Grŵp 18: Corff Llais y Dinesydd — dyletswydd i gydweithredu (Gwelliannau 4, 46)

Part of the debate – Senedd Cymru am 9:30 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 9:30, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym yn gyfforddus â'r ddau welliant hyn, oherwydd maen nhw'n gosod dyletswyddau ar y GIG ac awdurdodau lleol i gydweithredu gyda'r corff llais y dinesydd newydd ac maen nhw'n angenrheidiol i roi i'r corff hwnnw y pwerau byddai eu hangen arno. Byddem mewn gwirionedd yn awgrymu taw gwelliant y Ceidwadwyr yw'r cryfaf o'r ddau, gan ei bod hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r GIG ac awdurdodau lleol gynorthwyo'r corff llais y dinesydd i gasglu adborth annibynnol gan bobl sy'n derbyn neu a allai dderbyn gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol. Y naill ffordd neu'r llall, byddwn yn cefnogi'r ddau.