Grŵp 11: Corff Llais y Dinesydd — adnoddau (Gwelliannau 57, 58)

– Senedd Cymru am 7:49 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:49, 10 Mawrth 2020

Felly, rydym ni'n ailgychwyn. Grŵp 11 yw'r grŵp sy'n cael ei drafod nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud ag adnoddau ar gyfer corff llais y dinesydd. Gwelliant 57 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Angela Burns i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliannau. Angela Burns.

Cynigiwyd gwelliant 57 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 7:50, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Cynigiaf welliannau 57 a 58 yn ffurfiol, a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae hyn yn ymwneud â'r ddyletswydd i sicrhau adnoddau digonol, ac mae'r gwelliannau'n gofyn i Weinidogion Cymru sicrhau y darperir yr adnoddau digonol hynny ar gyfer y corff llais y dinesydd.

Mae'r gwelliannau hyn wedi'u dwyn ymlaen o Gyfnod 2, gan fod y Gweinidog wedi dweud eu bod yn neilltuo adnoddau sylweddol ar gyfer y corff llais y dinesydd, mae hyn er mwyn sicrhau nad yw ei swyddogaethau a'i bwysigrwydd i ddinasyddion Cymru yn cael eu colli na'u rhoi o'r neilltu yn y dyfodol, ac mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn dangos dim ond £600,000 ychwanegol yn y costau cynnal o'i gymharu â'r cynghorau iechyd cymuned.

Rwy'n derbyn pwynt y Gweinidog bod yn rhaid gwneud penderfyniadau ariannol yn ofalus, ac rwyf hefyd yn credu mai Llywodraeth Cymru sydd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb pan fyddant yn gwneud y penderfyniadau hyn ym mhob blwyddyn ariannol, ond nid yw hyn yn ymwneud â dewis cyllidebol yn unig; mae anghenion penodol, gan gynnwys indemniad, ymgysylltiad cyhoeddus, addysg a hyfforddiant. Mae'r rhain yn anghenion clir y mae'n rhaid eu diwallu os yw'r corff llais y dinesydd yn mynd i barhau i gael ei redeg yn dda. Mae'n hanfodol bwysig y gall y corff llais y dinesydd gyflawni rhai swyddogaethau er mwyn gallu craffu'n effeithiol ar y GIG yng Nghymru, a heb ddynodydd clir i barhau â'r dewis hwn, nid oes gennym sicrwydd ni y bydd hyn yn digwydd ymhell i'r dyfodol.

Roedd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn glir ynghylch hyn yng Nghyfnod 1, gan ddweud ei fod wedi rhannu pryderon tystion am faint o adnoddau a ddyrannwyd i'r corff llais y dinesydd, gyda chostau'n gysylltiedig â'i sefydlu, gwaith ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a rhoi strwythurau rhanbarthol ar waith. Yn bwysicaf oll, dywedodd y pwyllgor: 

'Teimlwn fod cryn bwysau ar y Corff newydd, yn enwedig ac ystyried ei rôl estynedig i gynrychioli buddiannau’r cyhoedd ar drwy’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Nid ydym yn credu bod yr adnoddau sydd i’w dyrannu yn ddigonol i’w alluogi i gyflawni’r disgwyliadau hyn.'

Fel y dywedais, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amlinellu rhai o'r costau hyn. Rhaid aros i weld serch hynny a yw'r rhain yn ddigonol, ac rwyf eisiau atgoffa'r aelodau o'r gwerth y mae rhanddeiliaid yn ei roi ar sicrhau fod yr adnoddau priodol gan y corff a pham ei bod hi mor bwysig cofnodi'r ymrwymiad hwnnw.

Dywedodd Gofal Cymdeithasol Cymru bod hyrwyddo'r corff newydd a sicrhau bod y cyhoedd yn deall ei swyddogaeth yn flaenoriaeth allweddol. Fe ddywedon nhw ei bod hi'n hanfodol bod gwirfoddolwyr yn y corff yn cael digon o hyfforddiant a chymorth o'r cychwyn, yn ogystal â chymorth parhaus. Yn eu tystiolaeth, fe ddywedon nhw eu bod yn cydnabod bod deall y goblygiadau o ran adnoddau i gorff llais y dinesydd sy'n wirioneddol ymgysylltu â phobl yn un sy'n bwysig i'w wneud, ac aeth eu cynrychiolydd ymlaen i ddweud eu bod yn amau, os cyflawnir yr uchelgeisiau hyn, y bydd y corff mewn gwirionedd yn gweld cynnydd mewn gweithgarwch, a gobeithio y bydd angen mwy o arian ar gyfer hynny, wrth gwrs.

