9. Dadl: Maes Awyr Caerdydd

– Senedd Cymru ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Caroline Jones. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:46, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Symudaf yn awr i eitem 9, sef dadl ar Faes Awyr Caerdydd, a galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i gynnig y cynnig—Ken Skates.

Cynnig NDM7290 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i Gymru.

2. Yn croesawu’r ffaith bod Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd bellach yn gyfrifol am weithredu cyfleuster terfynfa Maes Awyr Ynys Môn ac yn cydnabod y cyswllt awyr rhanbarthol pwysig rhwng gogledd a de Cymru.

3. Yn cydnabod bod dros 1700 o bobl yn cael eu cyflogi ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a’r £250m o werth ychwanegol gros y mae’n ei gyfrannu at economi Cymru.

4. Yn cytuno ei bod yn allweddol cefnogi Maes Awyr Caerdydd er budd economi fasnach Cymru ar ôl Brexit, a hynny fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel, integredig ac o’r radd flaenaf yng Nghymru.

5. Yn nodi dull Llywodraeth y DU o ymyrryd er mwyn achub cwmni Flybe ond yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd gam ymhellach er mwyn gwella cystadleurwydd, drwy gefnogi cost rheoleiddio ym meysydd awyr llai y DU, fel sy’n digwydd ar draws Ewrop.

6. Yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i gytuno o’r diwedd i ddatganoli’n llawn y Doll Teithwyr Awyr i Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:46, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gefnogi Maes Awyr Caerdydd, sy'n rhan hanfodol o seilwaith economaidd a thrafnidiaeth Cymru, a hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy wneud un pwynt clir iawn. Yn 2013, byddai'r maes awyr, pe bai wedi parhau o dan y rheolaeth fasnachol ar y pryd, wedi cau. Byddai wedi cau. Byddai swyddi wedi cael eu colli. Byddem wedi colli'r brif ffordd o hedfan i dde Cymru, a byddai busnesau, allforwyr a theithwyr wedi colli'r cyfle i ddefnyddio maes awyr yn nes at eu cartrefi a'u hadeiladau na Bryste a Heathrow, a llawer o feysydd awyr eraill.

Ers i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy i achub y maes awyr, rydym ni wedi buddsoddi ynddo, ac wedi cyflawni gwelliannau i gyfleusterau adeilad y derfynfa a'r rhedfa. Mae'r diwydiant awyrennau wedi cydnabod y buddsoddiad hwnnw ac mae hynny wedi arwain at gyfres o gwmnïau hedfan yn sefydlu llwybrau newydd o Faes Awyr Caerdydd i gyrchfannau ledled y byd.

Mae Maes Awyr Caerdydd bellach yn cefnogi dros 2,000 o swyddi yn uniongyrchol ac yn 2018 cyfrannodd bron i £0.25 biliwn o werth ychwanegol crynswth i'n heconomi. Ond mae effaith gatalytig y maes awyr hyd yn oed yn fwy arwyddocaol, gyda dadansoddiad economaidd yn awgrymu bod Maes Awyr Caerdydd yn werth hyd at £2.4 biliwn i economi'r DU. Mae'n cyfrannu at 5,500 o swyddi yn y gadwyn gyflenwi a chyfanswm o 52,000 o swyddi yn yr economi ehangach. Felly, dyma'r amser, rwy'n credu, beth bynnag yw ein safbwyntiau gwleidyddol, i ddod ynghyd i gefnogi'r ased economaidd hanfodol a'r darn strategol hwn o seilwaith trafnidiaeth.

Nawr, yn oriau mân dydd Mercher diwethaf, cyhoeddwyd y newyddion trychinebus bod Flybe wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae'n wir y bydd Flybe yn effeithio ar Faes Awyr Caerdydd o ran nifer y teithwyr. Ond rwyf eisiau llongyfarch y tîm maes awyr am fynd ati'n gyflym i sicrhau llwybr o Gaerdydd i Gaeredin gyda Loganair. Ac rwy'n falch o ddweud, Dirprwy Lywydd, bod trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda chwmnïau awyrennau eraill, a'r wythnos diwethaf cefais drafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidog hedfan y DU. Rwyf wedi siarad ar sawl achlysur â Phrif Weithredwr a Chadeirydd y maes awyr i drafod sut y gallwn ni gefnogi trafodaethau ar y niferoedd sy'n hedfan ar y gwahanol lwybrau; yn fwyaf diweddar, brynhawn ddoe. Ac er colli Flybe, mae'r effaith ariannol yn ymwneud ag ychydig o dan 6 y cant o drosiant y maes awyr. Mae hyn yn dyst i'r cynllunio a'r rheoli rhagorol yn y maes awyr.

Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu craffu. Mae'n addas a phriodol bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar Lywodraeth Cymru. Mae'n addas a phriodol hefyd y creffir arnom ninnau o ran ein stiwardiaeth o arian cyhoeddus a'r amgylchedd. Mae hefyd yn addas a phriodol ein bod yn trafod dyfodol y maes awyr. Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, nid yw'n addas na phriodol bychanu'r maes awyr. A gaf i egluro nad ydym yn gwastraffu miliynau o bunnau o arian trethdalwyr? Rydym ni'n buddsoddi yn nyfodol tymor hir y maes awyr i ddarparu benthyciad masnachol sydd angen ei ad-dalu, gyda llog, i'r trethdalwr. Arferwyd diwydrwydd dyladwy ac mae'r cymorth yn unol â rheolau'r UE ar gymorth gwladwriaethol. Ac rwyf eisiau cydweithio â'r Aelodau i gefnogi Maes Awyr Caerdydd, a hoffwn ofyn i'r Aelodau ystyried y cynnig hwn wrth i'r ddadl hon barhau. Nick Ramsey.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 3:50, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am dderbyn yr ymyriad. Fel y gwyddoch chi, a minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sydd wedi bod yn ystyried y mater hwn yn ddiweddar, yn sicr nid oes gennym ni fel pwyllgor ddim diddordeb mewn bychanu Cymru na bod yn negyddol er mwyn bod yn negyddol. Byddwch yn gwybod, fodd bynnag, ein bod wedi gofyn i swyddogion, o ran y benthyciadau hynny a'r benthyciadau ad-daladwy hynny—rydym yn derbyn bod angen benthyciadau, ond mae'n bwysig bod eglurder o ran pryd y dechreuir talu'r benthyciadau hynny'n ôl a diwedd y broses honno hefyd. Felly, a ydych chi'n derbyn bod problem yn y fan yma y mae angen mynd i'r afael â hi, ac, ydych, rydych chi'n gwneud yn iawn wrth fuddsoddi yn y maes awyr, ond a ydych chi'n cytuno bod angen i'r cyhoedd fod yn ffyddiog nad yw'r broses honno, mewn gwirionedd, yn siec wag?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, ydw. Yn sicr, ydw, ac fe fyddwn i'n dweud wrth yr Aelod hefyd, rwy'n croesawu diddordeb y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y maes awyr. Ac o ran pryd y dylai'r benthyciadau hynny ddechrau cael eu had-dalu, mae'n amlwg mai lle'r maes awyr yw barnu beth sydd o fudd ariannol gorau iddo, ac mae'r ateb hwn wedi'i roi, yn sicr, i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

Nawr, cyn siarad ymhellach am fanylion Maes Awyr Caerdydd ei hun, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn rhoi'r ddadl hon yn y cyd-destun cywir y mae'n ei haeddu. A Dirprwy Lywydd, rydym ni yn wynebu heriau ar raddfa fyd-eang: mae ein hinsawdd yn newid yn gyflym; rydym ni'n gweld yr effaith nawr y mae'r coronafeirws yn ei gael ar yr economi ac ar bobl y byd hwn; mae Brexit yn ail-lunio ein cysylltiadau masnachu ac allanol mewn modd sylfaenol iawn; ac yn ddiweddar rydym ni wedi gweld gwrthod tri darn mawr o waith ehangu ym meysydd awyr Heathrow, Stansted a Bryste—i gyd ar sail amgylcheddol. Felly, mae hyn oll yn creu nid yn unig amodau heriol i'r farchnad ar gyfer hedfan, fel y dangosodd cwymp diweddar Flybe, ond yn codi cwestiynau pwysig am swyddogaeth polisi hedfan yng Nghymru. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol, i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r sail dystiolaeth ynghylch allyriadau carbon y maes awyr, i edrych ar sut y gallai Maes Awyr Caerdydd ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer hedfan carbon isel, ac, wrth gwrs, i ddeall swyddogaeth a photensial Maes Awyr Caerdydd yn ein bodolaeth ar ôl Brexit.

