf o welliannau.
Rwyf eisiau dychwelyd yn uniongyrchol at y pwyntiau a wnaed am annibyniaeth neu ddiffyg annibyniaeth corff llais y dinesydd, yn hytrach na'r cynghorau iechyd cymuned presennol. Wrth glywed yr ymadrodd, 'pa ffordd bynnag yr ydych yn ei ddehongli, ni allwch gael sefyllfa lle caiff annibyniaeth corff ei amau', wel, mewn gwirionedd, os edrychwn ni ar y grŵp presennol o gynghorau iechyd cymuned sy'n cael eu canmol i'r cymylau gan Aelodau yn y Siambr hon am eu hannibyniaeth, mae'n werth inni fyfyrio ar y ffaith mai corff a gynhelir gan fwrdd iechyd Powys ydyw. Caiff staff cynghorau iechyd cymuned eu cyflogi gan fwrdd iechyd Powys. Rydym yn creu corff ar wahân lle penodir yr arweinyddiaeth drwy broses o benodiadau cyhoeddus a oruchwylir gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Mae hynny'n llawer mwy annibynnol na'r broses bresennol. Nawr, efallai bod pobl yn anghytuno â hynny, ond nid yw ceisio awgrymu bod hyn rywsut yn cyflwyno elfen ychwanegol o reolaeth gan y Llywodraeth yn dal dŵr o safbwynt rhesymegol, ac os ydych chi'n meddwl am ein proses bresennol o benodiadau cyhoeddus, meddyliwch am ein comisiynwyr, a benodir gan y Llywodraeth. Wel, nid wyf erioed wedi credu bod unrhyw un o'r comisiynwyr sydd gennym ni, boed y comisiynydd plant, y comisiynydd pobl hŷn na chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, wedi teimlo eu bod yn cael eu ffrwyno erioed o ran y sylwadau yr oeddent eisiau eu gwneud am y Llywodraeth yn gyhoeddus neu'n breifat, a gallaf ddweud hynny wrthych o brofiad gweddol hir o ymdrin â phobl sydd wedi bod ym mhob un o'r swyddi hynny. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad ar ôl cwblhau—
Hoffwn wneud y pwynt fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau ers amser maith y dylai pob un o'n comisiynwyr gael eu penodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Rydym ni'n sôn yma am yr hyn sy'n digwydd pan fydd pobl yn dadlau ynghylch y broses benodi ar y dechrau, ac yna realiti'r peth. Nid yw unrhyw un o'r bobl hynny sydd wedi bod yn y swyddi comisiynydd hynny wedi teimlo y cawsant eu cyfyngu o ran eu hannibyniaeth.
Mae modd dadlau, ac rydych chi'n gwneud hynny yn gryf, ond mae comisiynwyr a sefydliadau fel y corff newydd llais y dinesydd yn destun craffu ac atebolrwydd—yn naturiol, o ran yr ochr ddeddfwriaethol, oherwydd dyna ein swyddogaeth ni yn ogystal â deddfu, i ddwyn y weithrediaeth i gyfrif. Yr hyn yr ydych yn ei wneud drwy gael y penodiadau hyn, mewn enw, yw eu gwneud yn benodiadau gweithredol pendant, o leiaf yn eu trefn ffurfiol, hyd yn oed os nad felly y byddant yn gweithio, ac nid yw hynny'n weddus o gwbl. Dylem barchu sut mae pwerau wedi eu rhannu a chael gwell strwythur na'r un yr ydych chi'n ei gynnig.
Mae anghytundeb eithaf syml ynghylch pa un ai'r Cynulliad ynteu, yn wir, y Llywodraeth a ddylai fod yn penodi'r bobl hyn yn y pen draw, ond nid wyf yn derbyn bod y ffordd yr ydym wedi penodi pobl i swyddogaethau cyhoeddus drwy Gymru yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, neu yn wir i ystod o swyddi, yn dal dŵr o ran y ddadl y byddai hyn rywsut yn tanseilio annibyniaeth y bobl yn y swyddi hynny. Byddaf yn derbyn ymyriad ac yna byddaf yn dod i ben.
Er mwyn eich atgoffa o'r geiriau a ddefnyddiais yn fy nghyfraniad—sut bynnag y mae'r cyrff neu'r unigolion neu'r comisiynwyr hyn yn gweithredu, dywedais fod canfyddiad clir o wrthdaro buddiannau, a bod hynny, hefyd, yn bwysig iawn pan rydym yn ceisio meithrin ymddiriedaeth yr etholwyr.
Rwy'n credu bod hwn yn bwynt anhygoel. Rydych yn dweud bod gwrthdaro buddiannau ar gyfer trefniadau newydd a chorff cwbl ar wahân, ond rydych chi'n barod i frwydro dros y sefyllfa bresennol lle mae'r bobl hynny'n cael eu cyflogi gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Nid yw hynny, i mi, yn safbwynt sydd ag unrhyw fath o ddadl resymegol drosto o gwbl. Rwy'n cydnabod nad ydym yn cytuno o ran y Llywodraeth a gwrthbleidiau. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Llywodraeth yn y broses newydd a gyflwynwyd gennym ac i nodi'r ffaith bod mudiad presennol y cynghorau iechyd cymuned eu hunain yn cydnabod bod llawer mwy o annibyniaeth a rhyddid gweithredu yn y Bil, fel y darparwyd yn y gwelliannau ger eich bron y gofynnaf ichi eu cefnogi heddiw.
Rŷn ni'n pleidleisio felly ar welliant 5. Os derbynnir gwelliant 5, bydd gwelliant 48 yn methu. Os gwrthodir gwelliant 5, bydd gwelliant 14 yn methu. Y cwestiwn yw y dylid derbyn gwelliant 5. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud felly i bleidlais ar welliant 5. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 5 ac mae gwelliant 48 yn methu.
Gwelliant 6 yw'r gwelliant nesaf. Ydy o'n cael ei symud gan y Gweinidog?
Yn cael ei gynnig yn ffurfiol?
Ydy.
Ydy, mae o.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 6. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 yw'r gwelliant nesaf. Gweinidog.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷm ni'n symud i bleidlais ar welliant 7. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, pump yn ymatal, 11 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 7 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 8, Gweinidog.
Cynigwyd.
Os derbynnir gwelliant 8, bydd gwelliant 49 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n symud i bleidlais ar welliant 8. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 8. Mae gwelliant 49, felly, yn methu.
Gwelliant 9, Gweinidog.
Os derbynnir gwelliant 9, bydd gwelliannau 50, 51 a 52 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n symud i'r bleidlais ar welliant 9. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 9, ac felly mae gwelliannau 50, 51 a 52 wedi methu.
Rŷn ni'n mynd, felly, i welliant 10 yn enw'r Gweinidog.
Yn ffurfiol.
Os derbynnir gwelliant 10, bydd gwelliant 53 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, agor pleidlais ar welliant 10. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 10. Mae gwelliant 53 yn methu.
Felly, gwelliant 11, Gweinidog.
Cynigwyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud felly i bleidlais ar welliant 11. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 11.
Gwelliant 12, Gweinidog.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud i bleidlais felly ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 12.
Gwelliant 54, Angela Burns.
Yn ffurfiol, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 54? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud felly i bleidlais ar welliant 54 yn enw Angela Burns. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac, felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 56, Angela Burns.
Yn ffurfiol, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 56? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rŷn ni'n symud i bleidlais felly ar welliant 56 yn enw Angela Burns. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.