Part of the debate – Senedd Cymru am 7:59 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. A ydych chi hefyd yn cytuno â mi, wrth gwrs, y gofynnir i'r corff hwn ystyried gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd yn ogystal ag iechyd, ac os yw'n mynd i allu gwneud hynny'n ddigonol, yna, yn sicr, mae faint o adnoddau y bydd arno ei angen yn llawer mwy na'r hyn y mae'r cynghorau iechyd cymuned yn ei ddefnyddio a'i angen ar hyn o bryd?