– Senedd Cymru am 8:51 pm ar 10 Mawrth 2020.
Grŵp 15 yw'r grŵp nesaf o welliannau ac mae'r rhain yn ymwneud â chwynion ar y cyd. Gwelliant 43 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Angela Burns i gynnig y gwelliant.
Diolch, Llywydd. Hoffwn gynnig gwelliannau 43 a 47 yn ffurfiol, a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae gwelliant 43, Gweinidog, yn welliant treiddgar ac mae'n ymwneud â'i gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol gydweithio pan fydd cwyn yn cael ei gwneud, sy'n berthnasol i'r ddau ohonyn nhw, ac mae gwelliant 47 yn ganlyniadol i welliant 43.
Nawr, mae'r gwelliannau hyn yn seiliedig ar dystiolaeth a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r pwyllgor yn ystod Cyfnod 1 a thrafodaethau pellach a gawsom ni yng Nghyfnodau 2 a 3. Mewn tystiolaeth ysgrifenedig, nododd yr ombwdsmon ei siom na wnaeth Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'i chynigion ar ymchwiliadau ar y cyd a chysoni gweithdrefnau cwynion gwasanaethau cymdeithasol y GIG yn ei Phapur Gwyn. A gwn fod hyn wedi codi pryderon ymhlith nifer o Aelodau, oherwydd yn amlach, nawr, mae pobl yn cael cymorth gan y GIG a chan wasanaethau cymdeithasol. Ac os oes problem, weithiau mae'n anodd iawn dweud a yw'r broblem yn ymwneud â'r rhan iechyd neu'r rhan gwasanaethau cymdeithasol, neu gallai fod yn broblem sy'n gysylltiedig â'r ddau. Mae gofyn i'r dinesydd wedyn ddechrau dwy broses gwyno ar wahân neu fynegi ei bryderon trwy ddwy broses ar wahân ar gyfer yr un mater yn ofyn mawr, a holl ddiben hyn yw gwneud bywyd y dinesydd yn fwy uniongyrchol, yn haws ei reoli ac yn llai gwrthdrawiadol. Dyna pam yr wyf i wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn, gan mai'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw system ar y cyd dim ond yn yr achosion pan fo'r cwynion sy'n cael eu gwneud yn ymwneud â rhywbeth sy'n effeithio ar y GIG a gwasanaethau cymdeithasol.
Nawr, fe wnes i wrando'n astud iawn ar y Gweinidog, a dyna pam mae hwn yn welliant treiddgar, gan eich bod chi wedi dweud eich bod chi eisiau cael proses gwynion unedig. Ac rwyf i hefyd wedi eich clywed chi'n dweud y bydd yn cymryd amser i'w rhoi ar waith, ond mae'n gymhleth iawn mewn gwirionedd gan fod y ffordd y caiff cwyn yn y GIG ei phrosesu yn wahanol iawn i'r ffordd y caiff cwyn am wasanaethau cymdeithasol ei phrosesu ac, yn aml iawn, bydd y gŵyn am y GIG, gan ei bod yn tueddu i fod yn llawer mwy clinigol, yn aml yn cymryd llawer mwy o amser gan fod llawer mwy o bobl y mae'n rhaid eu cynnwys ac y mae'n rhaid i chi wrando ar y meddygon ymgynghorol a phawb sy'n ymwneud ag ef. Tra, yn aml iawn, gallai achos gwasanaethau cymdeithasol fod yn llawer mwy uniongyrchol a haws ymdrin ag ef, a gall cyfuno'r ddau wahanol fath o broses gwynion fod yn anodd iawn. Felly, rwy'n deall hynny ac rwy'n cytuno â chi. Ond yr hyn yr wyf i'n pryderu yn ei gylch yw pa mor hir y gallai ei gymryd.
Clywsom eisoes yn y gwelliant blaenorol ein bod ni saith mlynedd yn ddiweddarach ac nid yw pethau a oedd yn hanfodol ac a addawyd wedi digwydd byth. Pan drafodwyd hyn gennym ni, fe wnaethom ni siarad am welliant rhagweledol, a diben gwelliant rhagweledol yw cael, o fewn y Bil hwn, y gallu i Weinidog Cymru ddweud, 'Ar adeg yn y dyfodol, wyddoch chi beth, iechyd a gofal cymdeithasol, rwyf i wedi rhoi'r holl amser yma i chi gael trefn ar bethau, i drefnu eich prosesau cwynion, i helpu'r dinesydd'—a holl ddiben hyn yw helpu'r dinesydd—'rydych chi'n dal i fod heb ei wneud, felly nawr rwy'n mynd i ddeddfu'r rhan hon o'r Bil a fydd yn eich gorfodi i fwrw ymlaen a'i wneud.' Dyma ddiben gwelliannau 43 a 47.
Rwy'n poeni y cefnwyd ar ein trafodaethau ynghylch gwelliant rhagweledol. Rwy'n derbyn nad ydych chi wedi cefnu ar yr uchelgais i gael proses gwynion fwy unedig. Rwy'n croesawu eich addewid y bydd swyddogion yn ceisio trefnu trafodaeth bwrdd crwn cyn toriad yr haf, gyda'r adrannau perthnasol. Rwy'n credu bod perygl o hyd y bydd hyn yn cael ei fwrw o'r neilltu eto, heb ymrwymiad statudol.
Dyna pam yr wyf i wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn. Byddai gen i ddiddordeb mewn clywed, Gweinidog, beth sydd gennych chi i'w ddweud. Mae'r gwelliannau hyn yn caniatáu i chi ddod â'r holl randdeiliaid y mae angen ymgynghori â nhw ynghyd. Maen nhw'n caniatáu i chi sbarduno proses gwynion ar y cyd yn y dyfodol yn ei blaen drwy fframwaith rheoleiddio. Mewn ymgynghoriad ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, rydym ni'n credu y gellir dod i gytundeb o fewn chwe mis ar ôl i'r adran hon ddod i rym, ac rwyf yn annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.
Mi allaf gadarnhau y byddaf i a'r grŵp yn cefnogi'r gwelliannau yma. Y rheswm am hynny ydy dwi'n meddwl bod yna fodd yn fan hyn i annog gwell gweithio ar y cyd, a hynny yn enwedig lle mae cwynion yn ymwneud â'r gofod yna lle mae'r rhyngweithio'n digwydd go iawn rhwng y gofal cymdeithasol a gofal iechyd.
Y Gweinidog i ymateb.
Mae'n ddrwg gen i orfod siomi Angela Burns unwaith eto, ond fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, cyflwynwyd gwelliannau yn union yr un fath ar gwynion ar y cyd yng Nghyfnod 2, fel y mae Angela Burns wedi ei nodi. Nid wyf i'n credu o hyd y byddai'r Bil yn gyfrwng addas i gyflwyno'r newidiadau hyn. Mae ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ac ystyriaeth ddilynol wedi dangos bod angen ymgysylltu ymhellach yn y maes gydag amrywiaeth o randdeiliaid i helpu i ddatblygu'r polisi yn y maes.
O ran yr hyn y mae'r gwelliant arfaethedig yn ei wneud, fy mhryder i yw y gallai fod yn rhy gyfyngol. Er enghraifft, mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol gynnal ymchwiliad ar y cyd i bryderon a godir o dan weithdrefn gwynion y GIG ac o dan reoliadau gweithdrefn gwynion y gwasanaethau cymdeithasol. Nid yw hynny'n cynnwys y nifer fawr o gwynion am wasanaethau cymdeithasol sy'n cael eu gwneud gan blant o dan Reoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014, ac nid yw'n cymryd i ystyriaeth ychwaith cwynion a wneir yn uniongyrchol i ddarparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol a reoleiddir, fel cartrefi gofal a darparwyr gofal cartref. Mae'r llwybr hwn yn arbennig o berthnasol i'r rhai nad yw eu gofal a'u cymorth yn cael eu rheoli neu eu trefnu gan awdurdod lleol.
