Part of the debate – Senedd Cymru am 6:54 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch. Byddaf yn siarad yn gyntaf am welliannau'r Llywodraeth yr wyf yn eu cynnig, ac yna'n troi i ystyried y gwelliannau eraill sydd wedi'u rhestru yn y grŵp hwn.
Nid oedd y Bil fel y'i cyflwynwyd yn cynnwys darpariaethau i brif weithredwr corff llais y dinesydd fod yn aelod o'r bwrdd. Cwestiynwyd hynny yn ystod y broses graffu gan fwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned, ac rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am godi'r mater. Gan mai prif weithredwr y corff fydd ei swyddog cyfrifyddu, mae'n briodol y dylai'r prif weithredwr fod yn aelod o'r bwrdd. Felly, rwy'n falch o gynnig y grŵp hwn o welliannau sy'n gwneud y prif weithredwr yn aelod o'r bwrdd ac yn gwneud newidiadau ôl-ddilynol i adlewyrchu'r ffaith y bydd gan y bwrdd bellach gyfuniad o un prif weithredwr a chwech i wyth aelod anweithredol, ynghyd â chadeirydd a dirprwy gadeirydd.
Mae gwelliannau'r Llywodraeth hefyd yn gwneud darpariaeth i aelodau anweithredol y corff wahodd unrhyw undebau y mae wedi'u cydnabod i enwebu ymgeisydd cymwys i'w benodi'n aelod cyswllt undeb llafur y corff. Mae ymgeisydd yn gymwys i'w benodi os yw: yn aelod o staff corff llais y dinesydd ac yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan y corff. Ei swyddogaeth fydd rhoi cyngor i'r bwrdd i sicrhau bod profiad y gweithlu yn llywio gweithgaredd, gweithredu a thrafodaeth y bwrdd. Y nod yw cryfhau cysylltiad y bwrdd â staff a gwella trefniadau llywodraethu a darparu gwasanaethau'r corff. Bydd gan yr aelod undeb llafur swyddogaeth gynghori, yn hytrach na swyddogaeth bleidleisio. Mae'r rhain yn welliannau a fydd yn cryfhau arweinyddiaeth a llywodraethu'r bwrdd a gofynnaf i'r Aelodau eu derbyn.
Byddaf nawr yn ymdrin â gwelliannau nad ydyn nhw yn rhai'r Llywodraeth. Mae'r gwelliannau yn cadw'r strwythur aelodaeth gwreiddiol a nodir yn y Bil, ond yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y swyddogaeth o benodi bwrdd y corff a chyflawni swyddogaethau megis cymeradwyo telerau ac amodau staff y corff. Rwyf wedi gwneud fy safbwynt ar benodiad gan y Cynulliad yn glir yn ystod camau 1 a 2. Bydd penodiad Gweinidogion Cymru o aelodau'r bwrdd yn ddarostyngedig i reolau'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Mae hynny'n gwarantu cystadleuaeth deg ac agored i'r swyddi. Rwyf eisoes wedi dweud fy mod yn fwy na pharod i gynnwys cam rhanddeiliaid yn y broses benodi. Yn ogystal â hyn, fel y dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol ohono, mae Pwyllgor pwnc perthnasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar benodiadau cadeiryddion penodol cyn eu penodi. Rwyf eisoes wedi cytuno y bydd penodi cadeirydd corff llais y dinesydd yn agored i'r lefel ychwanegol honno o graffu gan Aelodau yn y fan hon.
Dywedodd y cynghorau iechyd cymuned eu hunain yn eu tystiolaeth fod y trefniant newydd yn llawer mwy annibynnol na'u model presennol, ac ni ddylem golli golwg ar hyn. Yn y sylwadau agoriadol a wnaed, dywedwyd bod hyn yn ymwneud â chael gwared ag annibyniaeth y cynghorau iechyd cymuned. Mae hyn ymhell o'r gwirionedd: mae'n cryfhau eu hannibyniaeth yn sylweddol. Fel y gŵyr yr Aelodau o bosib, ceir nifer o enghreifftiau o gyrff y penodir eu byrddau gan Weinidogion Cymru, er enghraifft Gofal Cymdeithasol Cymru a Chymwysterau Cymru. Fel y gŵyr pawb, nid yw'r ffaith bod Gweinidogion Cymru yn penodi pobl i fyrddau cyrff cyhoeddus yn atal y cyrff hynny rhag cwestiynu neu feirniadu'r Llywodraeth pan gredant ei bod yn iawn gwneud hynny. Mae'r profiad yn dangos nad yw penodiadau gweinidogol yn mygu llais y corff mewn unrhyw ffordd nac yn cyfyngu ar ei weithredoedd.
Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff osod copi o'i adroddiad blynyddol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd, wrth gwrs, yn cael ei adnabod yn fuan dan enw gwahanol. Cafodd hyn ei gynnwys yn fanwl fel y byddai'r adroddiad blynyddol yn cael ei ddwyn i sylw Aelodau'r Cynulliad. Felly, bydd gan y Cynulliad bob cyfle i graffu ar waith y corff, a disgwyliaf yn llawn i'r Cynulliad drafod cynnwys yr adroddiad. Felly, ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliannau nad ydyn nhw yn rhai'r Llywodraeth yn y grŵp hwn.