Grŵp 19: Corff Llais y Dinesydd — cymorth i wirfoddolwyr a staff (Gwelliant 44)

Part of the debate – Senedd Cymru am 9:37 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 9:37, 10 Mawrth 2020

Mi fyddwn ni yn cefnogi'r gwelliant yma. Mae'r gwelliant yma yn synnwyr cyffredin ynddo'i hun, ond mae o hefyd yn gyfle i fi ddiolch i'r rheini sydd wedi bod yn gwirfoddoli dros y blynyddoedd o fewn y cynghorau iechyd cymuned. Dwi wedi cael y pleser a'r fraint o gyfarfod a thrin a thrafod efo nifer ohonyn nhw dros y blynyddoedd diwethaf, ac wedi gallu tystio fy hun i'r ymroddiad sydd yna i sicrhau eu bod nhw fel aelodau unigol o fewn y corff sy'n cynrychioli'r cleifion yn wirioneddol wneud popeth y gallan nhw i sicrhau bod llais y rhai mwyaf bregus yn cael ei glywed. Felly, dwi'n falch o allu rhoi hynny ar y cofnod yma heno yma a byddwn, mi fyddwn ni yn cefnogi'r gwelliant yma. Er mwyn i'r gwirfoddolwyr hynny wedyn sydd wedi penderfynu rhoi eu hamser allu cyfrannu hyd at eithaf eu gallu nhw, mae angen sicrhau eu bod nhw'n cael y gefnogaeth a'r hyfforddiant ac ati, ac mae hynny wastad yn golygu'r angen am adnoddau.