Dywedodd y comisiynydd pobl hŷn yn glir iawn, gan fod y sector gofal cymdeithasol yn eang dros ben, ei bod yn teimlo ei bod hi'n hanfodol bod gan y corff llais y dinesydd ddigon o adnoddau i ddatblygu ei swyddogaethau a gweithredu'n ddidrafferth ar draws y ddau sector a'i bod hi'n bwysig bod ei swyddogaeth wedi'i disgrifio a'i chyfleu yn eglur i'r cyhoedd.

Dywedodd Cyngor Cymuned Gelligaer y dylai'r corff newydd gael digon o adnoddau fel y gall gynnal presenoldeb mewn cymunedau ac fel y gall yr eiriolwyr cwynion glywed gan bobl na allant adael eu lleoliad gofal.

Ac mae hynny'n sylw pwysig iawn.

Dywedodd Coleg Brenhinol y Ffisigwyr:

dylai'r corff newydd hwn dderbyn yr addysg, yr hyfforddiant a'r buddsoddiad sydd eu hangen arno i sicrhau ei fod yn darparu cyngor a chefnogaeth i gleifion, eu ffrindiau a'u teulu, a'r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch y gofal y maent yn ei dderbyn.

Rydym i gyd yn dweud ein bod eisiau cefnogi'r corff llais y dinesydd newydd hwn fel y gall gynrychioli llais dinasyddion Cymru yn briodol. Er mwyn gwneud hynny, er mwyn ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw, yr ymgysylltu cyhoeddus hwnnw, a darparu'r addysg honno a'r indemniad hwnnw i wirfoddolwyr, mae angen iddo gael adnoddau ariannol digonol. Diben y gwelliannau hyn, 57 a 58, yw sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn darparu'r adnoddau digonol hynny.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 7:54, 10 Mawrth 2020

Fel dwi wedi'i nodi'n barod, mae gennym ni ein pryderon ynglŷn â natur corff llais y dinesydd y mae'r Llywodraeth yn argymell ei sefydlu. Ond os ydy o i gael ei sefydlu, mae eisiau gwneud yn siŵr bod ganddo fo y gallu i weithredu mewn ffordd sydd â grym y tu cefn iddo fo. Ac, wrth gwrs, mae cael y lefel briodol o adnoddau yn allweddol yn hynny o beth.

Unwaith eto, dwi'n meddwl fy mod i'n disgwyl i'r Llywodraeth ddadlau nad oes angen yr hyn mae'r gwelliannau yma'n galw amdano fo, oherwydd nad oes gan y Gweinidog unrhyw fwriad o beidio â rhoi'r adnoddau sydd eu hangen ar y corff newydd. Ond, wrth gwrs, nid dim ond ymwneud â Llywodraeth heddiw mae'r ddeddfwriaeth yma sydd o'n blaenau ni, ond mae'r ddeddfwriaeth yma yn mynd i fod yn ymrwymo Llywodraethau'r dyfodol, ac mae angen sicrwydd ar gyfer y dyfodol. Does gennym ni ddim sicrwydd ynglŷn â beth fydd Gweinidogion iechyd y dyfodol yn ei wneud, ac, wrth gwrs, mi fydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol iawn fod cyrff sydd yn feirniadol o Lywodraeth yn rai sydd wastad yn cario'r risg o golli eu cyllid. Felly, mae angen y sicrwydd sy'n cael ei gynnig gan y gwelliannau yma.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:56, 10 Mawrth 2020

Y Gweinidog i gyfrannu i'r ddadl—Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Yn anffodus, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant yn enw Angela Burns. Rwyf wedi bod yn glir ynglŷn â'r pwys a roddaf ar sefydlu corff llais y dinesydd sy'n cynrychioli buddiannau pobl ar draws y maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Un o amcanion sylfaenol y Bil yw sefydlu corff cenedlaethol newydd i gynrychioli llais y dinesydd, gyda statws a dylanwad newydd, ac mae honno'n egwyddor yr ydym yn gwbl ymrwymedig iddi. Ac er mwyn ei gyflawni, bydd angen i ni, wrth gwrs, ddarparu adnoddau mewn modd digonol. Mae geiriad y Bil:

'Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i Gorff Llais y Dinesydd', yr un geiriad a gafodd ei ddefnyddio pan gafodd cyrff eraill a noddwyd gan Lywodraeth Cymru eu sefydlu, a rhoddais enghreifftiau yng Nghyfnod 2. Ac fel yr eglurais yn nhrafodion Cyfnod 2, rydym ni wedi nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol y buddsoddiad ychwanegol i'w wneud yn y corff newydd ar y cychwyn. Mae'r rhain yn dangos bod yr arian y pen yr ydym ni'n bwriadu ei wario ar y corff bron deirgwaith y swm y mae Ysgrifennydd Gwladol y DU yn ei wario ar Healthwatch yn Lloegr. Hefyd, mae'n werth nodi, ac adroddais yn y pwyllgor yng Nghyfnod 2, ein bod eisoes yn gwario mwy ar ein cynghorau iechyd cymuned presennol nac a wneir ar gyrff cyfatebol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ar sail y pen, bydd y cynnydd yn y corff newydd yn cyrraedd £1.32 y pen o'r boblogaeth. Mae hynny'n cymharu â chyrff cyfatebol yn Lloegr sy'n gwario 54c y pen, 48c y pen yn yr Alban ac 84c y pen yng Ngogledd Iwerddon. Mae hwn yn gorff sy'n cael ei ariannu'n dda o'i gymharu â'i gymheiriaid ledled y Deyrnas Unedig.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wneud taliadau i'r corff llais y dinesydd i'w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau. O ganlyniad, mae mwy na digon o dystiolaeth, mi gredaf, i ddangos y byddwn yn rhoi i'r corff y cyllid y mae arno ei angen i gyflawni ei swyddogaethau. Bydd y corff yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae Gweinidogion Cymru yn darparu cyllid i'r corff hwnnw sy'n ddigonol iddo wneud ei waith a chyflawni ei swyddogaethau. Bydd pennu faint yw arian digonol yn seiliedig ar drafodaeth rhwng y corff a Gweinidogion Cymru, fel y gwnawn gyda phob corff a noddir gan y Llywodraeth. Bydd modd wrth gwrs i'r corff gyflwyno ei achos i Weinidogion Cymru os yw o'r farn bod angen arian ychwanegol arno i gyflawni ei swyddogaethau'n briodol. Nawr, rwy'n credu ein bod wedi cyflwyno achos sy'n trin y corff hwn fel y trinnir y cyrff eraill a noddir gan y Llywodraeth, yn y ffordd y maen nhw'n cyflawni eu swyddogaethau, a gofynnaf felly i Aelodau beidio â chefnogi'r gwelliant yn y grŵp hwn.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

O diar, o diar, Llywydd, ni wnaeth imi heb a dweud mwy, rwy'n credu. Gwnaeth Rhun ap Iorwerth bwynt da iawn am y ffaith mai'r mathau hyn o gyrff yn aml yw'r rhai cyntaf i golli eu cyllid pan fydd pethau'n gwasgu, ac, yn y bôn, rheswm y Gweinidog dros beidio â dymuno sicrhau hynny—. Na, dywedodd Rhun ap Iorwerth hynny. Prif achos y Gweinidog dros beidio â gwneud yn siŵr bod digon o gyllid ar gael yw'r ffaith bod ganddynt ddigonedd eisoes, mae ganddynt lawer mwy na Lloegr, mae ganddynt lawer mwy na'r Alban, llawer mwy na Gogledd Iwerddon. Does dim ots gennyf i. Rwyf eisiau corff llais y dinesydd sy'n gwneud y gwaith o ddiogelu dinasyddion Cymru a bod yn llais i ddinasyddion Cymru. Mae'n rhaid i'r arian sydd ganddynt ar hyn o bryd gynnwys creu corff newydd sbon i sicrhau y caiff ei reoli'n dda ar draws y dirwedd eang iawn sydd gennym ni yng Nghymru. [Torri ar draws.] Ie wrth gwrs.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 7:59, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. A ydych chi hefyd yn cytuno â mi, wrth gwrs, y gofynnir i'r corff hwn ystyried gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd yn ogystal ag iechyd, ac os yw'n mynd i allu gwneud hynny'n ddigonol, yna, yn sicr, mae faint o adnoddau y bydd arno ei angen yn llawer mwy na'r hyn y mae'r cynghorau iechyd cymuned yn ei ddefnyddio a'i angen ar hyn o bryd?

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 8:00, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Pwynt ardderchog, Helen Mary, ac wedi ei fynegi'n dda. Mae angen i ni sicrhau y gall y corff hwn wneud yr hyn y mae i fod i'w wneud. Nid ydym ni eisiau iddo gael ei lesteirio gan ddiffyg cyllid. Nid ydym ni eisiau iddo, yn y blynyddoedd i ddod, ddioddef marwolaeth araf yn sgil mil o doriadau. Mae e yma i gynrychioli'r dinesydd. Dyma eu hunig gwir lais sy'n perthyn iddyn nhw. Mae angen i chi ei ariannu, Gweinidog, ac mae angen i chi sicrhau bod hynny wedi ei ymgorffori yn y gyfraith fel nad yw'r unigolyn nesaf a ddaw ar eich ôl, nad yw mor hael ei galon, o bosibl, yn cymryd ei gyllid ac yn ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth arall.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 57? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n bleidlais ar welliant 57. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 57.

Gwelliant 57: O blaid: 21, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 2102 Gwelliant 57

Ie: 21 ASau

Na: 27 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Cynigiwyd gwelliant 58 (Angela Burns, gyda chefnogaeth Caroline Jones).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 58? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais ar welliant 58. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 58.

Gwelliant 58: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 2103 Gwelliant 58

Ie: 20 ASau

Na: 27 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 13 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw