– Senedd Cymru am 2:07 pm ar 10 Mawrth 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes.
Cyn i mi ofyn i'r Gweinidog, y Trefnydd, ddarparu ei datganiad, dim ond i ddweud bod gennyf i lawer o Aelodau Cynulliad sydd eisiau gofyn cwestiwn. Rwy'n annog pob un ohonoch chi, os ydych chi eisiau gwella cyfle eich cyd-Aelodau i gael eu galw y prynhawn yma, i fod yn gryno yn eich cwestiynau. Roeddwn i'n arbennig o hir yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma, felly rwyf i eisiau cadw hyn at ddatganiad 30 munud, os yw hynny'n bosibl, yng ngoleuni'r hyn sydd gennym ni o'n blaenau ni ar gyfer heddiw.
Felly, ar hynny, Mohammad Asghar.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch mesurau i fynd i'r afael â diabetes yng Nghymru? Mae diabetes yng Nghymru yn argyfwng iechyd erbyn hyn, gyda nifer y bobl sy'n dioddef o'r clefyd wedi dyblu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Yng Nghymru y mae'r nifer fwyaf o achosion o ddiabetes yn y Deyrnas Unedig, ac mae GIG Cymru yn amcangyfrif y bydd gan 11 y cant o'n poblogaeth sy'n oedolion y cyflwr hwn erbyn 2030. Mae Diabetes UK Cymru wedi croesawu'r mesurau a gafodd eu cyflwyno yn strategaeth gordewdra Llywodraeth Cymru, 'Pwysau Iach: Cymru Iach', ond mae'n dweud bod angen gweithredu parhaus arnom ni os ydym ni eisiau cynorthwyo pobl i fyw bywydau iachach, creu amgylchedd iachach a llunio cenedl iachach. Gweinidog, gan mai Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig nad oes ganddi raglen atal diabetes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog os gwelwch yn dda ynghylch pa gamau y bydd ef yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd hwn yng Nghymru? Diolch.
Cyn i mi ymateb i Mohammad Asghar, mae'n debyg y dylwn i nodi bod nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae cwestiynau llafar yr wythnos hon—
Mae'n ddrwg gen i, anghofiais eich galw chi, Trefnydd. [Chwerthin.]
Mae hynny'n iawn. Bydd cwestiynau llafar yr wythnos hon i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd o ran ei gyfrifoldebau swyddog y gyfraith yn cael eu cynnal yfory. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn fuan ar yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch coronafeirws, COVID-19. O ganlyniad, bydd y datganiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Yn olaf, o ganlyniad i nifer y gwelliannau a gyflwynwyd a'u grwpiau, rwyf i wedi ymestyn yr amser sydd wedi ei neilltuo i drafodion Cyfnod 3 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
O ran y cais am ddatganiad a wnaeth Mohammad Asghar, mi wn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol newydd wneud datganiad i'r Cynulliad yn ddiweddar ar y rhaglen 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a oedd yn crynhoi rhai o'r pryderon y mae Mohammad Asghar wedi eu codi y prynhawn yma. Ond byddwn i'n ei annog i ysgrifennu hefyd at y Gweinidog iechyd gyda'i bryderon penodol am ddiabetes er mwyn iddyn nhw gael sylw drwy ohebiaeth.
Rwy'n gwybod bod cryn dipyn o amser wedi ei roi yn y Senedd i ddadlau a chraffu ar waith cynllunio a chraffu y Llywodraeth o ran y llifogydd, ond mae gennyf i nifer o faterion nad ydyn nhw wedi cael sylw o fy etholaeth i sydd wedi'u dal yn ôl hyd yn hyn. Mae gennyf i achos o breswylydd yn Nhreorci sydd wedi gweld y llifogydd yn ei gegin chwech, saith, efallai wyth gwaith bellach ers i'r glaw trwm ddechrau ychydig wythnosau yn ôl. Mae dŵr yn rhuthro i'w ardd a thrwy waliau ei gegin. Mae e'n credu bod draen wedi dymchwel o dan y brif ffordd y tu allan i'w gartref, ac eto mae'r cyngor yn dweud, mai ef sy'n gyfrifol am hynny, ar ei dir ei hun. Rwy'n meddwl tybed a oes gan y Llywodraeth unrhyw gyfle i ymyrryd mewn achosion fel hyn.
