– Senedd Cymru am 7:15 pm ar 10 Mawrth 2020.
Grŵp 10 yw'r grŵp nesaf o welliannau sydd yn ymwneud â sicrwydd indemniad ar gyfer gwirfoddolwyr a staff corff llais y dinesydd. Gwelliant 55 yw'r unig welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Angela Burns i gynnig y gwelliant. Angela Burns.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Hoffwn gynnig gwelliant 55 yn ffurfiol ynghylch yswiriant indemniad.
Mae'n uchelgais llwyr, y mae'n briodol imi ei chefnogi, y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy'n cofrestru i gefnogi a rhedeg ac i fod yn rhan o gorff llais y dinesydd. Fodd bynnag, rhaid inni hefyd fod yn barod i'w hamddiffyn. Byddai bod yn rhan o achosion llys yn ddiangen yn cael effaith ddinistriol ar nifer y gwirfoddolwyr y gallem eu denu, ac mae'n cymryd llawer iawn o amser, ac nid ydym eisiau gweld unrhyw beth yn tynnu sylw corff llais y dinesydd oddi ar ei brif amcan. Sylwais yng Nghyfnod 2 fod gan gynghorau iechyd cymuned, ar hyn o bryd, indemniad ar gyfer eu haelodau, gyda'r cod ymddygiad yn datgan:
'Ni fydd yn rhaid i aelodau Cynghorau Iechyd Cymuned sydd wedi gweithredu’n onest ac yn ddidwyll ddiwallu o’u hadnoddau eu hunain unrhyw rwymedigaeth sifil sy’n codi wrth iddynt arfer swyddogaethau’r Cyngor, ac eithrio pan fyddant wedi ymddwyn yn fyrbwyll.'
Nawr, dywedodd prif weithredwr y Cyngor Iechyd Cymuned wrthyf ei bod yn hanfodol bod trefniadau adnabod priodol ar gyfer aelodau gwirfoddol sy'n gweithredu ar ran corff llais y dinesydd, ac os mai cyfrifoldeb y corff newydd fydd gwneud ei drefniadau ei hun i ddarparu gwasanaeth o'r fath drwy'r yswiriant indemniad hwnnw, yna byddai angen i'r corff dderbyn cyllid digonol i dalu cost yr yswiriant hwn. Ac rydym yn deall nad yw'n debygol y bydd angen indemniad o'r fath ar gyfer staff, gan y byddai'r corff fel arfer yn atebol am unrhyw beth a wneir gan staff wrth gyflawni eu dyletswydd.
Nawr, rwy'n credu bod hwn yn welliant gwirioneddol bwysig oherwydd, o fy mhrofiad personol i yn Hywel Dda, cefais sefyllfa lle'r oedd cyngor iechyd cymuned Hywel Dda yn cael ei erlyn gan y sefydliad a oedd wedi llunio ymgynghoriad ar—mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi anghofio pa un, ond bu nifer o newidiadau gwahanol ac ymgynghoriadau gwahanol i newid cyfeiriad a ffurfiant gwasanaethau ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Ond yr hyn a oedd gennym oedd y cyngor iechyd cymuned yn cynrychioli ei ddinasyddion ac yn dweud na chynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn yn deg; na hysbyswyd holl ranbarth Hywel Dda amdano mewn modd priodol deg a chytbwys, ac roeddent dan fygythiad o gael eu herlyn gan y sefydliad a roddodd yr ymgynghoriad at ei gilydd. A gallaf ddweud wrthych chi, roedd aelodau'r cynghorau iechyd cymuned yn dod i'm gweld, pobl onest dda, halen y ddaear, pobl oedd yn cymryd rhan, oherwydd rydym ni wastad yn dweud, 'Beth am gael gwirfoddolwyr i gymryd rhan', ac yna'n dweud 'O mam bach, beth sy'n mynd i ddigwydd? A ydw i'n mynd i golli popeth? Sut alla i fod yn atebol yn bersonol? Dydw i ddim yn deall; Rwy'n gwneud hyn ar ran y cyngor iechyd cymuned.' Dyma pam mae angen i ni sicrhau bod gennym ni yswiriant indemniad ar gyfer gwirfoddolwyr yn ogystal â staff.
Yng Nghyfnod 2, ymateb y Gweinidog oedd esbonio y bydd yn rhaid i fwrdd corff llais y dinesydd, o dan 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru', brynu polisi yswiriant indemniad, neu ddefnyddio ei adnoddau ei hun i indemnio gwirfoddolwyr. Ac yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 26 Chwefror, amlinellodd y Gweinidog mai gwaith prif weithredwr y corff newydd fyddai penderfynu a ddylid darparu indemniad drwy ysgwyddo'r risg, neu drwy brynu yswiriant masnachol, a dylid gwneud penderfyniad o'r fath ar ôl dadansoddiad cost a budd bob amser, er mwyn sicrhau gwerth am arian o dan reolau 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'.
