Part of the debate – Senedd Cymru am 8:24 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Rydych chi wedi cyfeirio unwaith neu ddwy nawr at Bowys. Siaradwch yn uniongyrchol â'm hetholwyr i a phobl y gogledd—ac eglurais sut yr wyf i'n credu bod hyn yn cael ei weld ganddyn nhw—sut yr ydych chi'n egluro wrthyn nhw y bydd y corff llais y dinesydd yr ydych chi'n ei gynnig yn fwy annibynnol, y bydd yn eich dwyn chi yn gadarnach i gyfrif, na'r cyngor iechyd cymuned a'r gwaith rhagorol y mae wedi bod yn ei wneud yn y gogledd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf?