Part of the debate – Senedd Cymru am 8:08 pm ar 10 Mawrth 2020.
Mae yna bump o welliannau yn y grŵp yma. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r tri sydd wedi cael eu disgrifio gan y Ceidwadwyr.
Mae 59 yn welliant gan y Llywodraeth, sydd yn gam ymlaen o beth oedd gennym ni ynghynt—yn sôn am yr angen i lais y dinesydd gynrychioli pawb ymhob rhan o Gymru. Ond, ydych chi'n gwybod beth? Geiriau ydy'r rheini, a beth rydyn ni wedi trio ei wneud drwy lunio gwelliannau ar gyfer Cyfnod 3 yn fan hyn oedd trio rhoi rhyw fath o gnawd ar yr esgyrn hynny, er mwyn perswadio pobl ein bod ni go iawn yn ceisio creu corff newydd a fydd yn teimlo yn agos atyn nhw, achos mae hynny yn bwysig iddyn nhw. Achos nid dim ond llais y cleifion ydy'r cynghorau iechyd cymunedol ar hyn o bryd, ond maen nhw hefyd yn llais i'r cymunedau y mae'r cleifion hynny yn byw ynddyn nhw. Ac mae perthynas uniongyrchol, dwi'n meddwl, rhwng llais y claf neu lais y gymuned a'r cymunedau hynny y maen nhw'n eiriolwyr drostyn nhw yn rhywbeth sy'n wirioneddol bwysig iawn i fi. Ac mae ofn colli hynny yn un arall o'r rhesymau, un o'r prif resymau, pam na allwn ni gefnogi'r Bil yma fel y mae o, oherwydd mae'n cymryd corff lleol cryf efo presenoldeb lleol cryf, dwi'n meddwl, ac yn bwriadu dileu hwnnw a rhoi yn ei le fo gorff sydd â strwythur nad ydym ni ddim yn gwybod beth fydd hwnnw a phresenoldeb ar lefel leol neu ranbarthol nad oes gennym ni ddim syniad sut byddai fo yn edrych.
A gadewch i mi ddweud wrthych chi sut mae'r Bil yma yn edrych o'r gogledd, er enghraifft. O'r gogledd, mae'n edrych fel bod yna Fil yn y fan hyn sydd yn ceisio cael gwared ar gyngor iechyd cymuned effeithiol iawn yn y gogledd oherwydd ei fod e wedi bod yn effeithiol iawn yn ei sgrwtini o record y Llywodraeth yn rhedeg Betsi Cadwaladr. Dyna sut mae'n edrych o'r gogledd. Does yna ddim amheuaeth am hynny. Dwi wedi cyfeirio unwaith yn barod at y gwaith rhagorol mae'r cyngor iechyd cymuned yn y gogledd wedi bod yn ei wneud dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yn ymgysylltu â'r cyhoedd ar draws y gogledd orllewin ynglŷn â'r newidiadau trychinebus, fel dwi'n eu gweld nhw, i drefniadau fasgwlar, a dwi wedi eu llongyfarch nhw ar y gwaith maen nhw yn ei wneud.
Ac oes yna unrhyw un wirioneddol yn gweld y byddai corff llais y dinesydd cenedlaethol, canolog, ei naws a'i natur yn gallu darparu yr un math o sgrwtini lleol? Dydw i ddim yn teimlo y byddai'r sgrwtini hwnnw yno. Mi fyddai rhai pobl yn dweud, 'Mi fyddai'r sylw i gyd ar y de'. Wel, dwi ddim yn un sy'n licio rhannu de a gogledd. Eisiau un wlad unedig ydw i, ac mi wnaf y gwahoddiad fan hyn: os ydych chi'n cael eich ffordd fel Llywodraeth, dewch â'r corff llais y dinesydd a sefydlwch o â'i bencadlys yn y gogledd. Mi fyddai hynny yn dda o beth ac, o bosib, yn ateb yr hyn dwi wedi ei beintio fel senario funud yn ôl. Ond, wrth gwrs, dydy hynny ddim yn ateb y broblem wedyn mewn rhannau eraill o Gymru fyddai'n edrych arno fo fel llais sydd â gormod o sylw ar y gogledd. Ond dyna fo, dwi wedi gwneud y gwahoddiad hwnnw rŵan.
Felly, beth mae'n gwelliant ni a'r Ceidwadwyr yn ei wneud ydy trio lliniaru hyn, trio ymateb i'r canfyddiad yna sydd yna o beth sy'n digwydd yn fan hyn drwy dynnu'r llais lleol i ffwrdd a beth rydym ni wedi ei wneud ydy trio diffinio—. Rydym ni wedi bod mewn trafodaethau, wrth gwrs, efo'r Llywodraeth yn trio eu perswadio nhw i gynnig diffiniad o sut allwn ni weithio yn rhanbarthol—wedi methu, ac felly wedi cynnig hwn. A dwi'n gwybod bydd y Llywodraeth yn gwrthod ein gwelliant ni, yn dadlau, dwi'n siŵr, ei bod hi'n anodd iawn yn gyfreithiol i ddiffinio beth ydy 'rhanbarthol'. Ond, wrth gwrs, mae yna lawer o gyrff sydd yn gweithio ar lefelau rhanbarthol, ac, i ymateb i'r pwynt wnaethpwyd gan y Ceidwadwyr yn gynharach, dydyn ni ddim yn bod yn prescriptive ynglŷn â pha ranbarth i'w ddilyn yn fan hyn, ond mae gennym ni lot o gyrff rhanbarthol—y gwasanaeth tân i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ac yn y blaen—a'r cwbl fyddai'r Llywodraeth angen ei wneud yn ei datganiad polisi fyddai egluro beth fyddai'r footprint rhanbarthol hwnnw.
Mi allai fo hyd yn oed newid dros amser, ac yn sicr y bwriad hefo'r gwelliant yma ydy rhoi'r hyblygrwydd yna i'r Llywodraeth gynnig y cyswllt lleol cryf yna tra yn parhau, o hyn ymlaen, i chwilio am y model gorau i ddarparu hynny. Rydym ni wedi trio'n gorau i gyfarfod y Llywodraeth hanner ffordd, ond dydyn ni ddim yn disgwyl i'r Llywodraeth deithio ar y ffordd honno tuag atom ni, felly gwrthod y Bil fyddwn ni o ganlyniad, dwi'n meddwl.