Roedd y Pwyllgor ei hun yn cydnabod nad yw ystyried y dull gorau ar gyfer cwynion ar y cyd, yn ddarn syml o waith, ac anogodd y Llywodraeth i barhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddod o hyd i ffyrdd o symleiddio'r broses. Fel y dywedodd Angela Burns, rwyf i wedi ymrwymo i gynnull trafodaeth bwrdd crwn gyda'r amrywiaeth eang honno o randdeiliaid i ystyried sut y gallai'r broses fod yn berthnasol i gwynion am y GIG, cwynion am awdurdodau lleol yn ogystal â chwynion yn erbyn darparwyr gofal cymdeithasol a reoleiddir.
Ceir nifer o randdeiliaid allweddol y mae angen eu cynnwys yn y gwaith o gyflawni'r uchelgais hwn a gwaith i'w wneud i sicrhau ein bod ni'n darparu trefniadau cwynion ar y cyd effeithiol. Mae swyddogion eisoes yn gweithio i drefnu'r drafodaeth bwrdd crwn honno cyn toriad yr haf. Ond rwy'n credu y byddai'r cyfnod amser o chwe mis y mae Angela Burns yn cyfeirio ato yn y gwelliant yn amserlen rhy optimistaidd i allu cwblhau hyn i gyd mewn da bryd, hyd yn oed pe byddem ni mewn cyfnod arferol, ac, wrth gwrs, dydyn ni ddim, o ran yr heriau penodol yr ydym ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i'w hwynebu.
Ond rydym ni'n mabwysiadu'r dull hwn yn y maes hwn o gwynion ar y cyd er mwyn dod a nifer o wahanol linynnau yr ydym ni'n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw fod yn yr un lle ar yr un pryd ynghyd. Fel yr amlinellais yn ystod Cyfnod 2, mae'r ffaith y bydd gan y corff y gallu i gynorthwyo rhywun sy'n gwneud cwyn am iechyd a gofal cymdeithasol yn dangos ein hymrwymiad i wneud pethau'n haws i bobl sydd â chwynion sy'n cwmpasu'r ddau faes hyn.
I ailadrodd, ein dull o hyd yw parhau i weithio gyda sefydliadau GIG Cymru, llywodraeth leol a chyrff eraill i drafod ffyrdd o wneud y broses yn symlach i bobl sydd â'r cwynion hynny ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau yn cydnabod penderfyniad diffuant ac eglur y Llywodraeth i gyrraedd y nod hwnnw yn rhan o system iechyd a gofal cymdeithasol fwy integredig sy'n canolbwyntio’n wirioneddol ar bobl, ac sy'n cael ei datblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol. Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru ein rheoliadau gwneud pethau'n iawn a'r canllawiau cysylltiedig i sicrhau eu bod nhw'n gweithredu'n briodol y newidiadau yr ydym ni'n eu gwneud drwy'r Bil hwn i gyflwyno dyletswydd o ddidwylledd.
Rwyf i wedi gwrando ar y pwyntiau y mae Angela Burns wedi eu codi ac er fy mod i'n credu ein bod ni'n cytuno ar y canlyniad yn y pen draw, mae gen i ofn na allaf i gefnogi'r gwelliant y mae hi'n ei gynnig heddiw.
Angla Burns i ymateb.
