Grŵp 10: Corff Llais y Dinesydd — sicrwydd indemniad ar gyfer gwirfoddolwyr a staff (Gwelliant 55)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:21 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 7:21, 10 Mawrth 2020

Dim ond mewn brawddeg, i ddweud y byddwn ni'n cefnogi'r gwelliant yma. Dwi'n meddwl ei bod hi'n allweddol, os ydym ni am dynnu pobl i mewn i roi eu hamser i weithio mewn meysydd fel hyn, er budd y cyhoedd, eu bod nhw'n cael y gefnogaeth i wneud hynny. Ac mae hi'n glir i ni ei bod hi'n bwysig y dylai staff a gwirfoddolwyr fel ei gilydd gael y cover cyfreithiol priodol ar gyfer ymwneud â'u gweithgareddau.