Mae uwch gynllun Maes Awyr Caerdydd ar gyfer 2040 yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r holl heriau hyn, gan gynnwys y potensial ar gyfer creu cyfnewidfa drafnidiaeth gynaliadwy a hefyd ynni cynaliadwy mewn perchnogaeth leol. Mae bod yn berchen ar y maes awyr yn rhoi cyfle unigryw i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd o ran datblygu atebion carbon isel a thechnolegol i'r diwydiant. Ac rydym yn cynnal trafodaethau, rwy'n falch o ddweud, gyda phrifysgolion a phartneriaid yn y diwydiant sy'n awyddus i ddefnyddio'r maes awyr yn gyfrwng arbrofi cyffrous.

Mae pwysigrwydd cymdeithasol strategol Maes Awyr Caerdydd i'w weld fwyaf yn y cyswllt sy'n cael ei greu rhwng gogledd a de Cymru. Mae'r cyswllt hwn yn bwysig i'r cysylltiadau cymdeithasol ac economaidd rhwng gogledd a de ein gwlad. Ac mae'r ehediad, rwy'n falch o ddweud, wedi gweld cynnydd yn nifer y teithwyr o dan Eastern Airways, a gafodd y contract yn ddiweddar am bedair blynedd arall. Hefyd, mae Maes Awyr Caerdydd bellach yn gyfrifol am weithredu cyfleuster terfynfa teithwyr Maes Awyr Ynys Môn.

Ond wrth droi'n ôl at Flybe, hoffwn ddweud ein bod yn cydymdeimlo â'r gweithwyr a'r teithwyr sydd wedi dioddef yn sgil ei gwymp. Rydym yn gresynu bod methiant Llywodraeth y DU i ymyrryd yn sefyllfa Flybe wedi arwain at ganlyniadau mor ddinistriol. Credwn fod hyn yn nodweddiadol o'r polisi negyddol sydd ganddi mewn perthynas â meysydd awyr rhanbarthol a chysylltedd rhanbarthol ledled y Deyrnas Unedig. Mae rhyddid gan Lywodraeth y DU i amrywio'i dehongliad o reolau cymorth gwladwriaethol i gyd-fynd â gweddill Ewrop, ac i gael gwared ar y costau rheoleiddio sy'n faich ar feysydd awyr rhanbarthol llai. Felly, unwaith eto, galwaf ar Lywodraeth y DU i ddatganoli toll teithwyr awyr i Gymru, fel y mae wedi gwneud ar gyfer yr Alban ac ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'r maes awyr yn ased cenedlaethol gwerthfawr, strategol ac yn un y dylem i gyd fod yn eithriadol o falch ohono.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:54, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Russell.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r newyddion bod Flybe wedi galw'r gweinyddwyr ac yn mynegi pryder ynghylch yr effaith andwyol bosibl a gaiff hyn ar ddyfodol Maes Awyr Caerdydd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth gynhwysfawr ar gyfer Maes Awyr Caerdydd gyda'r nod o'i dychwelyd i'r sector masnachol ar y cyfle cyntaf ac ar elw i drethdalwyr Cymru, ac y dylai'r strategaeth gynnwys cynlluniau i:

a) buddsoddi yn seilwaith cyfalaf y maes awyr er mwyn galluogi'r maes awyr i arallgyfeirio a chynhyrchu ffynonellau refeniw newydd;

b) cefnogi'r broses o ddatblygu llwybrau, gan flaenoriaethu cyswllt hedfan uniongyrchol ag UDA ac un i Fanceinion o ystyried ei statws fel prif ganolfan yng ngogledd Lloegr sy'n gwasanaethu gogledd Cymru;

c) datblygu strategaeth farchnata newydd ar gyfer y maes awyr;

d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli a dileu'r doll teithwyr awyr;

e) gwella cysylltiadau trafnidiaeth i'r maes awyr er mwyn gwneud y maes awyr yn fwy hygyrch drwy fuddsoddi mewn cysylltiadau gwell o ran ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:54, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth am ddod â'r ddadl hon gerbron heddiw? Rwy'n credu bod hon yn ddadl briodol i'w chael, ac rwyf hefyd yn gwerthfawrogi, pan gyflwynodd y Llywodraeth y ddadl hon, bryd hynny, nad oedd Flybe wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, sy'n golygu, wrth gwrs, ei bod hi'n bwysicach fyth ein bod yn cael y ddadl hon heddiw. Ac fel y dywedodd y Gweinidog, mae hi hefyd yn briodol talu teyrnged i staff ymroddgar Flybe, a hefyd i'r cwsmeriaid ffyddlon, wrth gwrs. Ac rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o bryder a llawer o waith i'w wneud o hyd, ac rwy'n falch bod y Gweinidog wedi amlinellu nifer o gyfarfodydd a gafodd yr wythnos diwethaf o ran y gefnogaeth ar gyfer rhagor o ehediadau i'r maes awyr ac oddi yno. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu.

Rwy'n sicr yn gobeithio y caiff ein gwelliannau ni, y Ceidwadwyr Cymreig, i'r ddadl hon heddiw eu hystyried yn rhai adeiladol. Rwyf yn credu eu bod felly. Dyma ein cynllun ni o'r meinciau hyn o ran yr hyn y credwn y dylai'r maes awyr fod yn ei wneud. Wrth wneud hynny, dylwn hefyd, Dirprwy Lywydd, gynnig ein gwelliannau, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Ond rwy'n credu bod llawer y gallwn ni gytuno arno rhwng meinciau'r Llywodraeth a'n meinciau ni, ac mewn gwirionedd rhwng Aelodau eraill hefyd. Rwy'n credu bod gennym ni i gyd yr un dyheadau hirdymor ar gyfer y maes awyr. Dywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol, beth bynnag yw ein barn benodol, bod arnom ni eisiau cefnogi'r maes awyr, ac rwy'n cytuno â hynny. Mae llawer y gallwn ni gytuno yn ei gylch. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni efallai'n anghytuno arno yw sut yr ydym yn cyflawni'r amcanion yr ydym ni ein dau eisiau eu gweld.

Dywedaf ar goedd, wrth gwrs, mai ein barn ni yw y dylid dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i berchnogaeth breifat. Wrth ddweud hynny hefyd, byddai'n fuddiol efallai cael rhywfaint o eglurhad o safbwynt y Llywodraeth ynghylch hynny, oherwydd mae'n sicr—a chywirwch fi ar bob cyfrif—

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:56, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Mewn munud, gwnaf. Cywirwch fi ar bob cyfrif, ond yn sicr roedd y Prif Weinidog blaenorol, yn ôl yr hyn a ddeallais, yn gweld Maes Awyr Caerdydd yn cael ei ddychwelyd i berchnogaeth breifat, ond nid wyf yn siŵr beth yw safbwynt y Llywodraeth nawr.

Mae dau ymyriad nawr. Ildiaf i Mick yn gyntaf.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch am dderbyn yr ymyriad ynglŷn â'ch barn ideolegol, yn llythrennol, am breifateiddio. Ond a fyddech yn cytuno y bu preifateiddio'r maes awyr yn 1995 yn drychineb llwyr?

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad gan Carwyn Jones hefyd. [Chwerthin.] Fe wnaf i ateb hynny.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar. Dau bwynt byr. Yn gyntaf oll, i'ch atgoffa wrth gwrs fod maer Ceidwadol Dyffryn Tees wedi prynu maes awyr Teeside ac wedi'i frandio fel maes awyr i'r bobl. Tybed sut y mae hynny'n cyd-fynd â'i ddadl. Yn ail, dim ond fel mater o wybodaeth, yr hyn a ddywedais pan oeddwn yn Brif Weinidog gynt—nid wyf nawr—yw mewn amser y byddai'n bosib gwerthu cyfranddaliadau yn y maes awyr ond cadw 50 y cant ac un gyfran yn nwylo'r Llywodraeth er mwyn cadw cyfran reolaethol.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:57, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch am yr eglurhad yna. Byddai'n ddefnyddiol cael gwybod gan y Gweinidog, ar ddiwedd y ddadl hon, os mai dyna yw safbwynt y Llywodraeth hefyd.

O ran y maes awyr arall y soniodd Carwyn Jones amdano, wrth gwrs, fe brynwyd hwnnw am bris teg. Nid wyf yn gwybod beth yw manylion y maes awyr penodol hwnnw, ond yr hyn a ddywedaf yw hyn: rydym ni, ar y meinciau hyn yn y fan yma, yn credu y byddai Maes Awyr Caerdydd yn cael ei redeg orau mewn perchenogaeth breifat. Dydym ni ddim yn credu bod Llywodraethau'n dda—. Dydyn nhw ddim yn arbenigwyr ar hedfan a chredwn fod y maes awyr yn cael ei redeg yn well mewn perchnogaeth breifat. Ond rwy'n sylweddoli, fel y dywedodd Mick Antoniw, bod gwahaniaeth athroniaeth o ran ein safbwynt ar hyn. Gallwch barhau i gefnogi maes awyr heb brynu maes awyr, wrth gwrs.

Ond gadewch i ni hefyd gael dadl onest yn y Siambr hon am ble yr ydym ni arni hefyd. Yn y gorffennol mae'r Llywodraeth wedi sôn am y cynnydd yn nifer y teithwyr. Ydy, mae'n wych bod niferoedd y teithwyr yn cynyddu, ond gadewch i ni gofio bod nifer y teithwyr yn 2007 yn 2.1 miliwn ac mae cynlluniau ac amcanestyniadau'r Llywodraeth ei hun yn dweud wrthym y byddwn yn cyrraedd y ffigur hwnnw o 2 filiwn, y dywedir wrthym sy'n ffigur pwysig o ran y trothwy elw, pan fydd y maes awyr yn gwneud elw drachefn, dywedwyd wrthym yn wreiddiol y byddai hynny yn 2021, nawr dywedir wrthym y bydd hynny yn 2025. Felly, mae'n rhaid i ni roi rhai o'r ffigurau hyn mewn cyd-destun. Yn aml mae llawer o ystumio, mae arnaf ofn, ynghylch rhai o'r ystadegau a welwn yn nhermau'r maes awyr.

Gadewch i ni fod yn realistig hefyd am sefyllfa ariannol y maes awyr. Ers iddo fod ym mherchnogaeth y Llywodraeth, bu colledion cyn treth bob blwyddyn tra bu ym mherchnogaeth y Llywodraeth, a £18.5 miliwn o golledion cyn treth y llynedd. Hefyd, wrth gwrs, yn 2014 roedd asedau net y maes awyr yn werth £48 miliwn ac erbyn hyn maen nhw'n werth—yn ôl mantolen y maes awyr—£15.7 miliwn. Rwy'n sylweddoli'r hyn y mae Gweinidog y Llywodraeth yn ei ddweud o ran gwerth y maes awyr o ran manteision economaidd ehangach eraill, ond gadewch inni gofio'r ystadegau hyn hefyd ar yr un pryd.

Rwy'n sylweddoli bod fy amser yn prinhau, ond rwy'n credu fy mod wedi derbyn ymyriad. A yw hi'n iawn imi gael ychydig funudau yn fwy?

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:59, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Na, na, cewch orffen eich araith mor gyflym ag y gallwch chi a byddaf yn dweud wrthych pan fyddwch wedi mynd dros eich amser. Ewch ymlaen.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Dim ond ceisio rhywfaint o arweiniad oeddwn i. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

Ond, yn sicr o ran ein cynllun ar gyfer y maes awyr, mae gennym ni nifer o bwyntiau y byddem yn eu cyflwyno. Yn gyntaf oll, byddem yn buddsoddi yn seilwaith cyfalaf y maes awyr er mwyn galluogi'r maes awyr i arallgyfeirio a chynhyrchu ffynonellau refeniw newydd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Gallai'r maes awyr hwn, wrth gwrs, fod yn symbol o fri mawr ac yn borth i Gymru, a chytunaf yn aml â phwyntiau y mae Carwyn Jones yn eu gwneud o ran y canfyddiad bod gan Gymru faes awyr. Hyd yn oed os nad yw hynny o bosib yn gwasanaethu Cymru gyfan, mae mater o ganfyddiad yn y fan honno, a byddwn yn cytuno'n llwyr â hynny. Ceir hefyd y gefnogaeth y byddai Llywodraeth Geidwadol Cymru, yn sicr, yn ei rhoi o ran blaenoriaethu hediadau uniongyrchol i UDA ac un i Fanceinion. Mae Manceinion yn arbennig o bwysig, o ystyried ei statws fel canolfan yng ngogledd Lloegr, sydd hefyd yn gwasanaethu gogledd Cymru. Byddem hefyd yn datblygu strategaeth farchnata newydd ar gyfer y maes awyr. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig hefyd, ac, i ddweud ar goedd, byddem yn bendant, ni'r Ceidwadwyr Cymreig, yn ceisio cael Llywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr ac, unwaith y caiff ei datganoli, i gael gwared arni hefyd. Felly, rwy'n sylweddoli ein bod ni o farn wahanol, o farn groes, i Lywodraeth y DU, ond dyna ein sefyllfa ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn y fan yma. Rwy'n credu—[Torri ar draws.] Ni allaf—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:01, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Na. Na, mae ymhell dros ei amser.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

—neu buaswn i'n hapus gwneud hynny. Ac, yn olaf, byddem hefyd eisiau gweld gwelliannau o ran cysylltiadau trafnidiaeth i'r maes awyr o ran rheilffyrdd, ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Ond rydym ni ar y meinciau hyn yn credu y dylid cael enillion teg am arian y trethdalwyr, y buddsoddiad. Talodd pob trethdalwr yng Nghymru £38.50 am y buddsoddiad gwreiddiol hwnnw ym Maes Awyr Caerdydd, a byddem eisiau gweld hynny, wrth gwrs, yn cael ei ddychwelyd i drethdalwyr Cymru.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar David Rowlands i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. David.

Gwelliant 2—Caroline Jones

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig;

Yn edrych ar Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i wneud elw blynyddol o leiaf ar y lefel weithredu, h.y. cyn costau cyllid.

Gwelliant 3—Caroline Jones

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod partner sector preifat i helpu i weithredu Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a chymryd cyfran leiafrifol ynddo o fewn 5 mlynedd.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:01, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i agor drwy ddweud y bydd y Blaid Brexit yn cefnogi cynnig y Llywodraeth? Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr, er bod nifer y byddem yn eu cefnogi, wrth inni sylwi ar eironi eu galwad ar i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn seilwaith y maes awyr, o gofio eu gwrthwynebiad mynych i strategaeth fuddsoddi y Llywodraeth yn y gorffennol ar gyfer y maes awyr. Hoffem gyfeirio yn y fan yma at ein record ni o ran cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i brynu'r maes awyr, a sicrhaodd ei ddyfodol yn ddi-os. Ar wahân i effaith economaidd y maes awyr ar Gymru yn gyffredinol ac ar greu swyddi yn y rhanbarth, credwn fod Maes Awyr Caerdydd yn chwarae rhan hollbwysig o ran cyflwyno Cymru i'r byd.

