Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Gweinidog, ac am fod mor barod i roi diweddariadau i mi, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, yn ystod y sefyllfa sydd ohoni. Gan fynd trwy eich datganiad chi, mae gennyf i nifer o gwestiynau. A wnewch chi gadarnhau ar ba lefel y bydd aelodau'r GIG yng Nghymru a thimau cynllunio ac ymateb y gwasanaethau cymdeithasol—mewn geiriau eraill, a oes ganddyn nhw'r awdurdod i sicrhau y bydd pethau'n digwydd yn y GIG? A wnewch chi gadarnhau nifer y gwelyau ynysu a fydd ar gael inni ar hyn o bryd drwy'r GIG yn ei gyfanrwydd? Oherwydd rwy'n tybio bod ynysu yn bur wahanol i ofal dwys, gan mai nhw yw'r rhai sydd o fewn y muriau gwydr, felly roeddwn i eisiau eglurhad ar hynny.
Roeddwn i'n falch iawn o weld y cyfarpar diogelu personol yn cael ei ddosbarthu i feddygfeydd a fferyllfeydd. Tybed pa bryd y gallech chi ystyried eu rhoi nhw i weithwyr gofal cartref a gweithwyr gofal mewn cartrefi preswyl, a pha gyngor a fyddech chi'n ei roi i berchnogion cartrefi preifat o ran pa ragofalon y dylen nhw fod yn eu cymryd.
Roeddech chi'n sôn am y dechnoleg i ategu hyn, ac mae'n rhaid imi ddweud bod y gwiriwr symptomau yn un da iawn, oherwydd fe roddais i gynnig ar ei ddefnyddio, ac rwy'n credu ei fod yn glir iawn ac rwy'n eich cymeradwyo chi ar hynny. Wrth gwrs, ni fydd gan lawer iawn o bobl hŷn o reidrwydd y modd i ddefnyddio technoleg gwybodaeth na'r gallu i'w ddefnyddio, felly tybed beth y gallech chi ei roi ar waith, neu pa gyfarwyddiadau y byddech chi'n eu rhoi i bobl hŷn nad ydyn nhw'n gallu defnyddio'r gwiriwr symptomau a'r hyn y dylen nhw ei wneud. Rwy'n tybio y byddwch chi'n dweud '111' wrthyf i, ac, unwaith eto, hoffwn i gael rhywfaint o eglurhad yn hynny o beth. Fe fues i mewn cyfarfod o staff Ysbyty Wrecsam Maelor yr wythnos diwethaf, a chyfarfod ag un neu ddau o bractisau meddygon teulu hefyd, ac roedden eu neges nhw i mi am effeithlonrwydd 111 yn y Gogledd yn un eithaf amwys. Fe ddywedodd rhai fod y rhif 0845 yn cael ei ddargyfeirio ac nad oedden nhw'n argyhoeddedig bod 111 ar gael yn gyffredinol. Felly, efallai y gallech chi gadarnhau hynny, er mwyn inni allu symud ymlaen gyda'r mater hwnnw.
Ac, unwaith eto, wrth inni sôn am bobl hŷn, rwy'n sylweddoli nad rhywbeth ar gyfer nawr yw hyn, ond yn ystod yr wythnosau nesaf, a wnewch chi siarad gyda sefydliadau fel arweinyddion archfarchnadoedd neu a ydych chi wedi cynnal unrhyw drafodaethau â nhw o bosibl i sefydlu rhyw fath o ffordd i bobl hŷn, sy'n gorfod aros gartref oherwydd bod ganddyn nhw risgiau iechyd difrifol fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, neu oherwydd eu bod nhw'n boblogaeth risg uwch, i allu archebu nwyddau o'r archfarchnad dros y ffôn a'u cael wedi'u hanfon atyn nhw? Oherwydd, unwaith eto, gwn fod nifer sylweddol o bobl hŷn yn fy etholaethau i nad ydyn nhw'n gallu defnyddio offer technoleg gwybodaeth i archebu o un o'n hoff archfarchnadoedd ni.
Mae gen i gwestiwn penodol yr hoffwn ei ofyn ynglŷn â'r gweithlu. Mewn datganiad blaenorol, fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn bwriadu defnyddio gwirfoddolwyr a staff sydd wedi gadael y GIG yn ddiweddar. Felly, fe fydd ganddyn nhw wybodaeth sy'n gyfredol. A wnewch chi gadarnhau y bydd meddygon locwm yn cael cynnig contractau a fydd yn eu hamddiffyn nhw a'u teuluoedd pe bai yna salwch difrifol neu hyd yn oed farwolaeth pe byddent yn digwydd marw wrth roi gwasanaeth fel hyn? A fyddwch chi'n rhoi ystyriaeth i hynny wrth symud ymlaen? Un peth yw gofyn i feddyg teulu sydd wedi ymddeol neu ymgynghorydd sydd wedi ymddeol neu nyrs sydd newydd ymddeol ddod yn ôl i mewn i weithio shifft, ac fe fyddem yn gallu cael tystysgrif addasrwydd i ymarfer iddyn nhw'n gyflym—rwy'n deall hynny i gyd ac fe fydd hynny yn digwydd, mae'n siŵr—ond hefyd mae angen inni eu hamddiffyn pe bai'r gwaethaf yn digwydd. Felly, a wnewch chi gadarnhau y byddwch chi efallai'n ystyried y maes hwn?
Rydych chi hefyd wedi siarad am y cyfle i bobl ymgynghori drwy fideo, sy'n gam pwysig iawn ymlaen yn fy marn i. Ond, unwaith eto, a ydych chi'n rhoi rhywfaint o ystyriaeth i ba gynlluniau a allai fod ar waith ar gyfer yr ardaloedd hynny lle nad oes cysylltedd fideo, oherwydd nad yw'r seilwaith ar gael, ac a gaf i roi rhestr i chi o sawl man gwan yn fy etholaeth i lle na fyddai hynny'n bosibl mewn gwirionedd?
Mae llawer o gwestiynau i'w holi ynglŷn â'r coronafeirws, ac nid wyf yn mynd i gymryd llawer mwy o'ch amser chi. Fy nghwestiwn olaf i yw, wrth gwrs, fod De Korea o'r farn fod y gwaethaf drosodd iddyn nhw, a'u bod nhw am weld gostyngiad nawr; maen nhw'n dawel hyderus. Maen nhw wedi bod yn effeithiol iawn yn y ffordd y maen nhw wedi ymdrin â'r sefyllfa. Mae ganddyn nhw strwythur cymdeithasol sy'n wahanol, a diwylliant sy'n wahanol, ond un o'r pethau a wnaethant oedd defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i helpu i olrhain cleifion y nodwyd bod ganddynt y coronafeirws. Yn amlwg, nid wyf yn gwybod—rwy'n cymryd eu bod wedi cael caniatâd—ond roeddent yn olrhain eu hynt nhw, ac yna gallent geisio defnyddio'r math hwnnw o dechnoleg i ganfod pwy arall a allai fod mewn perygl. A wnewch chi ddweud wrthym a oes gennych unrhyw syniadau neu beidio yn yr wythnosau nesaf? Fel y dywedaf i, nid nawr—rwy'n sylweddoli nad yw hyn ar waith ar hyn o bryd—ond rydym i gyd yn cydnabod y bydd y feirws hwn yn ymledu. Fe fydd y sefyllfa'n gwaethygu ac mae'r pethau a grybwyllais i'n bethau y gallem ni eu gwneud efallai i helpu i olrhain neu liniaru, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oeddech chi wedi bod yn edrych ar rywle fel De Korea, sy'n credu bod y gwaethaf drosodd iddyn nhw, er mwyn dysgu'r arfer gorau ar gyfer ein helpu ni i reoli'r sefyllfa, neu o leiaf i sefydlogi'r sefyllfa, yn ein gwlad ni.