5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus (COVID-2019)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:35, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Fe fydd yn rhaid i'n GIG ni yma wneud rhai newidiadau i'r ffordd y mae'n gweithredu. Mae hynny'n cynnwys gofal a chyngor dros y ffôn a thechnoleg gwybodaeth. Rwyf wedi penderfynu y bydd system feddalwedd newydd ar gael ledled Cymru i alluogi pobl i ymgynghori â'u meddygon teulu drwy gyfrwng fideo. Rydym eisoes wedi cyflwyno gwiriwr symptomau ar-lein, y gellir ei ddefnyddio ar ein gwefan ni, Galw Iechyd Cymru. Wrth gwrs, mae'r wybodaeth ddiweddaraf bob dydd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd. Fe ddylai hyn helpu i leihau'r pwysau ar y staff rheng flaen, a chefnogi pobl drwy roi mwy o wybodaeth a chyngor iddynt.

Rydym eisiau gweld cydbwysedd rhwng cadw pobl yn ddiogel a lleihau'r effeithiau cymdeithasol ac economaidd. Fe fydd ein penderfyniadau ni'n adlewyrchu'r dystiolaeth wyddonol, ac yn ystyried y cyfaddawdu sy'n gysylltiedig â hynny. Mae'r camau y byddwn ni'n eu hystyried yn cynnwys annog mwy o bobl i weithio gartref, ymatal rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a mesurau ymddygiadol eraill y gall pobl eu cymryd yn wirfoddol i arafu ymlediad y clefyd. Fe fyddwn ni'n ystyried a ddylai'r rhai sydd â symptomau llai amlwg eu hynysu eu hunain, ond fe gaiff hyn ei lywio gan gyngor arbenigol ar epidemioleg yr achos, ac nid ydym wedi cyrraedd y sefyllfa honno heddiw.

Mae'n werth inni atgoffa ein hunain a'r cyhoedd, er hynny, na ddylai pobl sydd â symptomau tebyg i'r ffliw fynd i'r gwaith, na mynd i weld eu meddyg teulu, na mynd i adrannau damweiniau ac argyfwng. Nid cyngor newydd yw hwnnw—dyna'r cyngor cyfredol ar hyd y flwyddyn.

Mae rhai digwyddiadau cyhoeddus mawr y tu allan i Gymru, fel y gwelsom ni, wedi cael eu canslo neu eu gohirio er mwyn cyfyngu ar y perygl o drosglwyddo coronafeirws. Mae nifer o ysgolion wedi cau mewn gwledydd eraill am resymau tebyg. Mae'r rhain yn ddewisiadau a fydd yn bosibl i ninnau hefyd yn y dyfodol. Eto i gyd, nid ydym yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd. Fe ddylai'r ysgolion aros ar agor, ac nid oes sail resymegol i ganslo digwyddiadau chwaraeon mawr ar hyn o bryd.

Ond mae rhai o'r mesurau mwyaf effeithiol yn cynnwys pob un ohonom ni—nid y Llywodraeth neu'r GIG yn unig. Er enghraifft, fe all gweithdrefnau hylendid personol syml gyfyngu'n sylweddol ar ledaeniad y feirws, fel y gall hunan ynysu darbodus i'r rhai sy'n wynebu risg arbennig. Fe all cyflogwyr gefnogi eu staff i gymryd camau o'r fath, ac fe ddylen nhw wneud hynny, heb godi braw yn ormodol. I liniaru'r effaith ar fusnesau, mae Llywodraeth Cymru wedi cofrestru COVID-19 yn glefyd hysbysadwy. Fe fydd hyn yn helpu cwmnïau i geisio iawndal drwy eu polisïau yswiriant os bydd yn rhaid iddyn nhw ganslo unrhyw beth o ganlyniad i ymlediad y feirws.

Rydym yn symud tuag at drefniadau monitro gwell ym maes awyr rhyngwladol Caerdydd. Fe fydd hyn yn golygu y bydd angen i bob awyren sy'n glanio yma o ranbarth a nodir gan ddiffiniad yr achos, ddatgan unrhyw deithwyr sy'n arddangos symptomau gerbron timau iechyd porthladdoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn iddyn nhw ddod oddi ar yr awyren.

Y tu allan i'r DU, mae'r risg yn newid yn feunyddiol. Mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn diweddaru ei chyngor i deithwyr yn rheolaidd hefyd. Ac fe ddylai pobl sy'n bwriadu teithio dramor edrych ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad am y cyngor diweddaraf o ran teithio cyn iddyn nhw fynd dramor. Y cyngor diweddaraf i deithwyr sy'n dychwelyd o'r rhannau o'r byd sydd â'r risg uchaf yw aros yn y tŷ, ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill, a ffonio 111. Mae hynny'n wir hyd yn oed os nad oes symptomau ganddyn nhw. A'r ardaloedd hynny yw: Iran, talaith Hubei yn Tsieina a'r Eidal. I deithwyr sy'n dychwelyd o ardaloedd a ystyrir yn llai o risg, y cyngor yw aros yn y tŷ ac osgoi cysylltiad â phobl eraill os ydych chi'n datblygu symptomau. Bellach, mae hyn yn cynnwys yr Eidal gyfan y tu allan i'r ardaloedd dan glo yr wyf i wedi eu crybwyll nhw eisoes.

Mae rhagor o gyngor ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl nad ydyn nhw wedi teithio ond sydd, serch hynny, yn bryderus. Fe fydd hwnnw'n newid hefyd wrth i batrwm yr achosion newid ac wrth i'n dealltwriaeth ninnau dyfu. Ond mae dilyn cyngor o'r fath yn well bob amser na gwrando ar sibrydion a dyfalu sy'n aml yn anwybodus. Yn arbennig, fe fyddwn i'n annog pobl i edrych ar y cyngor sydd ar gael cyn mynd i geisio diagnosis, sydd, wrth gwrs, yn achosi'r risg o wastraffu adnoddau cyfyngedig y GIG. Rydym yn parhau i gynnig profion cymunedol i bobl yn eu cartrefi nhw eu hunain. Yn ogystal â hynny, mae 111 ar gael ledled Cymru erbyn hyn i gael cyngor ar y coronafeirws.

Mae'r Prif Weinidog a minnau'n parhau i fynd i gyfarfodydd COBRA. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda Gweinidogion y DU, llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon, ein prif swyddogion meddygol ni, ac asiantaethau iechyd cyhoeddus, ledled y pedair gwlad.

Ni ddylai unrhyw un fod dan unrhyw gamargraff am y bygythiad y mae'r coronafeirws yn ei ymgorffori. Mae risgiau amlwg a difrifol i iechyd pobl, gan gynnwys, yn enwedig, bobl sydd eisoes yn agored i niwed. Ac mae achosion ehangach hefyd yn achosi'r risg o amharu ar gymdeithas a'r economi ar raddfa fawr.

Ni fydd yr achosion hyn yn diflannu yn gyflym ac fe fydd y sefyllfa'n gwaethygu cyn iddo wella. Ond, ar yr un pryd, rydym wedi hen baratoi ar gyfer achosion fel hyn, ac rydym yn dysgu mwy am y feirws penodol hwn bob dydd. Mae'r wybodaeth honno, ynghyd ag ymroddiad ein gweithwyr iechyd proffesiynol ni ac eraill ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a'r sector annibynnol, yn ein galluogi i leihau'r risgiau gymaint ag y gallwn ni. Fe fyddaf i, wrth gwrs, yn parhau i roi'r wybodaeth lawn i'r Aelodau a phobl Cymru am unrhyw gamau y byddwn ni'n eu cymryd yma yn y Llywodraeth.