Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 10 Mawrth 2020.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad a diolch am y briffio sy'n cael ei roi i fi a llefaryddion eraill yn ystod y mater yma?
Gaf i ddweud hanesyn wrthoch chi am feddyg wnaeth gysylltu efo fy swyddfa i i gwyno ynglŷn â llinell 111, oherwydd ei bod hi wedi delio efo claf a oedd wedi gorfod talu £10 i ffonio'r rhif 0845 achos bod 111 ddim yn gweithio, a doedd y claf ddim yn gallu defnyddio ffôn landline ar y pryd? Mi oedd y claf arbennig yma a'i gŵr wedi dod yn ôl o'r Eidal yn ddiweddar, lle'r oedden nhw wedi bod ar wyliau efo cyfeillion. Ar ôl dod adref, mi wnaeth y cyfeillion hynny, a oedd yn byw yn Lloegr, gael eu profi a'u profi'n negyddol am COVID-19. Mi gafodd y cleifion yng Nghymru wedyn annwyd a chur pen a ffonio'r rhif 0845, ond mi ddywedwyd wrthyn nhw nad oedden nhw yn debygol o fod mewn risg ac nad oedd angen iddyn nhw gael eu profi. Ond oherwydd bod y cyfeillion yn Essex wedi cael eu profi, mi deimlon nhw y dylen nhw gymryd camau pellach eu hunain. Mi benderfynon nhw yrru i Ysbyty Gwynedd, siarad efo nyrs yn y fan honno a wnaeth roi triage iddyn nhw ar y ffôn. Mi wnaeth y meddyg wedyn wisgo ffedog a menig a mynd allan i'r car i sicrhau bod profion neu ddiagnosis yn gallu cael ei roi iddyn nhw. A beth rydyn ni wedi'i glywed oedd bod yna ddiffyg dealltwriaeth hyd yn oed ymhlith staff mewn ysbyty, mewn gofal meddygol y tu allan i oriau, er enghraifft, ynglŷn â beth yn union i'w wneud mewn achosion fel hyn. Mae hynny'n fater o bryder, wrth gwrs, os ydy'r staff eu hunain ar y llinell flaen yn teimlo nad ydy'r cyngor ganddyn nhw i'w roi i bobl, na chwaith y dillad addas i'w hamddiffyn eu hunain, er dwi'n nodi, ac yn ddiolchgar, o'r datganiad fod meddygfeydd teulu yn cael dillad addas erbyn rŵan.
Mae yna nifer o gwestiynau yn codi o'r mater yma i fi. Yn gyntaf, os ydy pobl yn methu â ffonio 111 am ryw reswm, ac yn methu â fforddio talu wedyn i ffonio'r rhif 0845, oes yna beryg ein bod ni'n methu rhai achosion? Beth ydy'r camau fydd yn cael eu gwneud er mwyn cryfhau'r ddarpariaeth 111 yna ymhellach?
Os ydy staff mewn ysbytai yn teimlo nad oes ganddyn nhw'r offer angenrheidiol i'w gwarchod eu hunain, oes yna ddisgwyliad y byddan nhw'n cael y dillad yna? Hefyd, pa gamau sydd yn cael eu gwneud i gryfhau'r ddarpariaeth mewn ysbytai ar gyfer y bobl hynny sydd yn mynd yn groes i'r cyngor sy'n cael ei roi iddyn nhw ac yn mynd i'r ysbyty beth bynnag? Oherwydd mae pobl yn mynd i wneud hynny, yn anffodus. Gobeithio mai ychydig iawn fydd yn gwneud, ond mae o'n mynd i ddigwydd. Beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau bod ysbytai yn barod am hynny?
Os caf i hefyd wneud apêl am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chapasiti gofal mwy dwys. Mae'n allweddol, dwi'n meddwl, ein bod ni ar y pwynt yma mewn amser yn sicrhau bod y capasiti yna ar gyfer gwelyau gofal mwy dwys yn cael eu darparu mewn ysbytai. Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg i ddweud bod ein profiad ni o wledydd eraill, o edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill, yn dweud wrthym ni fod y math o ofal sy'n cael ei roi i bobl ar y pwynt lle mae eu hafiechyd nhw'n troi'n ddifrifol, p'un ai ydy'r gofal yn briodol iddyn nhw ac yn ddigon da iddyn nhw ar y pryd, yn gallu gwneud y gwahaniaeth pan mae'n dod at ydyn nhw'n mynd i oroesi yr afiechyd yma. Felly, beth sydd yn cael ei wneud rŵan i sicrhau bod y capasiti yna yn cael ei adeiladu ar gyfer yr anghenion allai godi yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf ar gyfer gofal dwys yn yr ysbyty?