Nawr, rwyf yn derbyn haeriad y Gweinidog y pennir y dulliau priodol ar gyfer darparu indemniad yn ystod y cyfnod gweithredu ar gyfer corff llais y dinesydd. Ond fel y dywedais yng Nghyfnod 2, er bod y cynghorau iechyd cymuned wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i unioni'r materion a wynebwyd ganddynt yn 2013, nid yw'n glir a fydd gan gorff llais y dinesydd weithdrefnau tebyg. Ac mae gennyf bryderon o hyd ynghylch y canlyniadau posibl pe na bai gweithdrefn indemniad yn cael ei phennu. A heb yr indemniad hwnnw ar gyfer corff llais y dinesydd, gallai hyn achosi nifer fawr o bobl i droi eu cefnau ar wirfoddoli ar gyfer sefydliad teilwng iawn, iawn. Mae angen inni fod yn ymwybodol y bydd amddiffyn rhag indemniad yn anochel yn effeithio ar gyllideb corff llais y dinesydd, ac felly mae angen i'r Gweinidog ein sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu digon o adnoddau er mwyn gallu prynu'r indemniad hwnnw ar gyfer gwirfoddolwyr a staff.
Dim ond mewn brawddeg, i ddweud y byddwn ni'n cefnogi'r gwelliant yma. Dwi'n meddwl ei bod hi'n allweddol, os ydym ni am dynnu pobl i mewn i roi eu hamser i weithio mewn meysydd fel hyn, er budd y cyhoedd, eu bod nhw'n cael y gefnogaeth i wneud hynny. Ac mae hi'n glir i ni ei bod hi'n bwysig y dylai staff a gwirfoddolwyr fel ei gilydd gael y cover cyfreithiol priodol ar gyfer ymwneud â'u gweithgareddau.
Mae'r gwelliant yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i gorff llais y dinesydd feddu ar yswiriant indemniad er budd staff a gwirfoddolwyr. Rwy'n cytuno mai corff llais y dinesydd ddylai benderfynu a chynllunio sut i drefnu ei yswiriant, fel y dylai unrhyw gorff cyhoeddus. Fodd bynnag, nid yw darpariaeth o'r math a awgrymir yn briodol, yn fy marn i, ac felly ni allaf ei chefnogi.
Dywedais yn ystod trafodion Cyfnod 2 y pwyllgor mai'r corff llais y dinesydd fydd yn penderfynu ar y ffordd orau o indemnio staff a gwirfoddolwyr. Ac fe gyfeiriais at ganllawiau 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru', sy'n glir nad yw sefydliadau'r sector cyhoeddus, fel rheol, yn prynu yswiriant masnachol, oni bai bod rhwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. Fodd bynnag, mae hefyd yn galluogi swyddogion cyfrifo, yn rhan o strategaeth rheoli risg, i ddewis prynu yswiriant masnachol mewn rhai amgylchiadau. Ac mae'n wir y bydd y corff llais y dinesydd, yn union fel yn achos cynghorau iechyd cymuned presennol, yn dibynnu ar wirfoddolwyr mewn ffordd wahanol iawn i gyrff cyhoeddus eraill. Dylai penderfyniadau o'r fath ar strategaeth rheoli risg gael eu gwneud ar ôl dadansoddiad cost a budd bob amser, er mwyn sicrhau gwerth am arian. Felly, prif weithredwr y corff newydd fydd yn penderfynu a ddylid darparu indemniad drwy ysgwyddo'r risg neu drwy brynu yswiriant masnachol. Ac rwyf wedi cyflwyno asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig sy'n nodi hynny. Rwyf wedi rhoi sicrwydd ysgrifenedig i'r pwyllgor y pennir y dull priodol o ddarparu indemniad yn ystod cam gweithredu corff llais y dinesydd, gan gynnwys cynnal dadansoddiad cost a budd. Felly, ni fyddai ei gwneud yn ofynnol mewn rheoliadau i'r corff sicrhau yswiriant indemniad yn briodol, ac ni fyddai'n adlewyrchu egwyddorion 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.'
Angela Burns i ymateb.
Mae'r ffaith eich bod yn gwrthod y gwelliant hwn, Gweinidog yn broblem fawr imi. Yr hyn yr ydym yn ei ofyn yw, rydym yn gofyn i wirfoddolwyr, pobl sydd â rhywfaint o brofiad o ymdrin â sefydliadau mawr, ddod i wirfoddoli ar gyfer corff llais y dinesydd, a siarad ar ran y dinasyddion y maen nhw'n eu cynrychioli. Yn y bôn, ffordd arall o ddweud hyn yw eu bod yn dweud y gwirionedd wrth y rhai mewn grym. Mae angen eu diogelu. Ac rwy'n gofyn mewn gwirionedd, Gweinidog, ichi newid eich meddwl. Mae dweud y gwirionedd wrth y rhai mewn grym yn eich rhoi mewn sefyllfa beryglus. Rydym yn gofyn iddyn nhw ddweud y gwirionedd wrth y rhai mewn grym. Dydyn nhw ddim mor fawr, dydyn nhw ddim mor gadarn, dydyn nhw ddim o reidrwydd mor brofiadol â'r bobl y maen nhw'n siarad â nhw. Mae dweud y gwirionedd wrth y rhai mewn grym yn rhywbeth y dylem ei ddiogelu ar bob cost. Pleidleisiwch dros y gwelliant hwn os gwelwch yn dda.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 55? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Agor y bleidlais, felly, ar welliant 55. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 55 wedi ei wrthod.
Fe gymrwn ni doriad nawr, o tua 20 munud, ac fe fyddaf i'n canu'r gloch bum munud cyn i ni ailgychwyn.