Grŵp 18: Corff Llais y Dinesydd — dyletswydd i gydweithredu (Gwelliannau 4, 46)

Part of the debate – Senedd Cymru am 9:28 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 9:28, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i gynnig gwelliant 46, a gyflwynwyd yn fy enw i, a byddaf yn gwrthwynebu gwelliant 4 y Llywodraeth er mwyn cael fy ngwelliant i, oherwydd ei fod yn welliant sydd â'r bwriad o sicrhau bod dyletswydd i gydweithredu rhwng cyrff y GIG, awdurdodau lleol a chorff llais y dinesydd o dan argymhelliad 17 o adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor. Mae hyn wedi ei ddwyn ymlaen o Gyfnod 2, gan ein bod ni'n cytuno â'r ethos sy'n sail i'r gwelliant.

Er fy mod i'n gwerthfawrogi bod eich gwelliant 4 yn debyg iawn, nid wyf i'n credu ei fod yn taro'r cydbwysedd sydd ei angen ar gyfer y ddyletswydd. Rwy'n dadlau yn erbyn dadl y Gweinidog yng Nghyfnod 2 bod darpariaethau o dan adrannau 17 a 18 eisoes yn rhoi'r pwerau a amlinellir yn y gwelliant hwn, gan nad yw codi ymwybyddiaeth gyda'n gilydd yn union yr un peth â chael a dadansoddi adborth gan y rhai sy'n derbyn gofal gan gyrff cyhoeddus; yn hytrach, mae'n ddarlun eithaf cul mewn gwirionedd. Yn yr un modd, er bod gwelliant 4 yn amlwg yn cytuno â'r rheidrwydd am ddyletswydd i gydweithredu, unwaith eto, mae'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth yn hytrach na chasglu adborth.