Er yr ymddengys fod ein gwelliant cyntaf wedi'i gyflawni, gan fod cadeirydd y maes awyr, Roger Lewis, wedi cadarnhau hyn yn y sesiwn friffio a gynhaliwyd gan swyddogion y maes awyr yr wythnos diwethaf, mae ein hail welliant yn galw ar i Lywodraeth Cymru geisio buddsoddiad preifat o fewn pum mlynedd, ond hoffem ddweud yn y fan yma y dylai hyn fod ar sail leiafrifol, gyda Llywodraeth Cymru yn cadw o leiaf 51 y cant o'r ecwiti. Credwn mai dyma fyddai'r unig ffordd i sicrhau fod y maes awyr yn goroesi yn y tymor hir. Rydym ni hefyd eisiau cydnabod y bydd digwyddiadau diweddar, megis cwymp Thomas Cook ac, yn fwy diweddar, Flybe, yn cael effaith tymor byr i dymor canolig ar gyllid y maes awyr, fel y gallai'r posibilrwydd o effaith drychinebus yn deillio o epidemig y coronafeirws. Ni all neb ond dyfalu, pe bai'r maes awyr wedi aros mewn dwylo preifat, y byddai ei union fodolaeth wedi bod mewn perygl. Dylem hefyd gydnabod y gall fod angen i'r Llywodraeth roi rhagor o gymorth ariannol i'r maes awyr yn y tymor byr pe bai'r sefyllfa o ran y coronafeirws yn un ddifrifol. Fodd bynnag, byddem yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU, yn y fath sefyllfa, yn ymrwymo i gefnogi'r diwydiant awyr yn gyffredinol. 

Rydym ni hefyd yn cefnogi'r galwadau gan y Llywodraeth a'r Ceidwadwyr ar i'r DU ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Mae eu safiad presennol yn un nad oes modd ei amddiffyn o gwbl, o gofio bod y dreth hon, ers tro, wedi cael ei datganoli i seneddau'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn olaf, rydym yn galw am fuddsoddiad arall gan Lywodraeth Cymru i sefydlu mynediad llawer gwell i'r maes awyr, gyda chyswllt uniongyrchol o'r M4, a hyd yn oed y posibilrwydd o gyswllt rheilffordd. Gallai buddsoddiad o'r fath effeithio'n fawr ar lwyddiant y maes awyr.  

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:04, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddweud bod gennyf ddiddordeb ers tro byd yn y maes awyr, oherwydd, pan oedd yn eiddo cyhoeddus, pan roedd y tair sir yn berchen arno, roeddwn yn aelod o bwyllgor y maes awyr ar y pryd, a minnau'n gynghorydd? Rwy'n cofio'r adroddiadau blynyddol, mewn gwirionedd, am fuddsoddiad cyhoeddus i ddatblygu'r maes awyr ac i ariannu'r rhedfa ryngwladol fawr gyntaf a alluogodd i jymbo-jetiau lanio. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, ehangodd y maes awyr hwnnw ac, mewn gwirionedd, roedd niferoedd ei deithwyr bryd hynny yr un faint â Bryste. Felly, mae'n ffaith ryfeddol bod gennych chi faes awyr cyhoeddus a oedd yn rhan o gynllun economaidd integredig, a oedd yn gwasanaethu'r cyhoedd a busnesau yng Nghymru, ac wedyn gwnaed penderfyniad ideolegol rhyfedd gan y Llywodraeth Dorïaidd fod yn rhaid ei werthu.

Rwy'n sylweddoli, pan ddywedais wrth Russell George wrth ymyrryd fod y preifateiddio'n drychineb—. Sylweddolaf ei fod yn ei chael hi'n anodd cyfaddef fod hynny'n wir, ond rydych chi'n gwybod ac rwyf innau'n gwybod y bu yn drychineb llwyr. Mewn gwirionedd—

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, os gwelwch yn dda, yn sicr.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Y pwynt yw y gallai'r Llywodraeth—a dweud y gwir, pob Llywodraeth—fod wedi gwneud mwy i gefnogi'r maes awyr yn ystod y cyfnod hwnnw, megis cysylltiadau ffyrdd, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, cysylltiadau rheilffyrdd. Gallai pob Llywodraeth o bob lliw fod wedi gwneud mwy i gefnogi'r maes awyr pan oedd mewn perchenogaeth breifat, ac efallai na fyddem ni wedi cyrraedd y sefyllfa yr ydym ni ynddi nawr.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n falch o glywed eich cefnogaeth i fuddsoddiad yn ein meysydd awyr, ond dydych chi ddim—[Torri ar draws.] Ond dydych chi ddim wir yn ateb y pwynt bod y preifateiddio'n drychineb, yn union fel y bu preifateiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd yn drychineb, yn union fel y bu preifateiddio'r bysiau yn drychineb llwyr.

Yn 2012—y flwyddyn ddiwethaf yr oedd mewn perchenogaeth breifat—dioddefodd golled yn y flwyddyn honno o bron i 17 y cant yn nifer y teithwyr. Mae'n hollol gywir: ni fyddai gennym ni, yng Nghymru nawr, faes awyr rhyngwladol pe bai'r Torïaid wedi bod yn rhedeg y wlad. Byddem hefyd wedi colli 2,500 o swyddi, byddem wedi colli cyfraniad cannoedd o filiynau o bunnoedd i economi Cymru, byddem wedi colli cydran allweddol yn natblygiad diwydiant hedfan sydd mewn gwirionedd yn eithaf pwysig yn fy etholaeth. Felly, roedd y penderfyniad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru—gan Lywodraeth Lafur—i ymyrryd a thrwsio'r difrod hwnnw yn sylfaenol bwysig.

Nawr, pan drosglwyddwyd y maes awyr i berchnogaeth gyhoeddus, beirniadodd yr Aelod Torïaidd o Senedd Ewrop dros y de-orllewin, Ashley Fox, Lywodraeth Cymru am ei achub, oherwydd ei fod yn herio maes awyr Bryste. Felly, mae'r Torïaid yn Lloegr yn cefnogi eu maes awyr rhanbarthol mewn gwirionedd. Ni allwch ond breuddwydio am Blaid Geidwadol Gymreig yn cefnogi maes awyr a diwydiant yng Nghymru? Eu—[Torri ar draws.] Eu gwaseidd-dra llwyr. A dyna wirionedd y sefyllfa—mae maes awyr Bryste wedi ffynnu ar draul preifateiddio Maes Awyr Caerdydd.

Nawr, mae angen inni symud ymlaen, oherwydd bod gennym ni Qatar Airways, sydd wedi cael effaith sylweddol iawn ar y maes awyr, ac, wrth gwrs, dywed prif swyddog gweithredol Qatar Airways yn y bôn y dylai gael ei adael mewn perchenogaeth gyhoeddus, oherwydd byddai ei breifateiddio yn ei roi mewn perygl o fod ar drugaredd cronfeydd rhagfantoli a'r marchnadoedd rhyngwladol.

Does dim dwywaith bod y diwydiant maes awyr yn wynebu cyfnod anodd. Nid oes amheuaeth nad ydym yn dal dan anfantais oherwydd penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n amau bod dylanwad y Torïaid dros Fryste yn effeithio ar hynny mewn gwirionedd. Ond nid oes amheuaeth, ers i ni ei gymryd i berchnogaeth gyhoeddus, y bu twf o 60 y cant yn nifer y teithwyr yn y maes awyr. Bellach mae ganddo swyddogaeth mewn cynllun economaidd. Mae buddsoddi yn y maes awyr nid yn unig yn angenrheidiol ond yn gymedrol. Mae'r £38 miliwn a fuddsoddwyd ym Maes Awyr Caerdydd, o'i gymharu â'r £500 miliwn o ddyledion sydd gan faes awyr Bryste, yn gymhariaeth dda, rwy'n credu, ac rwy'n credu bod angen i ni fuddsoddi mwy.

Ond y gwir amdani yw bod y buddsoddiad hwnnw neu'r benthyciadau hynny a wneir ar gyfradd fasnachol, oherwydd byddai eu gwneud fel arall yn torri naill ai rheolau'r UE neu'n torri rheolau cymorth gwladwriaethol Sefydliad Masnach y Byd. Felly, Dirprwy Lywydd, mae'r maes awyr wedi dod yn ased economaidd pwysig iawn i ni. Mae hefyd—. Mae'n rhaid dweud: beth fyddai statws Cymru, y wlad hon yr ydym ni'n ei chynrychioli, pe na bai gennym ni faes awyr rhyngwladol, pe na allem ni ddod â phobl flaenllaw yn rhyngwladol—pobl flaenllaw yn y byd chwaraeon, yr economi a gwleidyddiaeth—i'n maes awyr ein hunain, byddai'n rhaid inni ddweud, 'Na, rhaid ichi ddargyfeirio drwy Fryste'?