Mae gennyf i achos arall lle nad oes gan breswylydd yswiriant. Cafodd ei do ei chwythu ymaith yn storm Ciara ac yna cafodd ei ddifrodi ymhellach yn ystod storm Dennis. Dywedodd y Llywodraeth o'r blaen ei bod eisiau helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y ddwy storm, ac eto mae'r cyngor wedi penderfynu nad yw'r teulu hwn yn gymwys i gael cyllid gan y cyngor, sydd wedyn yn eu hatal rhag cael arian gan Lywodraeth Cymru a'r gefnogaeth y dylen nhw fod yn gallu eu cael am nad oes ganddyn nhw yswiriant. A wnaiff Llywodraeth Cymru gytuno i ystyried achosion fel hyn sydd wedi eu gwrthod er mwyn sicrhau'r hyblygrwydd mwyaf posibl o fewn y system i ddal achosion fel hyn?
Mae gennyf i lawer o faterion eraill yr hoffwn i eu codi, ond rwy'n ymwybodol o amser, Llywydd. Os caf i godi dim ond un pwynt terfynol, ac mae hynny'n ymwneud â chwlfertau sydd wedi blocio yn gyffredinol. Mae hyn yn broblem enfawr ledled y Rhondda erbyn hyn. Nid yw'n ymddangos bod gan y cyngor y gallu i glirio a thrwsio'r holl gwlfertau a dyfrffyrdd ac, mewn rhai achosion, mae angen ailadeiladu'r systemau draenio hyn. Mae Pentre a Blaenllechau yn ddwy enghraifft dda o'r mannau lle mae difrod yn y draeniau wedi achosi llifogydd yng nghartrefi pobl, ond hefyd mae tŷ yn Llwynypia sydd wedi dioddef llifogydd o gwlfert yn gorlifo, roedd stryd yn Ystrad dan ddŵr neithiwr, ac mae pobl mewn cartrefi yn Ynyshir yn ofnus oherwydd bod y system ddraenio cwlfertau wedi gorlifo yno eto neithiwr. Nawr, os nad oes gan y cyngor y gallu i fynd i'r afael â hyn i gyd, a fyddai modd ystyried dod â llafur a chymorth o rywle arall? Er enghraifft, a fyddai modd gofyn i grwpiau gwirfoddol neu hyd yn oed y fyddin helpu mewn sefyllfaoedd fel hyn? Mae angen cynllun arnom ni ar gyfer ein dyfrffyrdd a'n dŵr sy'n rhedeg oddi ar y mynyddoedd; nid yw'n ymddangos bod gennym ni un ar hyn o bryd sy'n ennyn hyder y trigolion yr wyf i'n siarad â nhw sy'n ei chael hi'n amhosibl ymlacio, bob tro y mae hi'n bwrw glaw.
Diolch i Leanne Wood am godi'r materion penodol yna o waith achos y mae hi wedi ei gael gan bobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y llifogydd, ac yna'r pryder cyffredinol hwnnw ynglŷn â chwlfertau wedi blocio. Fe wnaf i ofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru siarad â Chyngor Rhondda Cynon Taf ynghylch y materion hynny yr ydych chi wedi eu codi, oherwydd, yn y lle cyntaf, materion i'r cyngor ydyn nhw, ond byddai'n bwysig iawn i Lywodraeth Cymru ddeall yn fwy manwl y pryderon yr ydych chi wedi'u codi. Felly, byddaf i'n sicrhau bod y sgyrsiau hynny'n digwydd.
Trefnydd, a allwn ni gael datganiad am weithdrefnau cynllunio yng Nghymru? Efallai eich bod chi wedi gweld rhai o luniau dramatig o dŷ fy etholwr Mr Lee Evans yn eistedd yn ansefydlog ar lan yr afon yr wythnos hon. Digwyddodd hynny ar ôl i lan yr afon erydu rhyw 30 troedfedd yn ystod storm Dennis. Mae ei eiddo ef yn un o ddau yn y sefyllfa hon, y ddau ohonyn nhw yn rhan o ddatblygiad tai Redrow yn Carnegie Court ym Masaleg. Cafodd caniatâd cynllunio ei wrthod gan Gyngor Dinas Casnewydd a chan yr arolygydd cynllunio. Fodd bynnag, cafodd y penderfyniad hwn ei wrthdroi yn y pen draw yn 2007. Er bod gweithdrefnau wedi newid ers hynny, yn dilyn digwyddiadau diweddar, roedd cwestiynau'n amlwg yn cael eu gofyn am ddilysrwydd y broses hon, a byddwn i'n croesawu datganiad yn nodi pam y cafodd y penderfyniad hwn ei wneud ar y pryd, ac, yng ngoleuni'r hyn yr ydym ni'n ei wybod erbyn hyn, a fydd adolygiad i sut y mae penderfyniadau ynghylch adeiladau newydd yn cael eu gwneud o ran peryglon llifogydd posibl?
Yn ail, hoffwn i ofyn am ddatganiad arall. Roeddwn i'n falch o weld Gweinidog yr amgylchedd yn darparu datganiad ysgrifenedig am fridio cŵn yr wythnos diwethaf. Rwyf i a llawer o fy etholwyr yn awyddus i weld diwedd ar y modd gofidus ac echrydus y mae rhai cŵn yn cael eu trin ar ffermydd cŵn bach, ac mae angen gwneud hyn ar frys. A gawn ni ddatganiad ac amserlen ynghylch pryd y gallai'r camau gweithredu hynny fod yn digwydd?
Diolch i Jayne Bryant am godi pryderon penodol ei hetholwr ynglŷn â'r achos o ganiatâd cynllunio yr ydych chi wedi ei ddisgrifio, a'r materion sy'n effeithio'n benodol ar adeiladau newydd. Roedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am gynllunio yma i glywed y pryderon hynny, a byddai'n ddefnyddiol pe gallech chi ysgrifennu at y Gweinidog gyda rhagor o fanylion am yr achos penodol yr ydych chi'n cyfeirio ato er mwyn rhoi mwy o ystyriaeth i'r pryderon yr ydych wedi gallu siarad yn eu cylch y prynhawn yma yn y Siambr.
O ran y ffyrdd ymlaen ar gyfer bridio cŵn, rwy'n gwybod mai bwriad y Gweinidog yw cyflwyno'r newidiadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl. Mae hi hefyd wedi nodi y byddai'n ystyried deddfu yn ystod tymor y Cynulliad hwn ar werthu cŵn bach hefyd. Felly, rwy'n credu bod camau pwysig o'n blaenau o ran gwella lles anifeiliaid, ac yn enwedig lles cŵn yng Nghymru, ond byddaf yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch yr amserlen honno.
Drwyddoch chi, Trefnydd, a gaf i ofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru am ddatganiad ynghylch y trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith o ran coronafeirws ar gludiant cyhoeddus? Mae cludiant sy'n cael ei ariannu gan y cyhoedd fel y teithiau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, bysiau TrawsCymru a threnau Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn lleoedd lle mae cyfran sylweddol o bobl mewn ardal gaeedig am gyfnodau hir. Er enghraifft, des i i lawr ar y trên gydag Aelod Cynulliad arall ddoe. Fe wnaeth fy mhrofiad o hynny achosi cryn bryder i mi. Yn ystod y pedair awr, fe wnaeth nifer o bobl fynd a dod— rwy'n tueddu i ddefnyddio bwrdd er mwyn i mi allu gweithio ar fy ffordd i lawr—ni chafodd y byrddau eu sychu unwaith, ac nid oedd y trên, mewn gwirionedd, yn lân iawn. Yn nes ymlaen, aeth fy nghyd-Aelod yn y Cynulliad i'r ystafell ymolchi a dywedwyd wrthyf nad oedd dŵr poeth na sebon ar gael ar y trên. Nawr, rydych chi'n ymwybodol, fel yr wyf innau, mai'r negeseuon cryf sy'n dod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac, yn wir, Llywodraethau ar bob lefel yw'r angen i allu golchi ein dwylo a chynnal lefelau hylendid personol llym. A wnewch chi ofyn i'r Gweinidog am y datganiad hwnnw? Oherwydd, rwyf i'n credu bod ganddo ran i'w chwarae o ran rhoi cyngor da i'n gweithredwyr trafnidiaeth, fel y gallan nhw a'u staff ac, yn wir, y rhai sy'n teithio ar gludiant cyhoeddus yng Nghymru deimlo'n ffyddiog bod y mater hwn wir yn cael ei gymryd o ddifrif.