Rydych chi wedi fy siomi, oherwydd fe wnaethom ni siarad am welliannau rhagweledol, ac oherwydd fy mod i'n poeni y bydd yn cael ei anghofio, neu y bydd yn cael ei ganiatáu i lusgo ymlaen ac ymlaen. Rwyf i wedi bod yn Aelod Cynulliad am 10 mlynedd ac un o'r achosion cyntaf y bu'n rhaid i mi ddelio ag ef oedd dyn ifanc a oedd wedi ei fwrw drosodd gan gar ac a gafodd ei barlysu o'i wddf i'w droed, a rhoddwyd gofal iechyd iddo 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ond cafodd ei faethu hefyd—pan rwy'n dweud ei fod yn ddyn ifanc, roedd e'n blentyn, yn fachgen—cafodd ei faethu ac felly cafodd ymyriad gan y gwasanaethau cymdeithasol. Cafodd y bachgen ifanc hwnnw ei arteithio gan y tîm iechyd. Roedden nhw'n arfer chwarae jôcs arno, fel tynnu ei bad anymataliaeth a'i ddal i fyny wrth ei drwyn, a chwerthin. Roedd ganddo dracheotomy, a byddai'n rhaid iddyn nhw newid tiwbiau amrywiol a phan fyddai ef—drwy rwystredigaeth—yn arfer gweiddi a sgrechian, bydden nhw'n ei dynnu allan a dawnsio o gwmpas gydag un newydd cyn ei roi yn ôl i mewn eto, i ddysgu gwers iddo. Dyma blentyn sydd wedi ei barlysu'n llwyr o'i wddf i lawr: nid wyf i erioed wedi ei anghofio; yr oedd yn un o fy achosion cyntaf. Gweithiais ar ei achos am ddwy flynedd; y mae wedi ei serio yn fy enaid.
Yr hyn sydd wedi ei serio yn fy enaid mewn gwirionedd ar ben yr hyn a ddigwyddodd iddo, yw'r ffordd y gwnaeth yr holl wasanaethau hynny osgoi bai. Nid oedd ar y GIG; nid oedd ar y gwasanaethau cymdeithasol. Fe wnes i hel achos a chael pawb yn rhan ohono: AGGCC; roedd gen i arolygwyr iechyd; y cyfan, ac roedd yn anhygoel cymaint o le i osgoi bai a oedd yn y broses gwyno honno. Roedd yn rhyfeddol sut y llwyddodd pobl i osgoi bod yn gyfrifol, ac fe wnes i dyngu llw bryd hynny ni waeth beth arall y byddwn i'n ceisio ei wneud, y byddwn i'n ceisio dod â'r cyfan at ei gilydd, er mwyn i'w ofalwyr maeth, y gweithwyr iechyd proffesiynol a wnaeth ofalu amdano, y doctor, y meddyg teulu, allu mynd ar ôl y bobl iawn a dweud, 'Hei. Chi sydd ar fai, ewch chi ati i'w ddatrys. Ewch chi ati i geryddu'r bobl hynny. Ewch chi ati i ailhyfforddi'r bobl hynny. Ewch chi ati i ddiswyddo'r person hwnnw, ac ewch chi ati i wneud bywyd y plentyn hwnnw'n well eto.'
Ond ni wnaeth hynny ddigwydd, oherwydd bu'n rhaid i ni fynd i bob man gyda'n proses gwyno. Ac mae wedi bod yn hunllef, a dyna pam—. Nid wyf i'n gofyn i chi ei ailysgrifennu, a dyma beth rwy'n poeni amdano, mai ar y ford gron yr ydych chi'n sôn am wneud y cyfan. Nid wyf i'n gofyn i chi ailysgrifennu proses gwyno'r GIG. Nid wyf i'n gofyn i chi ailysgrifennu proses gwyno gofal cymdeithasol. Rwy'n gofyn i chi ddatblygu system newydd sbon lle, ar yr adegau pan fo'n fater ar y cyd, lle ceir cyfrifoldeb ar y cyd, yna ceir proses lle mai dim ond un alwad ffôn y mae'n rhaid i'r dinesydd druan sydd wedi cael cam ei gwneud, un person y mae'n rhaid siarad ag ef i ddatrys y mater cyfan. Gallwch chi wneud hynny mewn chwe mis. Mae gennych chi ddigon o awdurdod, rydych chi'n unigolyn hynod ddeallus, a gallwch chi ysgogi'r tîm hwnnw pan fyddwch chi'n dymuno gwneud hynny, ac nid wyf i'n credu bod y gwelliant hwn yn afresymol, gan ei fod yn ymwneud â diogelu'r dinesydd, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 43 a 47.
Os gwrthodir gwelliant 43, bydd gwelliant 47 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 43? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Dŷn ni'n symud i bleidlais, felly, ar welliant 43. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 43 wedi ei wrthod.