Dirprwy Lywydd, hanfod y mater yw hyn: bu bron i'r Torïaid ddinistrio ein maes awyr. Rydym ni wedi achub y maes awyr hwnnw. Mae dyfodol i'r maes awyr erbyn hyn. Yn sicr, mae'n gyfnod anodd, ond rwy'n gwybod y bydd yn goroesi, ac mae'n gorfod goroesi, oherwydd bod ganddo Lywodraeth sy'n ei gefnogi ac sy'n ei werthfawrogi.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:09, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n bleser cael cyfrannu at y ddadl hon. Roeddwn braidd yn or-awyddus yn gynharach fel y cyfeiriais un o'm pwyntiau gwreiddiol, a dweud y gwir, at y Gweinidog yn fuan wedi iddo ddechrau siarad. Taniodd fy mrwdfrydedd gymaint fel ei fod yn gwybod beth yw fy safbwynt i ynglŷn â hyn.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:10, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n gwbl amlwg bod maes awyr fel Caerdydd yn ddarn pwysig nid yn unig o seilwaith trafnidiaeth Cymru, ond hefyd o seilwaith trafnidiaeth y DU hefyd, ac yn wir, wrth gwrs, fel cysylltiad i rannau eraill o'r byd ac, yn fwy diweddar, i Qatar drwy'r cysylltiadau a wnaed â'r cwmni awyrennau hwnnw, wrth gwrs, gan ddod yn ganolfan fyd-eang hefyd. Ac nid wyf yn credu bod cyllid yn broblem. Wrth gwrs, mae angen cymorth ar faes awyr fel hwnnw ac, wrth gwrs, fel y dywedodd Mick Antoniw, mae benthyciadau masnachol yn rhan o hynny, oherwydd, wrth gwrs, gyda rheolau cymorth gwladwriaethol, bydd yn rhaid i'r rheini fod o natur fasnachol.

Y mater y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi edrych yn fanwl arno yw cynaliadwyedd hirdymor y math hwnnw o gyllid, a beth fyddai'n digwydd, yn bwysig iawn, ar adeg yn y dyfodol pryd na fyddai'r benthyciadau hynny ar gael. Os edrychwn ni yn fanwl ar y benthyciadau a roddwyd, mae'r maes awyr bellach wedi defnyddio'r cyfleuster benthyca o £38 miliwn yn llawn. Credaf fod y £21.2 miliwn diweddaraf wedi cael ei gyfuno â'r cyfleuster presennol, er yr hoffai'r Gweinidog efallai gadarnhau hynny, gan fod rhai cwestiynau wedi codi ynghylch hynny yn ystod cyfarfod diweddar y pwyllgor.

Felly, yn bwysig, beth yw'r strategaeth ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn y dyfodol, ac ar ba adeg na fydd y benthyciadau hyn ar gael mwyach? Gwneuthum y pwynt yn gynharach am siec wag, ac mae'n bwysig i'r cyhoedd fod yn ffyddiog y bydd y maes awyr, rywbryd yn y dyfodol, naill ai yn parhau i gael ei ariannu a bod hynny'n rhan o'r strategaeth, ac efallai yr hoffai Llywodraeth Cymru ddweud mai dyna sut y tybiwn y bydd yn goroesi yn y dyfodol, neu bydd yn gallu sefyll ar ei draed ei hun. Mae'n debyg nad dyna'r ymadrodd priodol yn y cyd-destun hwn, ond rwy'n credu mai dyna fydd ystyriaeth y cyhoedd, a dyna beth mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei ystyried, o ran hyfywedd y darn hwn o seilwaith.

Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar fenthyciad arall o £6.8 miliwn rwy'n credu. Felly, mae mwy o arian yn mynd tuag at y maes awyr. Nid ydym ni ond wedi gweld yn ddiweddar, gyda chanlyniadau Flybe, pa bynnag strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei datblygu, a sut bynnag yn y dyfodol y mae'n gweld y weledigaeth honno ar gyfer y maes awyr yn datblygu, mae'n rhaid iddi fod yn ddigon cydnerth i ymdopi ag ergydion yn y dyfodol, megis cwymp cwmni hedfan. Gall methiant cwmni hedfan gael effaith gwbl anghymesur ar rediad a hyfywedd ariannol maes awyr, llawer mwy nag mewn unrhyw fath arall o seilwaith trafnidiaeth neu ganolfan drafnidiaeth. Cawsom dystiolaeth gan Roger Lewis a gadarnhaodd hynny—mewn gwirionedd, o ran rhedeg maes awyr, y gallai'r posibilrwydd o drychineb colli un cwmni awyrennau gael effaith fawr.

Cawsom ein calonogi, mae'n rhaid i mi ddweud, nad yw Caerdydd, yn wahanol i rai meysydd awyr eraill, mewn gwirionedd mor ddibynnol—gallaf weld y Gweinidog yn nodio. Nid yw mor ddibynnol ar un cwmni hedfan ag y mae meysydd eraill, ac rwy'n credu bod hynny wedi dangos ymhle y gwnaed cynnydd mewn gwirionedd gyda'r maes awyr hwnnw. Rwy'n gwybod fod Llywodraeth Cymru, yn aml, i bob golwg yn credu bod yr ochr hon i'r Siambr yn rhy negyddol o hyd, yn bychanu Cymru—gallaf weld Mick Antoniw yn nodio; rwy'n mynd i wyrdroi hynny mewn munud—ac nid edrych ar yr ochr ddisglair, ond, mewn gwirionedd, rwy'n barod i dderbyn, a minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y gwnaed rhai newidiadau da, ac, ar rai adegau yn y gorffennol, nid oedd y maes awyr hwnnw yn edrych yn hyfyw, felly mae pethau wedi gwella ac mae strwythurau wedi'u rhoi ar waith. Ond mae'n bwysig yn y dyfodol fod yna weledigaeth ar gyfer y maes awyr hwnnw sy'n cefnogi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei wneud ag ef.

A gaf i sôn am y doll teithwyr awyr? Roedd y cyn-Brif Weinidog, a gyfrannodd yn gynharach at y ddadl hon, yn hoffi siarad, pan oedd yn Brif Weinidog, am yr offer yn y blwch offer, ynghyd â'r Gweinidog cyllid blaenorol, ac mae'r doll teithwyr awyr yn amlwg yn ddarn pwysig iawn o offer yn y blwch offer hwnnw. Cytunaf â phobl eraill sydd wedi siarad ar bob ochr i'r Siambr, gan gynnwys yr ochr hon, y dylid datganoli hynny. Mae'n hurt y gall rannau eraill o'r Deyrnas Unedig fanteisio ar y math hwnnw o ddatganoli trethu ond na all y Gweinidog trafnidiaeth yn y fan yma, na'r Gweinidog cyllid. Nid yw hynny'n deg, nid yw hynny'n iawn, ac rydym ni wedi eich cefnogi'n gyson wrth ddweud y dylid datganoli hynny. Rwy'n credu pe bai'r doll teithwyr awyr wedi'i datganoli i Lywodraeth Cymru, yna byddai o leiaf yn cynyddu'r dewisiadau sydd ar gael i chi o ran cefnogi darnau o seilwaith mawr fel Maes Awyr Caerdydd. Ac, er lles pob un ohonom ni, er lles Llywodraeth Cymru, er lles y cyhoedd, er lles pawb ohonom ni sy'n cyfrannu at y dadleuon hyn dros fisoedd lawer, credaf ein bod ni, yn y dyfodol, eisiau cyrraedd sefyllfa lle y bydd y maes awyr hwnnw, ie, yn cael ei ariannu, ond yn dod yn gynaliadwy yn y pen draw fel y gall Cymru gael maes awyr y gall hi ymfalchïo ynddo.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 4:15, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Codaf ar yr achlysur hwn i gefnogi cynnig y Llywodraeth—ac ni fydd y meinciau hyn yn cefnogi unrhyw rai o welliannau eraill y gwrthbleidiau—yn anarferol i mi. Bydd rhai Aelodau nad ydynt yn fy adnabod i yn ogystal ag eraill yn synnu'n fawr o glywed fy mod wrth fy modd gyda rhywfaint o gonsensws. Mae wedi bod yn dda iawn gweld bod elfen o gonsensws ynglŷn â'r ddadl hon. Rydym ni i gyd yn cytuno bod angen maes awyr hyfyw ar ein cenedl a'r rhan hon o'n cenedl; efallai bod gennym ni wahaniaethau barn o ran sut yr ydym ni eisiau gweld y maes awyr hwnnw'n cael ei redeg yn y tymor hir. Mae wedi bod yn galonogol iawn gweld, Dirprwy Lywydd, fod gennym ni gonsensws ynglŷn â datganoli'r doll teithwyr awyr.

