Grŵp 19: Corff Llais y Dinesydd — cymorth i wirfoddolwyr a staff (Gwelliant 44)

Part of the debate – Senedd Cymru am 9:32 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 9:32, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Gwelliant 44, y ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant i wirfoddolwyr, yw fy unig welliant yn y grŵp hwn. Oherwydd, yn ystod ein sesiwn dystiolaeth gyda chynghorau iechyd cymuned, roedd yn gwbl amlwg bod cynghorau iechyd cymuned ar hyn o bryd yn ymgymryd â hyfforddiant gyda'u haelodau, fel y mae'r rhai cyfatebol yn Lloegr, sef Healthwatch, ac rydym eisiau i hyn barhau. Efallai eich bod yn meddwl, 'O, wel, pam mae angen gwelliant arnoch ar gyfer hynny? Pam mae angen i chi ei roi yn y Bil?' Fel yr amlinellais yng Nghyfnod 2, gyda gwelliant 45, ar yr hawl i gael mynediad i fangreoedd, mae dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant i wirfoddolwyr a staff yn hanfodol. Dywedodd cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, Geoff Ryall-Harvey, fod mudiadau iechyd lleol yn derbyn llawer o gefnogaeth a hyfforddiant gan Healthwatch England, a byddai angen i aelodau gwirfoddol Healthwatch fynd ar gwrs hyfforddi cyn iddyn nhw ddechrau ymweld ag ysbytai.  

Felly, i ni, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod hyn ar wyneb y Bil er mwyn sicrhau nad parhad yn unig sydd yna, ond atgyfnerthiad a thanategu pwysigrwydd cynghori a hyfforddi ein gwirfoddolwyr a'n staff. Bu llawer o drafod yn ystod y Bil hwn ein bod eisiau cael mwy o wirfoddolwyr i gymryd rhan a'n bod eisiau eu galluogi i fynd allan a gweithredu ar draws y gwasanaethau iechyd ac, wrth gwrs, yn awr y gwasanaethau gofal cymdeithasol, a wir hyrwyddo a sicrhau bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn hollol gywir.

Ond mae hyn yn fwy na hyfforddi gwirfoddolwyr. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud ag annibyniaeth y corff llais y dinesydd newydd. Mae'n ymwneud â natur agored cael gwahanol fathau o wirfoddolwyr—gwirfoddolwyr nad ydyn nhw o reidrwydd yn gysylltiedig â chyrff cyhoeddus yng Nghymru. Os ydym ni eisiau denu, agor cyfleoedd ac annog llawer o wahanol fathau o bobl o wahanol gefndiroedd i ddod i weithredu yn eu cymuned, i ddod i weithredu ar ran eu corff llais y dinesydd lleol, yna mae'n gwbl hanfodol i ni wneud y corff llais y dinesydd edrych tuag allan gymaint â phosibl, ac mae hynny'n cynnwys hyfforddiant. Mae'r Cynghorau Iechyd Cymuned presennol wedi amlinellu droeon rai o'r heriau presennol y mae Cynghorau Iechyd Cymuned wedi'u canfod sy'n ymwneud â gofynion recriwtio, ac maen nhw'n credu'n gadarn iawn y bydd yn rhaid i'r corff newydd hwn, ym mha bynnag ffurf y bydd yn ei gymryd, ddatblygu ei drefniadau mewn ffordd sy'n hybu'r mynediad hynny ac sy'n galluogi pobl o bob cefndir.  

Rwy'n gwerthfawrogi, yng Nghyfnod 2, Gweinidog, eich bod wedi ceisio fy sicrhau bod adnoddau wedi'u neilltuo ar gyfer hyfforddiant yn asesiad effaith rheoleiddiol y Bil, a dyna pam y tynnais hwnnw'n ôl. Ond, er bod £92,500 wedi'u neilltuo bob blwyddyn ar gyfer hyfforddiant, nid wyf wedi cael ymrwymiad llwyr gennych i ymrwymo i gynnwys hyfforddiant yn y canllawiau statudol ac, unwaith eto, rwyf eisiau clywed y bydd hyfforddiant go iawn yn cael ei gynnal a bydd cymorth ar gyfer gwirfoddolwyr a staff yn rhan allweddol o symud y corff llais y dinesydd newydd yn ei flaen. Hoffwn eich atgoffa eich bod wedi cyfaddef yn eich asesiad effaith rheoleiddiol ei bod yn anodd amcangyfrif faint o aelodau gwirfoddol y bydd y corff eu hangen oherwydd bydd yn dibynnu ar nifer o ffactorau, fel lleoliad, set sgiliau gwirfoddolwyr a'r ymrwymiad amser a gynigir. Ac, er eich bod chi'n gweithio ar sail y 276 o wirfoddolwyr sydd yn y cynghorau iechyd cymuned ar hyn o bryd, y nifer hwn a all fod yn enfawr o wirfoddolwyr, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn darparu ar gyfer un swyddog sy'n cyfateb i amser gweithio ar secondiad i ddatblygu'r holl adnoddau hyfforddiant sefydlu ar gyfer staff a gwirfoddolwyr yn ystod y cyfnod pontio. Mae gen i dosturi dros y person druan hwnnw; dydw i ddim yn gweld sut y gallan nhw wneud hynny.

Felly, fe wnai orffen fy nghyfraniad ar y gwelliant hwn gyda rhywbeth a nodwyd gan fwrdd y cynghorau iechyd cymuned. Dywedon nhw fod hyn yn llawer mwy na meddu ar wybodaeth am y GIG a'r sectorau cymdeithasol—mae'n rhaid i hyn ymwneud â datblygu a sicrhau cymhwysedd a dealltwriaeth o'r egwyddorion a'r arferion o ymgysylltu a chynrychioli effeithiol.

Byddem yn cytuno'n llwyr â'r arddeliad hwn, Gweinidog, ac felly rydym ni'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn.