Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Eich pwynt cyntaf chi ynglŷn â'r tîm newydd yr wyf i wedi cyfeirio ato o fewn y Llywodraeth: y ffaith fy mod i wedi cyfarwyddo prif weithredwr GIG Cymru i sefydlu hwn, fe ddylai fod yno ddigon o statws uchel o fewn staff y GIG i wneud yn siŵr bod pobl yn ymateb gyda lefel briodol o awdurdod. Mae'n ymwneud â chydlynu'r gwaith o fewn y Llywodraeth yn ogystal â'r rhyngwyneb â'r gwasanaeth iechyd. Ac ynglŷn â'ch pwynt chi am fesurau ynysu, gan fynd yn ôl at rai o'r pwyntiau a wnaeth y Prif Weinidog mewn cwestiynau hefyd, mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â sut y dylem ni gynyddu ein capasiti i gwrdd â phobl, ond mae angen inni drin pobl mewn modd gwahanol hefyd. Y bobl a fyddai fel arfer yn dod i mewn i ysbyty i gael eu gofal—efallai y bydd angen inni drin mwy o'r bobl hynny yn eu cartrefi eu hunain mewn modd gwahanol. Felly, mewn gwirionedd, nid wyf i'n credu y dylem fod ag obsesiwn o ran nifer y gwelyau sydd gennym ni ar hyn o bryd ond o ran ein gallu ni ar draws y system gyfan, mewn gwirionedd, i allu trin mwy o bobl, a beth y mae hynny yn ei olygu, a'r dewisiadau amrywiol o ran triniaethau y bydd angen inni eu darparu, a'r hyn y bydd angen inni ei wneud wedyn mewn gwirionedd, er enghraifft, ynghyd â rheoleiddwyr a cholegau brenhinol hefyd.
O ran y cyfarpar diogelwch personol ar gyfer meddygfeydd teulu a fferyllfeydd, a'r hyn y gallai hynny ei olygu i bobl eraill sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â grwpiau risg—mae hynny'n rhan o'r sgyrsiau yr ydym yn eu cael, nid yn unig gyda'r staff sy'n gweithio mewn gofal cartref a gofal preswyl, ond hefyd yn un o'ch pwyntiau diweddarach chi am y gwaith gydag archfarchnadoedd. Rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion eisoes i gael y sgyrsiau hynny ynglŷn â chael nwyddau i bobl a allai fod yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod maith, ond mae'n ymwneud hefyd â'r gwaith y bydd angen i lywodraeth leol yn benodol ei wneud, o ran cynllunio ar gyfer newid yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n darparu gwasanaethau yng nghartrefi pobl eisoes, naill ai oherwydd eu bod nhw'n darparu'r gofal hwnnw'n uniongyrchol, neu'n comisiynu gofal, a sut y bydd angen iddyn nhw gynllunio ar gyfer dull arall o ddarparu gwasanaethau—unwaith eto, gyda llai o staff o bosib rywdro, ond o bosibl hefyd gyda chynnydd yn y galw a ddaw drwy eu drysau nhw hefyd.
O ran eich pwynt chi ynglŷn â defnyddio TG, mae'r camau a gymerwyd gennym i ddarparu darn o feddalwedd sy'n gyson ledled y system yn gam mawr ymlaen, ond nid yw hynny'n golygu bod pawb yn gallu ei ddefnyddio. Rydych chi'n iawn i nodi bod yna rai pobl sydd naill ai heb offer TG neu nad ydynt yn gallu ei ddefnyddio'n effeithiol am nifer o resymau. Felly, mae pethau hefyd—[Anghlywadwy.]—pobl eraill hefyd. Ac eto, her yw honno sydd nid yn unig yn wynebu'r gwasanaeth iechyd, ond yn wynebu amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus eraill hefyd.
Ac o ran eich pwynt chi ynglŷn â gallu defnyddio'r gwiriwr symptomau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu amrywiaeth o bosteri eisoes sy'n rhoi cyngor ac yn sôn am y symptomau, felly nid fforwm ar-lein yn unig yw hyn. Rwyf wedi gweld ar fy nhaith ddiweddar i'r gogledd yr hyn y mae hynny'n ei olygu, ac ym Maes Awyr Caerdydd—lle maen nhw'n weladwy; credaf eu bod nhw'n glir iawn—ond mae amrywiaeth o fusnesau wedi defnyddio'r un posteri gwybodaeth hefyd. Ac mae hynny'n mynd yn ôl at y pwyntiau a wnaed yn flaenorol ynglŷn â chyngor clir a chyson wrth ddefnyddio cyngor o ffynhonnell wybodaeth y gellir ymddiried ynddi. Felly rwyf i wedi fy nghalonogi'n fawr gan y ffordd y mae'r cyngor syml a chlir iawn hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn ystod eang o feysydd.
Ac rwy'n hapus i ailadrodd y pwynt ynglŷn ag 111. Gwasanaeth i Gymru gyfan yw hwn—gwasanaeth i Gymru gyfan ar gyfer coronafeirws. Felly, os yw pobl yn gofidio, fe allan nhw ffonio'r rhif hwnnw o unrhyw ran o Gymru i gael cyngor ac arweiniad.
O ran yr adroddiad am indemniad ar gyfer pobl sy'n staff locwm, rwy'n hapus i archwilio'r maes hwnnw ymhellach i weld a oes angen newid unrhyw un o'n trefniadau presennol ni ar gyfer sicrhau bod y niferoedd iawn o staff gennym yn y mannau iawn i ddarparu gofal a thriniaeth a hefyd i roi sicrwydd i bobl.
Ac o ran eich pwynt olaf chi ynglŷn â dysgu oddi wrth wledydd eraill, nid oddi wrth Dde Korea yn unig, ond drwy'r holl fyd—roedd hynny'n rhan o'r drafodaeth yn COBRA yr wythnos hon. Mae'n rhan o'r trafodaethau yr wyf i wedi eu cael yn rheolaidd gyda'r prif swyddog meddygol, gan fod cyngor, a ymddengys yn amrywio ychydig, yn cael ei roi mewn gwahanol rannau o'r byd, ond mae'n golygu dysgu oddi wrth bobl hefyd am wahanol gamau'r achosion. Yn wir, fe fydd gwaith Sefydliad Iechyd y Byd yn bwysig iawn yn hyn o beth. Ond yn sicr rydym am gael ein cysylltu â'r cyngor gorau posib, nid yn unig ledled y DU, ond yn rhyngwladol hefyd, ynglŷn â gwersi y gallwn ni eu dysgu—ac rydym ychydig ar ei hôl hi o'i gymharu â rhannau eraill o'r byd gyda'r achosion hyn—i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud dewisiadau gwell yma, neu y gallwn ni ddeall yn well y dewisiadau y byddwn ni'n anochel yn eu hwynebu. Felly, ydy, mae hyn yn bwysig yn y sefyllfa sydd ohoni nawr. Fe fydd yn bwysig wedi hynny hefyd. Felly, pan fydd yr achosion o'r coronafeirws wedi cyrraedd ei anterth yn y DU ac ar draws y byd, mae angen inni ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd a deall beth fydd angen ei wneud yn well yn y dyfodol.