Allwn ni ddim gwneud heb faes awyr. Yn y tymor hwy, gwyddom i gyd fod angen inni leihau nifer y teithiau awyr rydym ni'n eu gwneud, ond mae tystiolaeth academaidd glir a chyson hefyd fod rhanbarthau heb eu maes awyr eu hunain yn dioddef o achos hynny. Dyna'r agwedd ymarferol ar bobl yn mynd a dod, ond dyna'r neges honno hefyd—ac mae eraill wedi sôn am hyn—ac mae angen cyfleu'r neges honno bod Cymru ar agor i fusnes, ein bod ni yma. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni atgoffa ein hunain o'r hanes yma: does dim amheuaeth o gwbl y byddem ni wedi colli'r maes awyr hwnnw pe na bai Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd. Mae hynny'n gwbl glir. A gan fentro chwalu'r consensws hwn, rwy'n cytuno'n llwyr â Mick Antoniw: nid oedd preifateiddio'r maes awyr erioed y peth cywir i'w wneud; byddai wastad yn heriol, pan oedd ganddo gystadleuydd mor agos ym Mryste, i'w wneud yn hyfyw heb elfen o gefnogaeth gyhoeddus.

Nawr, ar y meinciau hyn, rydym yn fodlon iawn fod y darn mawr hwn o seilwaith yn eiddo cyhoeddus, oherwydd ein bod yn ymwybodol iawn, fel y mae eraill, fod hyn yn arferol. Mewn llawer o rannau eraill o'r byd datblygedig, mae'n gwbl arferol i Lywodraethau fod yn berchen ar ddarnau allweddol o seilwaith, gan eu cefnogi a'u rhedeg, er y gwneir hyn o hyd braich, gan fod y llywodraethau hynny'n gwybod na ellir ymddiried yng ngrymoedd y farchnad bob amser i ddarparu ar gyfer y bobl. Weithiau maen nhw'n gwneud hynny, ond yn yr achos hwn, mae'n amlwg na fyddent wedi gwneud hynny, a byddem yn amlwg wedi bod heb faes awyr.

Hoffwn sôn yn fyr am ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Fel rwyf wedi'i ddweud, rwy'n falch iawn o glywed meinciau'r Ceidwadwyr yn ei gefnogi'n llwyr. Fel y dywedodd rhywun, mae hi'n anghyfiawn ac nid oes modd amddiffyn y ffaith fod gan bob rhan arall o'r DU yr arf hwn y gallant ei ddefnyddio ym mha bynnag ffordd y gwelant yn dda. Ac mae llawer o ffyrdd y gellid ei ddefnyddio: gellid ei ddefnyddio i ddenu cludwyr newydd; gellid ei ddefnyddio i gosbi pobl sy'n hedfan yn rhy aml neu sy'n hedfan am resymau diangen. Ond mae angen i ni wneud y penderfyniadau hynny yn y fan yma. Nid yw'n briodol.

Nawr, rwy'n tybio fy mod ychydig yn bryderus, o ystyried bod ein cyd-Aelodau Ceidwadol wedi dweud wrthym y buont yn eiriol dros hyn ers tro, yr ymddengys y cânt eu hanwybyddu ar ben arall yr M4, a tybed fod a wnelo hyn ag obsesiwn ymddangosiadol cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru â rhanbarthau economaidd trawsffiniol. Tybed a oedd ganddo ychydig gormod o ddiddordeb efallai yn hyfywedd tymor hir maes awyr Bryste, nid ein bod yn dymuno unrhyw ddrwg i faes awyr Bryste, ond os yw'n fater o naill ai/neu, rwy'n gwybod i ble rwyf i eisiau cyfeirio ein hadnoddau. 

Rwy'n obeithiol, fodd bynnag, o gofio'r hyn a ddywedwyd heddiw, gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd, gyda neges glir iawn gan Lywodraeth Cymru, ond heddiw gan y Cynulliad hwn, y gallwn ni anfon y neges honno yn glir iawn at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd a gofyn iddo ddadlau dros y sefyllfa hon. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn un y gellir ei hamddiffyn. Nid yw'n deg, mewn unrhyw fodd, ac yn y tymor hir ni fydd yn gweithio.

O ran pwyntiau 5 a 6 yn y cynnig, hoffwn ddweud ychydig bach mwy am bwynt 5. Roedd sefyllfa Flybe yn siomedig, ac rwyf eisiau diolch i'r Gweinidog heddiw, oherwydd mae wedi ein hysbysu'n gyson o'r datblygiadau. Pan glywsoch fod chwarter yr hediadau a adawai'r maes awyr yn awyrennau Flybe, roedd hi'n adeg o wir bryder. Fel y mae eraill wedi dweud, rhaid inni feddwl am y bobl hynny sydd mewn perygl o golli eu swyddi, er fy mod yn deall—ac efallai y gall y Gweinidog gadarnhau hyn heddiw—fod rhai o'r swyddi hynny, y rhai ym Maes Awyr Caerdydd, eisoes wedi'u diogelu gan gwmnïau awyrennau eraill; a'r teithwyr y tarfodd hyn yn fawr arnynt—pobl na allent fynd i gyfweliadau am swydd, pobl na allent fynd i achlysuron teuluol. Ond, wrth gwrs, efallai na fyddai'r bobl hynny wedi gallu mynd o gwbl pe na bai gennym ni faes awyr. Ond, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni.

Mae hyn yn codi'r cwestiwn a gadwodd Llywodraeth San Steffan ei haddewid i gyfranddalwyr Flybe ai peidio, ond credaf ei bod yn deg dweud bod hon yn farchnad heriol iawn. Nid hwn yw'r cwmni rhanbarthol cyntaf i fynd i'r wal. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw ein bod yn cadw hyfywedd ein maes awyr. Roeddwn yn falch o glywed gan y Gweinidog nad yw mor ddinistriol ag y meddyliem y gallai fod.

Felly, rydym ni'n hapus heddiw i gefnogi'r Llywodraeth i gefnogi'r maes awyr ac i gefnogi'r cynnig. Mae angen i ni, fel yr wyf wedi dweud, hedfan llai, ond er mwyn i hynny fod yn bosib mae angen i ni gael cysylltedd rhanbarthol mwy effeithiol. Nes bydd gennym ni hynny, os nad oes gennym ni ein maes awyr ein hunain, bydd pobl yn hedfan o fannau eraill, felly mae maes awyr ffyniannus yn hanfodol i bob un ohonom ni. Byddwn yn cefnogi cynnig y Llywodraeth heddiw, a byddwn yn eu cefnogi wrth iddynt barhau i gefnogi'r maes awyr. Bydd y Gweinidog, wrth gwrs, yn disgwyl inni graffu'n drwyadl arno o ran sut y mae'n gwneud hynny.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:20, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n dda gweld bod undod sylweddol o ran cefnogi ein maes awyr rhyngwladol, ac rwy'n credu ei bod hi'n dda clywed Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cydnabod rhai o'r newidiadau a wnaed i wneud y maes awyr yn hyfyw. Mae'n gwbl wir, pe na byddai Llywodraeth Cymru wedi cymryd yr awenau ym 2013, y byddai'r maes awyr wedi cau. Diwedd y stori.

