Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 10 Mawrth 2020.
Yn sicr, ydw. Yn sicr, ydw, ac fe fyddwn i'n dweud wrth yr Aelod hefyd, rwy'n croesawu diddordeb y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y maes awyr. Ac o ran pryd y dylai'r benthyciadau hynny ddechrau cael eu had-dalu, mae'n amlwg mai lle'r maes awyr yw barnu beth sydd o fudd ariannol gorau iddo, ac mae'r ateb hwn wedi'i roi, yn sicr, i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
Nawr, cyn siarad ymhellach am fanylion Maes Awyr Caerdydd ei hun, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn rhoi'r ddadl hon yn y cyd-destun cywir y mae'n ei haeddu. A Dirprwy Lywydd, rydym ni yn wynebu heriau ar raddfa fyd-eang: mae ein hinsawdd yn newid yn gyflym; rydym ni'n gweld yr effaith nawr y mae'r coronafeirws yn ei gael ar yr economi ac ar bobl y byd hwn; mae Brexit yn ail-lunio ein cysylltiadau masnachu ac allanol mewn modd sylfaenol iawn; ac yn ddiweddar rydym ni wedi gweld gwrthod tri darn mawr o waith ehangu ym meysydd awyr Heathrow, Stansted a Bryste—i gyd ar sail amgylcheddol. Felly, mae hyn oll yn creu nid yn unig amodau heriol i'r farchnad ar gyfer hedfan, fel y dangosodd cwymp diweddar Flybe, ond yn codi cwestiynau pwysig am swyddogaeth polisi hedfan yng Nghymru. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol, i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r sail dystiolaeth ynghylch allyriadau carbon y maes awyr, i edrych ar sut y gallai Maes Awyr Caerdydd ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer hedfan carbon isel, ac, wrth gwrs, i ddeall swyddogaeth a photensial Maes Awyr Caerdydd yn ein bodolaeth ar ôl Brexit.
Mae uwch gynllun Maes Awyr Caerdydd ar gyfer 2040 yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r holl heriau hyn, gan gynnwys y potensial ar gyfer creu cyfnewidfa drafnidiaeth gynaliadwy a hefyd ynni cynaliadwy mewn perchnogaeth leol. Mae bod yn berchen ar y maes awyr yn rhoi cyfle unigryw i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd o ran datblygu atebion carbon isel a thechnolegol i'r diwydiant. Ac rydym yn cynnal trafodaethau, rwy'n falch o ddweud, gyda phrifysgolion a phartneriaid yn y diwydiant sy'n awyddus i ddefnyddio'r maes awyr yn gyfrwng arbrofi cyffrous.
Mae pwysigrwydd cymdeithasol strategol Maes Awyr Caerdydd i'w weld fwyaf yn y cyswllt sy'n cael ei greu rhwng gogledd a de Cymru. Mae'r cyswllt hwn yn bwysig i'r cysylltiadau cymdeithasol ac economaidd rhwng gogledd a de ein gwlad. Ac mae'r ehediad, rwy'n falch o ddweud, wedi gweld cynnydd yn nifer y teithwyr o dan Eastern Airways, a gafodd y contract yn ddiweddar am bedair blynedd arall. Hefyd, mae Maes Awyr Caerdydd bellach yn gyfrifol am weithredu cyfleuster terfynfa teithwyr Maes Awyr Ynys Môn.
Ond wrth droi'n ôl at Flybe, hoffwn ddweud ein bod yn cydymdeimlo â'r gweithwyr a'r teithwyr sydd wedi dioddef yn sgil ei gwymp. Rydym yn gresynu bod methiant Llywodraeth y DU i ymyrryd yn sefyllfa Flybe wedi arwain at ganlyniadau mor ddinistriol. Credwn fod hyn yn nodweddiadol o'r polisi negyddol sydd ganddi mewn perthynas â meysydd awyr rhanbarthol a chysylltedd rhanbarthol ledled y Deyrnas Unedig. Mae rhyddid gan Lywodraeth y DU i amrywio'i dehongliad o reolau cymorth gwladwriaethol i gyd-fynd â gweddill Ewrop, ac i gael gwared ar y costau rheoleiddio sy'n faich ar feysydd awyr rhanbarthol llai. Felly, unwaith eto, galwaf ar Lywodraeth y DU i ddatganoli toll teithwyr awyr i Gymru, fel y mae wedi gwneud ar gyfer yr Alban ac ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'r maes awyr yn ased cenedlaethol gwerthfawr, strategol ac yn un y dylem i gyd fod yn eithriadol o falch ohono.