O, ac mae gennyf i ddatganiad arall—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i.
Ewch ymlaen, Trefnydd. Na—rydych chi wedi ildio i'r Trefnydd. Bydd y Trefnydd yn ateb.
Iawn. Felly, mae hwn yn fater pwysig y cafodd arweinydd yr wrthblaid gyfle hefyd i holi'r Prif Weinidog amdano yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog y prynhawn yma, ond byddaf i'n siŵr o gael y drafodaeth hon gyda fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, oherwydd mae'r ymateb i coronafeirws yn sicr yn ymateb trawslywodraethol, ac yn yr un modd, mae'n rhywbeth y mae gan bob unigolyn yng Nghymru ei ran i chwarae ynddo hefyd.
Fel cysgod Weinidog ar faterion rhyngwladol y Blaid, dwi wedi derbyn hanes pêl-droediwr ifanc yma yng Nghymru. A gaf i ofyn a wnaiff y Llywodraeth ddatganiad ar sefyllfa Rolando Bertrand, dyn 21 mlwydd oed a phêl-droediwr i glwb pêl-droed Bellevue yn Wrecsam, a symudodd i Gymru flwyddyn yn ôl gyda'i deulu, ond sydd nawr mewn peryg o gael ei alltudio i Nicaragua? Chwaraeodd e a'i deulu ran mewn protestiadau gwrthlywodraethol, ac o ganlyniad maent o'r farn eu bod wedi cael eu 'blacklist-io' gan Lywodraeth Nicaragua. Felly, drwy fynd yn ôl yno, mae'n debyg y byddai'n rhoi ei fywyd mewn peryg. Felly, a allaf i ddiolch ymlaen llaw i'r Llywodraeth am edrych i mewn i'r sefyllfa ddyrys yma? Diolch yn fawr.
Unwaith eto, diolch i Dai Lloyd am godi'r mater penodol hwn. Byddaf i'n sicr yn ei archwilio fy hun i ddeall y mater yn well. Rwy'n gwybod y byddwch chi hefyd yn cyflwyno'r sylwadau pwysig hynny i'r Swyddfa Gartref o ran eu prosesau allgludo ac yn y blaen, ond byddaf i yn sicr yn casglu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol.
Trefnydd, tybed a allwch chi drefnu i gael datganiad gan y Llywodraeth ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru o ran yswirio eiddo a busnesau mewn ardaloedd sydd wedi dioddef llifogydd. Mae tai a oedd wedi eu hyswirio, rhai nad oedden nhw wedi eu hyswirio, ni fydd rhai yn gallu cael yswiriant nac yn gallu fforddio yswiriant. Mae'r un peth yn wir am fusnesau. Ar hyn o bryd, mae'n bosibl bod rhai ohonyn nhw yn cael anhawster i gael yswiriant neu i allu fforddio yswiriant, a fydd yn amlwg yn effeithio ar hyfywedd busnesau a chadw swyddi. Rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o'r maes sy'n ymwneud ag yswiriant yn fater nad yw wedi ei ddatganoli, ond mae'n ymddangos, wrth weithio ledled y DU a gyda Cymdeithas Yswirwyr Prydain a rhai eraill â budd, bod gwir angen adolygu'r trefniadau yswiriant a'r cynlluniau yswiriant sy'n bodoli i ddiogelu busnesau ac eiddo preswyl ar gyfer y dyfodol.
Fel y nododd y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach, mae ein camau cyntaf ni wedi ymwneud ag ymateb yn gychwynnol ac yn uniongyrchol i'r aelwydydd, busnesau a chymunedau yr effeithiwyd arnyn nhw. Ond, wrth i ni edrych ymlaen a chael y cyfle i fyfyrio ar y llifogydd, bydd y cwestiynau ehangach hyn y bydd angen i ni eu harchwilio. O ran yswiriant, mae cynllun o'r enw Flood Re, sy'n bartneriaeth rhwng Llywodraeth y DU a diwydiant, ar gael i roi y cyfle i aelwydydd sydd wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol neu sydd mewn perygl o lifogydd i drefnu yswiriant fforddiadwy. Rwy'n credu bod hwnnw'n gynllun da a allai o bosibl gael ei hyrwyddo'n dda i'r aelwydydd hynny y mae'r llifogydd diweddar wedi effeithio arnyn nhw, a'r busnesau hynny, er mwyn ceisio rhoi rhywfaint o gysur iddyn nhw y bydd cyfle i gael yswiriant yn y dyfodol.
A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, ar raddau delweddu cyseinedd magnetig y prostad cyn biopsi ledled Cymru. Mae Prostate Cancer UK wedi rhannu ei ddata cais rhyddid gwybodaeth diweddaraf sy'n dangos faint o MRI Prostate a gynhelir cyn biopsi ar draws Cymru. Canfu hyn nad yw tri o'r saith Bwrdd Iechyd ledled Cymru hyd yma'n darparu'r sganiau i'r safonau a gafodd eu gosod gan y treial PROMIS ac a argymhellwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae dau arall yn cynnig MRI deubarametrig, fersiwn symlach o'r sganiau, er eu bod yn dweud bod cynlluniau ar y gweill i gwblhau'r broses o sicrhau bod pob ardal yn darparu mynediad i MRI amlbarametig llawn erbyn 1 Ebrill, dim ond ychydig wythnosau i ffwrdd. Fe wnaethon nhw hefyd ddarganfod bod meini prawf cymhwysedd cyfyngol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ac nid oedd y cynnydd yng ngallu MRI y prostad yn ystod y 12 mis diwethaf yn hysbys ym myrddau iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Cwm Taf.
Felly, mae Prostate Cancer UK yn galw am i unedau radioleg gael yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau bod pob dyn a allai elwa yn cael mynediad nawr, ac maen nhw wedi datblygu offeryn cynllunio i helpu darparwyr iechyd i gyfrifo'r cynnydd mewn adnoddau y bydd angen iddyn nhw ei gynllunio ar eu cyfer yn eu hardaloedd. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny, nid i feirniadu, ond i geisio ffordd o gau'r gofod, sy'n ofod llai, ond mae angen gweithredu o hyd er hynny.
Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar goedwigaeth a bioamrywiaeth? Clywsom sylwadau gan y Prif Weinidog yn gynharach, ond, fel y gwyddoch chi, mae Llywodraeth Cymru eisiau i orchudd coetiroedd yng Nghymru gynyddu gan o leiaf 2,000 hectar y flwyddyn. Pan oedwn i'n bresennol yn uwchgynhadledd y gylfinir yn 10 Stryd Downing fel hyrwyddwr rhywogaethau Cymru ar gyfer y gylfinir fis Gorffennaf diwethaf, clywsom fod plannu coed conwydd ar raddfa eang mewn ucheldiroedd wedi arwain at golli cynefinoedd enfawr, ac nid y tir a gafodd ei blannu yn unig a ddinistriodd yr adar, ond mewn ardal fawr o amgylch y goedwig, peidiodd y tir â bod yn gynefin cynaliadwy i adar sy'n nythu ar y ddaear gan fod y goedwig yn darparu gorchudd delfrydol i ysglyfaethwyr, llwynogod, brain tyddyn a moch daear yn bennaf. Mae angen i ni wybod, felly, yng nghyd-destun y nod clodwiw o gynyddu coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru, sut yr ydym ni'n mynd i sicrhau bod gennym ni'r coed cywir yn y mannau cywir i wir ddiogelu bioamrywiaeth.
Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood am godi'r materion yna. Y cyntaf oedd mater canser y prostad a'r profion MRI hynny. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd yn bwriadu cyflwyno datganiad maes o law ar y strategaeth canser, a bydd cyfle hefyd i godi materion yfory gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y ddadl ar ganser. Felly, bydd sawl cyfle yn y dyfodol agos i archwilio'r materion hynny.
O ran gorchudd coetiroedd, rwy'n gwybod bod darnau penodol o waith yn mynd ymlaen ledled y Llywodraeth, ond yr un arbennig o ddiddorol a chyffrous, rwy'n credu, yw'r gwaith sy'n mynd ymlaen o ran coedwig cenedlaethol Cymru. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad yn fuan iawn—rwy'n credu mai'r bwriad yw lansio yr wythnos hon.
