Part of the debate – Senedd Cymru am 7:56 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch, Llywydd. Yn anffodus, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant yn enw Angela Burns. Rwyf wedi bod yn glir ynglŷn â'r pwys a roddaf ar sefydlu corff llais y dinesydd sy'n cynrychioli buddiannau pobl ar draws y maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Un o amcanion sylfaenol y Bil yw sefydlu corff cenedlaethol newydd i gynrychioli llais y dinesydd, gyda statws a dylanwad newydd, ac mae honno'n egwyddor yr ydym yn gwbl ymrwymedig iddi. Ac er mwyn ei gyflawni, bydd angen i ni, wrth gwrs, ddarparu adnoddau mewn modd digonol. Mae geiriad y Bil:
'Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i Gorff Llais y Dinesydd', yr un geiriad a gafodd ei ddefnyddio pan gafodd cyrff eraill a noddwyd gan Lywodraeth Cymru eu sefydlu, a rhoddais enghreifftiau yng Nghyfnod 2. Ac fel yr eglurais yn nhrafodion Cyfnod 2, rydym ni wedi nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol y buddsoddiad ychwanegol i'w wneud yn y corff newydd ar y cychwyn. Mae'r rhain yn dangos bod yr arian y pen yr ydym ni'n bwriadu ei wario ar y corff bron deirgwaith y swm y mae Ysgrifennydd Gwladol y DU yn ei wario ar Healthwatch yn Lloegr. Hefyd, mae'n werth nodi, ac adroddais yn y pwyllgor yng Nghyfnod 2, ein bod eisoes yn gwario mwy ar ein cynghorau iechyd cymuned presennol nac a wneir ar gyrff cyfatebol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ar sail y pen, bydd y cynnydd yn y corff newydd yn cyrraedd £1.32 y pen o'r boblogaeth. Mae hynny'n cymharu â chyrff cyfatebol yn Lloegr sy'n gwario 54c y pen, 48c y pen yn yr Alban ac 84c y pen yng Ngogledd Iwerddon. Mae hwn yn gorff sy'n cael ei ariannu'n dda o'i gymharu â'i gymheiriaid ledled y Deyrnas Unedig.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wneud taliadau i'r corff llais y dinesydd i'w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau. O ganlyniad, mae mwy na digon o dystiolaeth, mi gredaf, i ddangos y byddwn yn rhoi i'r corff y cyllid y mae arno ei angen i gyflawni ei swyddogaethau. Bydd y corff yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae Gweinidogion Cymru yn darparu cyllid i'r corff hwnnw sy'n ddigonol iddo wneud ei waith a chyflawni ei swyddogaethau. Bydd pennu faint yw arian digonol yn seiliedig ar drafodaeth rhwng y corff a Gweinidogion Cymru, fel y gwnawn gyda phob corff a noddir gan y Llywodraeth. Bydd modd wrth gwrs i'r corff gyflwyno ei achos i Weinidogion Cymru os yw o'r farn bod angen arian ychwanegol arno i gyflawni ei swyddogaethau'n briodol. Nawr, rwy'n credu ein bod wedi cyflwyno achos sy'n trin y corff hwn fel y trinnir y cyrff eraill a noddir gan y Llywodraeth, yn y ffordd y maen nhw'n cyflawni eu swyddogaethau, a gofynnaf felly i Aelodau beidio â chefnogi'r gwelliant yn y grŵp hwn.