Grŵp 15: Cwynion ar y cyd (Gwelliannau 43, 47)

Part of the debate – Senedd Cymru am 8:57 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 8:57, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gen i orfod siomi Angela Burns unwaith eto, ond fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, cyflwynwyd gwelliannau yn union yr un fath ar gwynion ar y cyd yng Nghyfnod 2, fel y mae Angela Burns wedi ei nodi. Nid wyf i'n credu o hyd y byddai'r Bil yn gyfrwng addas i gyflwyno'r newidiadau hyn. Mae ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ac ystyriaeth ddilynol wedi dangos bod angen ymgysylltu ymhellach yn y maes gydag amrywiaeth o randdeiliaid i helpu i ddatblygu'r polisi yn y maes.

O ran yr hyn y mae'r gwelliant arfaethedig yn ei wneud, fy mhryder i yw y gallai fod yn rhy gyfyngol. Er enghraifft, mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol gynnal ymchwiliad ar y cyd i bryderon a godir o dan weithdrefn gwynion y GIG ac o dan reoliadau gweithdrefn gwynion y gwasanaethau cymdeithasol. Nid yw hynny'n cynnwys y nifer fawr o gwynion am wasanaethau cymdeithasol sy'n cael eu gwneud gan blant o dan Reoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014, ac nid yw'n cymryd i ystyriaeth ychwaith cwynion a wneir yn uniongyrchol i ddarparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol a reoleiddir, fel cartrefi gofal a darparwyr gofal cartref. Mae'r llwybr hwn yn arbennig o berthnasol i'r rhai nad yw eu gofal a'u cymorth yn cael eu rheoli neu eu trefnu gan awdurdod lleol.

Roedd y Pwyllgor ei hun yn cydnabod nad yw ystyried y dull gorau ar gyfer cwynion ar y cyd, yn ddarn syml o waith,   ac anogodd y Llywodraeth i barhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddod o hyd i ffyrdd o symleiddio'r broses. Fel y dywedodd Angela Burns, rwyf i wedi ymrwymo i gynnull trafodaeth bwrdd crwn gyda'r amrywiaeth eang honno o randdeiliaid i ystyried sut y gallai'r broses fod yn berthnasol i gwynion am y GIG, cwynion am awdurdodau lleol yn ogystal â chwynion yn erbyn darparwyr gofal cymdeithasol a reoleiddir.

Ceir nifer o randdeiliaid allweddol y mae angen eu cynnwys yn y gwaith o gyflawni'r uchelgais hwn a gwaith i'w wneud i sicrhau ein bod ni'n darparu trefniadau cwynion ar y cyd effeithiol. Mae swyddogion eisoes yn gweithio i drefnu'r drafodaeth bwrdd crwn honno cyn toriad yr haf. Ond rwy'n credu y byddai'r cyfnod amser o chwe mis y mae Angela Burns yn cyfeirio ato yn y gwelliant yn amserlen rhy optimistaidd i allu cwblhau hyn i gyd mewn da bryd, hyd yn oed pe byddem ni mewn cyfnod arferol, ac, wrth gwrs, dydyn ni ddim, o ran yr heriau penodol yr ydym ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i'w hwynebu.

Ond rydym ni'n mabwysiadu'r dull hwn yn y maes hwn o gwynion ar y cyd er mwyn dod a nifer o wahanol linynnau yr ydym ni'n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw fod yn yr un lle ar yr un pryd ynghyd. Fel yr amlinellais yn ystod Cyfnod 2, mae'r ffaith y bydd gan y corff y gallu i gynorthwyo rhywun sy'n gwneud cwyn am iechyd a gofal cymdeithasol yn dangos ein hymrwymiad i wneud pethau'n haws i bobl sydd â chwynion sy'n cwmpasu'r ddau faes hyn.

I ailadrodd, ein dull o hyd yw parhau i weithio gyda sefydliadau GIG Cymru, llywodraeth leol a chyrff eraill i drafod ffyrdd o wneud y broses yn symlach i bobl sydd â'r cwynion hynny ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau yn cydnabod penderfyniad diffuant ac eglur y Llywodraeth i gyrraedd y nod hwnnw yn rhan o system iechyd a gofal cymdeithasol fwy integredig sy'n canolbwyntio’n wirioneddol ar bobl, ac sy'n cael ei datblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol. Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru ein rheoliadau gwneud pethau'n iawn a'r canllawiau cysylltiedig i sicrhau eu bod nhw'n gweithredu'n briodol y newidiadau yr ydym ni'n eu gwneud drwy'r Bil hwn i gyflwyno dyletswydd o ddidwylledd.

Rwyf i wedi gwrando ar y pwyntiau y mae Angela Burns wedi eu codi ac er fy mod i'n credu ein bod ni'n cytuno ar y canlyniad yn y pen draw, mae gen i ofn na allaf i gefnogi'r gwelliant y mae hi'n ei gynnig heddiw.