Dwi'n falch bod y Gweinidog amaeth yn ei sedd hefyd, jest i nodi'r hyn dwi eisiau ei godi. Mae'r Gweinidog wedi datgan y bydd y rheoliadau newydd ar ansawdd dŵr yn cael eu gosod o fewn yr ychydig wythnosau nesaf. Dwi ddim yn gweld yn y datganiad busnes unrhyw gyfeiriad at ddatganiad llafar i gyd-fynd â gosod y rheoliadau hynny yn ystod y tair wythnos nesaf o fusnes. Byddwch chi'n gwybod, wrth gwrs, bod y rheoliadau yma wedi bod yn hynod ddadleuol. Maen nhw wedi bod yn destun codi pwyntiau fan hyn yn y Siambr, ac yn sicr wedi bod yn cynhyrchu llawer iawn o ohebiaeth i fi a nifer o Aelodau eraill yn y Siambr yma. Maen nhw'n cyflwyno newidiadau pellgyrhaeddol, a byddwn i'n teimlo y dylem ni ddisgwyl dim byd llai ond datganiad llafar i gyd-fynd â gosod y rheoliadau newydd yma, er mwyn sicrhau'r tryloywder, y cyfle i graffu, a'r atebolrwydd a ddylai fod yn cyd-fynd â datganiad o'r fath. Felly, gaf i ofyn i chi gadarnhau, os wnewch chi, Trefnydd, y bydd yna ddatganiad llafar yn cyd-fynd ag unrhyw osod rheoliadau newydd ar ansawdd dŵr, pryd bynnag y daw'r rheini ymlaen?
Llywydd, yn amlwg mae'r Gweinidog yma i glywed eich cais y prynhawn yma. Dim ond yr wybodaeth o ran yr hyn sydd wedi'i osod ar y datganiad a chyhoeddiad busnes heddiw sydd gennyf i, ond byddwn ni yn sicr yn gwrando ar y cais yr ydych chi wedi ei wneud y prynhawn yma.
Rwy'n gwerthfawrogi bod amser yn brin, felly byddaf yn gryno. Yn gyntaf oll, mater a gafodd ei godi gan nifer o Aelodau yn y Siambr hon heddiw: sef llifogydd. A gaf i gytuno â'r sylwadau blaenorol hynny o ran cefnogaeth sydd ar gael i fusnesau a chartrefi, yn wir, ledled Cymru? Yn enwedig y cartrefi hynny nad ydyn nhw'n gallu cael yswiriant llifogydd confensiynol. Fe wnes i ymweld ag un cartref yn sir Fynwy, yn nhref Trefynwy ei hun, lle mae problem gyda'r socedi trydan, er enghraifft, ac mae peth cost ynghlwm wrth adleoli'r rheini. Efallai y gallai fod rhyw fath o grant ar gael i'r rhai nad oes ganddyn nhw yswiriant y mae llifogydd yn effeithio arnyn nhw.
Yn ail, mater yr wyf i wedi ei godi droeon: ffyrdd, a ffordd osgoi Cas-gwent. Tybed a allem ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf rywbryd yn ystod y cyfnod cyn y Pasg gan y Gweinidog trafnidiaeth ynghylch symud ymlaen â'r ffordd osgoi yng Nghas-gwent, ac unrhyw drafodaethau a allai fod wedi eu cynnal rhwng naill ai ef a'i swyddog cyfatebol yn San Steffan, neu yn wir y swyddogion perthnasol, i geisio datblygu'r prosiect pwysig hwnnw.
Unwaith eto, rwy'n tynnu sylw at botensial pwysig Flood Re fel ffordd bosibl ymlaen i bobl sydd wedi ei chael hi'n anodd cael yswiriant llifogydd oherwydd eu bod naill ai wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol ac na fydd yr yswirwyr yn eu derbyn, neu oherwydd eu bod mewn eiddo sy'n cael ei ystyried i fod mewn perygl o lifogydd. Mae'n bartneriaeth rhwng y Llywodraeth a'r diwydiant er mwyn cyflawni hynny, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu cael yswiriant fforddiadwy o dan yr amgylchiadau hynny. Felly, byddwn i'n argymell hynny i'r Aelodau, i'w archwilio ymhellach o ran pa un a yw'n rhywbeth y gallan nhw ei archwilio gyda'u hetholwyr.
Ac wrth gwrs, byddaf i'n siarad â'm cydweithiwr, y Gweinidog trafnidiaeth, ynghylch y cais am yr wybodaeth ddiweddaraf o ran ffordd osgoi Cas-gwent.
Ddeufis yn ôl, gofynnais am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch cynllunio'r gweithlu ym maes iechyd, oherwydd fy mod i'n pryderu bod nifer o feddygfeydd teulu yn fy rhanbarth i mewn perygl o gau. Cafodd cynghorwyr lleol a gododd y mater hefyd eu cyhuddo o godi bwganod, ond yr wythnos diwethaf cawsom ni gadarnhad y bydd tair meddygfa yn cau yn y Gilfach, Parc Lansbury a Phenyrheol, a reolir gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan a phob un ohonyn nhw yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Rwy'n bryderus iawn y bydd y meddygfeydd a fydd yn gorfod cymryd miloedd o gleifion newydd erbyn hyn yn sgil y ffaith bod rhai eraill yn cau yn cael trafferth i ymdopi â'r galw ychwanegol, ac y bydd yn rhaid i rai pobl deithio i leoedd pell iawn os nad oes ganddyn nhw eu cludiant eu hunain. Efallai y byddan nhw'n cael trafferth ailgofrestru a defnyddio'r meddygfeydd newydd. Roeddwn i allan yn siarad â thrigolion Parc Lansbury yr wythnos diwethaf, a dywedodd un etholwraig wrth fy nghyd-Aelod nad oedd ddim ond prin yn gallu cerdded i'r feddygfa rownd y gornel, ond nid oedd yn gwybod sut yr oedd hi'n mynd i allu cyrraedd rhywle a oedd lawer ymhellach i ffwrdd.
Rwyf i wedi sôn o'r blaen fod dadansoddiad map gwres meddygon teulu Cymdeithas Feddygon Prydain yn dangos bod 32 o feddygfeydd mewn perygl o gau yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Mae tair o'r rhain bellach wedi cau, neu ar fin cau, sy'n golygu y gallai 29 arall fod mewn perygl o hyd.
Ni wrandawyd ar fy nghais blaenorol am ddatganiad, mae arna i ofn. Felly, hoffwn i ofyn eto am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn nodi pa gymorth fydd ar gael i gleifion, fferyllfeydd a meddygfeydd a fydd yn gorfod ymdopi â sefyllfa newydd y meddygfeydd hyn yn cau? Yn ail, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar unwaith i atal rhagor o feddygfeydd rhag cau yn eu rhanbarth drwy recriwtio'n brydlon? Ac yn olaf, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwyrdroi'r methiant trychinebus hwn i gynllunio ei weithlu meddygon teulu yn y dyfodol yn wyneb y galw cynyddol? Diolch, Trefnydd.
Mae'r byrddau iechyd yn gweithio gyda phartneriaid drwy'r clystyrau i fabwysiadu ac addasu'r model gofal sylfaenol i Gymru, gan ganolbwyntio ar gymorth ar gyfer hunanofal a darparu gwasanaeth di-dor 24/7 sy'n rhoi blaenoriaeth i'r bobl waelaf eu hiechyd, gan wneud defnydd effeithiol o'r gweithlu amlbroffesiwn. Ac wrth gwrs, eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £10 miliwn ychwanegol er mwyn i glystyrau benderfynu sut i fuddsoddi i gefnogi'r model gofal sylfaenol i Gymru.
O ran y practisau meddygon teulu penodol yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, gwn fod y Gweinidog wedi cael rhai trafodaethau gyda'r Aelodau lleol, a bod y bwrdd iechyd yn cynnig pecyn o gymorth erbyn hyn i bob un o'r practisau hynny sy'n debygol o weld cynnydd yn nifer y cleifion. Wrth gwrs, mae gwaith aruthrol yn digwydd, onid oes, i geisio annog pobl i weithio yng Nghymru, ac mewn gwirionedd, mae hwnnw'n llwyddiannus o ran recriwtio meddygon teulu newydd i'r rhaglenni hyfforddiant hefyd. Ond mae'r Gweinidog wedi clywed eich cais chi am ddatganiad. Mae'n anodd iawn cynnwys pob datganiad; rydym yn cael tua 20 o geisiadau bob wythnos, a dim ond nifer fechan o slotiau i ymateb iddyn nhw. Ond gwnawn ein gorau glas i geisio darparu ar gyfer pethau gymaint ag y gallwn ni.
Diolch i'r Trefnydd.