Rhaid inni gydnabod bod tua 2,500 o swyddi'n cael eu cynnal yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yma yn ne Cymru. Yn yr amgylchiadau economaidd anodd yr ydym ni ynddynt ar hyn o bryd, mae hynny'n refeniw pwysig iawn. Gwyddom o'r drafodaeth a gawsom ni gydag uwch reolwyr gweithredol Maes Awyr Caerdydd ddydd Llun yr wythnos diwethaf eu bod eisoes yn ennill mwy o arian nag y mae'n ei gostio i redeg y maes awyr, ac mai dyna fu'r achos dros y tair blynedd diwethaf. Felly, mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn, oherwydd pe bai hynny ddim yn wir yna yn amlwg gallai'r sefyllfa fod yn un anodd iawn.

Gwyddom mai'r ffigur allweddol yw oddeutu 1.6/1.7 miliwn o deithwyr y flwyddyn. Felly, yn amlwg, rydym ni mewn sefyllfa beryglus ar hyn o bryd o ganlyniad i'r coronafeirws, sy'n amlwg yn amharu ar bopeth o ran economi'r byd. Ond mewn gwirionedd dim ond £36.2 miliwn, Nick Ramsay, y mae Maes Awyr Caerdydd wedi ei fenthyg o'r £38 miliwn posib—dyna a glywsom ni yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae angen inni roi'r benthyciad masnachol hwnnw o £36.2 miliwn yng nghyd-destun yr hyn y mae meysydd awyr rhanbarthol eraill yn ei wneud o ran dyled. Fe wnaethom ni ddysgu yr wythnos diwethaf fod gan Lerpwl ddyled o £102 miliwn; Newcastle £367 miliwn; Leeds Bradford £125 miliwn; a maes awyr Bryste £590 miliwn o ddyled.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

(Cyfieithwyd)

Dim ond o ran eich pwynt blaenorol yn y fan yna, mae'r ystadegyn sydd gennyf o'm blaen yn bendant yn dweud bod Llywodraeth Cymru bellach wedi benthyca'r £38 miliwn hwnnw yn ei gyfanrwydd, ond rwy'n barod i drafod hynny gyda chi'n ddiweddarach. Efallai fy mod wedi camddeall, ond credaf fod yr arian hwnnw wedi ei fenthyca.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:23, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

O'r gorau. Cytunaf fod £1 miliwn neu £2 filiwn yn llawer o arian, ond credaf mai'r pwynt yw eu bod yn dal o fewn y swm o arian y cytunwyd arno eisoes gyda Llywodraeth Cymru, yn dilyn cwymp Thomas Cook.

Felly, does dim amheuaeth bod cwymp Thomas Cook, ac yn wir Flybe, ac ar ben hynny y coronafeirws, yn gohirio'r amserlen o ran pryd y gall y cwmni ad-dalu'r benthyciad i Lywodraeth Cymru. Ac roedd rheolwyr gweithredol y cwmni'n berffaith onest am hynny, er bod hynny cyn inni wybod am dranc Flybe.

Ond i bob cwmni sy'n methu mewn amgylchiadau masnachol arferol, mae un arall sydd o bosib yn elwa. Felly, rydym ni wedi gweld TUI yn cynyddu nifer y teithiau awyr o Gaerdydd. Rydym ni wedi gweld Loganair yn mabwysiadu rhai o lwybrau Flybe. Bydd yna bob amser gwmnïau masnachol a fydd yn gweld poen rhywun arall fel cyfle busnes, ac mae hynny'n hollol dderbyniol.

Cytunaf â Mick Antoniw y dylai cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod wedi cael ei ddisgrifio'n fwy cywir fel Ysgrifennydd Gwladol Bryste a'r de-orllewin, oherwydd ymddangosai fod ganddo lawer mwy o ddiddordeb yn yr ardal honno. Pam mae Aelod Seneddol Bro Morgannwg yn casáu ei faes awyr lleol gymaint, ef ei hun a ŵyr? Efallai fod yr awyrennau'n hedfan dros ei dŷ. [Chwerthin.]

Ond mae llawer o resymau pam mae Caerdydd yn fwy tebygol o oroesi'r anawsterau presennol i bob cwmni hedfan ym mhob cwr o'r byd na llawer o feysydd awyr rhanbarthol eraill yn y DU; sef oherwydd bod sawl nodwedd o Faes Awyr Caerdydd yn ei gwneud yn safle llawer gwell yn y tymor hir. Un yw'r rhedfa anhygoel o hir sydd gennym ni, sy'n hirach o lawer na'r rhedfa ym Mryste neu Birmingham, sy'n golygu ei bod yn ddelfrydol ar gyfer cwmnïau awyrennau sy'n teithio pellteroedd hir. Beth bynnag fo'r argyfwng newid hinsawdd, mae'n anodd rhagweld y bydd pob un ohonom ni y mae angen iddo deithio i'r Unol Daleithiau yn mynd ar gwch. Mae'r angen i rai pobl fynd ar awyren yn mynd i barhau. Felly, mae'r rhedfa hir hon—sydd wedi'i lleoli'n bennaf dros y môr a thir amaethyddol, sy'n golygu ei bod yn tarfu llawer llai na maes awyr mewn ardal adeiledig—yn golygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer rhedfeydd yn y dyfodol.

Ar ben hynny, mae ganddo'r berthynas â chanolfan gynnal a chadw British Airways, ac mae ganddo'r gallu i fod yn ganolfan arloesi. Er enghraifft, buom yn trafod y podiau teithio awtomatig sy'n gweithredu yn Heathrow, y gellid eu defnyddio i gysylltu gorsaf y Rhws â therfynfa'r maes awyr, a fyddai'n goresgyn un o'r gwendidau sydd gan Faes Awyr Caerdydd ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod hwn yn faes awyr gyda dyfodol, a'i fod yn fuddsoddiad da iawn gan Lywodraeth Cymru.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:26, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Yn olaf, Rhianon Passmore.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd hi'n galonogol clywed gan y Gweinidog nad yw'r newyddion diweddar a hynod anffodus fod Flybe wedi rhoi'r gorau i fasnachu ar 4 Mawrth yn effeithio ar hyfywedd cyffredinol Maes Awyr Caerdydd; ond yn yr un modd, mae awyrennau'n cael cyfnod anodd iawn, a gwyddom fod Brexit yn chwarae ei rhan yn hyn.

Ond, mae'r codi bwganod ar goedd gan y Blaid Geidwadol gyferbyn ynglŷn â dyfodol hirdymor y maes awyr wedi profi'n ddi-sail, ac nid yw'r maes awyr a'r rhai y mae eu swyddi'n dibynnu arnynt yn ei groesawu. Felly, awgrymaf hefyd nad ydym yn bychanu Cymru. Drannoeth cyhoeddiad Flybe, cadarnhaodd Maes Awyr Caerdydd ei fod wedi sicrhau cytundeb gyda Loganair i gamu i'r adwy a chynnal y gwasanaeth hanfodol hwn o Gaerdydd i Gaeredin gan ddechrau ar 23 Mawrth, felly mae'n drueni nad oedd y blaid gyferbyn yn croesawu hyn. Os ydynt yn cefnogi'r maes awyr ac yn cefnogi seilwaith Cymru, rwy'n credu y dylent ei groesawu.

Mae hi hefyd yn briodol, unwaith eto, rwy'n credu, i bwysleisio yma fod Maes Awyr Caerdydd yn wir yn ddarn pwysig o seilwaith trafnidiaeth strategol. Mae'n ased economaidd allweddol i Gymru, ac fel y cyfryw mae ei helfennau hanfodol yn gryf. Hedfanodd bron i 1.7 miliwn o deithwyr o Faes Awyr Caerdydd yn 2019. Mae hynny'n 7 y cant yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, y flwyddyn brysuraf ers 2009, ac i fyny 65 y cant ers i Lywodraeth Cymru ddechrau ymwneud â'r maes awyr. Y llynedd hefyd cafwyd twf o 34 y cant mewn refeniw masnachol yn y maes awyr. Mae'r rhain yn ffeithiau go iawn.

Mae llawer o sôn yn y Siambr hon am Gymru'n dod yn genedl aeddfed yn ei hawl ei hun yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig. Felly, pa genedl gyda'r rhithyn lleiaf o hunan-barch nad oes ganddi, neu nad yw'n dymuno cael, ei maes awyr ei hun yn gwasanaethu ei phrifddinas a'r genedl ehangach, a'r 52,000 o swyddi yn y gadwyn gyflenwi sy'n mynd gyda hynny, gan gynnwys ymchwil a datblygu? Os byddwn yn dewis osgoi ein cyfrifoldebau cenedlaethol tuag at Gymru, byddem yn sefyll o'r neilltu wrth i feysydd awyr dinasoedd rhanbarthol Lloegr fel Bryste a Chaerwysg dyfu. Rydym yn genedl gyda dyheadau ac uchelgais, ac rwy'n gwybod  na fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn gyndyn o sefyll dros Gymru. Mae'n hanfodol i economi masnachu Cymru ar ôl Brexit ein bod yn cefnogi Maes Awyr Caerdydd fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel, integredig a charbon isel.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru hefyd wedi galw'n gyson am ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru, ac rwy'n falch bod y Torïaid gyferbyn yn gefnogol o hyn bellach. Byddwn yn gofyn iddynt fynd â'r neges honno'n ôl i'w meistri yn y DU. Mae dadansoddiad arbenigol annibynnol yn dangos manteision economaidd amlwg i Gymru pe bai'r doll teithwyr awyr wedi'i datganoli, ac yn amlwg pe bai Gweinidogion Cymru wedyn yn penderfynu lleihau'r doll teithwyr awyr honno. Wrth i'r DU adael yr UE, mae datganoli'r doll teithwyr awyr yn ffordd y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo atyniad economaidd Cymru, a thwf yng Nghymru ar y cyd â pholisïau economaidd presennol Llywodraeth Cymru, ac mae'n atyniad allweddol i'n buddsoddwyr. Felly, rwy'n falch bod cefnogaeth drawsbleidiol nawr ar draws y Cynulliad i Gymru fod â'r grymoedd dros y doll teithwyr awyr.

A byddwn hefyd yn dweud—a'i roi yn syml iawn, felly—os yw Aelodau yn cefnogi Cymru, yna byddant yn cefnogi Llywodraeth Cymru a Maes Awyr Caerdydd. Mae'n bryd i ni i gyd sefyll dros Gymru, ac mae'n bryd inni roi terfyn ar fychanu Cymru.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:30, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i alw nawr ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i ymateb i'r ddadl? Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am gyfraniadau'r holl Aelodau y prynhawn yma, yn enwedig i'r Aelodau hynny sy'n cefnogi ein cynnig, ac i'r Aelodau hynny ar feinciau'r Ceidwadwyr sydd nawr yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru yn groes i bolisi Llywodraeth y DU.

Rwyf yn teimlo ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod mai ein cyfrifoldeb ar y cyd yw cefnogi a hyrwyddo'r maes awyr—nid ei fychanu ar gyfryngau cymdeithasol na'i ddefnyddio fel pêl-droed wleidyddol. Ni fyddech byth, byth, byth yn clywed gweision cyhoeddus etholedig yn lladd ar faes awyr John F. Kennedy neu faes awyr Charles de Gaulle, neu unrhyw feysydd awyr eraill y byd sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus.

Gadewch imi fod yn gwbl glir, ni fyddwn yn caniatáu i Faes Awyr Caerdydd ddod allan o reolaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac yn gweithredu ar eu rhan, Llywodraeth Cymru. Mae ein sefyllfa heddiw yn parhau i fod yn gyson â'n sefyllfa yn 2013, yn 2014, yn 2015, hyd heddiw. Rydym ni, wrth gwrs, yn agored i fuddsoddiad gan y sector preifat yn y maes awyr, a'r posibilrwydd i'r sector preifat gymryd cyfran, ond rydym ni, Llywodraeth Cymru, wedi adfer rheolaeth dros y darn holl bwysig hwnnw o seilwaith, a byddwn yn cadw rheolaeth arno ar ran pobl Cymru.

Gofynnwyd cwestiwn i mi gan Russell George—cwestiwn pwysig iawn am yr hyn y mae arbenigwyr hedfan yn ei gredu sydd er pennaf les meysydd awyr y byd: a ddylent fod yn eiddo cyhoeddus neu'n eiddo preifat. Nawr, pan soniwn am arbenigwyr, Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae'n hoffi ystyried ei hun yn arbenigwr mewn llawer iawn o bethau, ond nid ydych yn ei glywed yn rhuthro i geisio dod o hyd i brynwyr yn y sector preifat ar gyfer yr holl feysydd awyr hynny sy'n eiddo cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau. Ac fel y dywedodd Helen Mary Jones, mae perchenogaeth gyhoeddus yn norm byd-eang. Yn wir, mae tua 85 y cant o feysydd awyr y byd sy'n cludo teithwyr yn eiddo cyhoeddus.

Nawr, fe glywais David Melding yn cellwair, mi gredaf, nad yw David Rowlands yn gyfalafwr mwyach oherwydd ei fod yn gefnogol i'r maes awyr fod mewn perchnogaeth gyhoeddus, ond ni fyddech yn cyhuddo'r Arlywydd Donald Trump neu gyn-faer Efrog newydd, Rudy Giuliani, neu unrhyw un arall asgell dde sy'n cefnogi perchnogaeth gyhoeddus o feysydd awyr yn yr Unol Daleithiau o beidio â bod yn gyfalafwyr. Ni fyddech yn cyhuddo Nicolas Sarkozy ac ni fyddech wedi cyhuddo Jacques Chirac o fod yn wrth-gyfalafol am eu cefnogaeth o berchnogaeth gyhoeddus Charles de Gaulle a llawer, llawer o feysydd awyr eraill yn Ffrainc.

Nawr, ar ddechrau'r ddadl hon, cynigiais weithio ar y cyd ag Aelodau yn y Siambr hon, a dyna'r sefyllfa o hyd. Ond, os gwelwch yn dda, peidiwch â defnyddio ystadegau wedi eu dethol yn ofalus a'u cyflwyno mewn modd sydd wedi'i gynllunio i ystumio dyfodol y maes awyr. A heddiw, credaf y crybwyllwyd unwaith eto yr ystadegyn hwnnw a ddefnyddir amlaf gan y rhai sy'n dymuno bychanu'r maes awyr, ac mae'n ymwneud â'r benthyciad—y buddsoddiad—sy'n cael ei wneud yn y maes awyr. Ond fel y dywedodd Jenny Rathbone yn gwbl briodol, mae'r buddsoddiad cymharol fach hwnnw yn y maes awyr yng Nghaerdydd yn ddibwys o'i gymharu â rai o'r dyledion sydd gan lawer o feysydd awyr eraill, gan gynnwys maes awyr Bryste sydd â baich dyledion o fwy na £0.5 biliwn.

Nawr, roeddwn yn credu bod Nick Ramsay wedi gwneud sylw hollbwysig—ei bod hi'n hanfodol inni ystyried effaith cwymp unrhyw gwmnïau awyrennau pan fyddwn yn ystyried cefnogi'r maes awyr gyda benthyciadau masnachol. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau ein bod ni, yn rhan o'n gwaith diwydrwydd dyladwy, wedi profi cryfder ariannol y maes awyr petai cwmni Flybe yn mynd i'r gwellt. Nawr, nid yw Maes Awyr Caerdydd yn yr un sefyllfa ag y mae llawer o feysydd awyr rhanbarthol bach eraill ynddi heddiw o ganlyniad i gwymp Flybe—meysydd awyr fel Southampton, lle y darparwyd 95 y cant o drafnidiaeth gan Flybe, neu feysydd awyr eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg, megis Belfast neu Gaerwysg—ac mae hynny oherwydd yr arallgyfeirio sydd wedi digwydd yn y maes awyr yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd hi'n ddiddorol yr wythnos diwethaf, Dirprwy Lywydd, fod y BBC wedi ail-redeg stori ar-lein o 2018. Roedd y pennawd rywbeth yn debyg i 'Byddai cwymp Flybe yn drychinebus i Faes Awyr Caerdydd'. Nid yw hynny'n wir heddiw, ond byddai wedi bod yn wir yn 2018. Rwyf yn argyhoeddedig, petai'r Ceidwadwyr wedi ennill yr etholiad yn 2016 ac wedi gwerthu'r maes awyr ar ôl yr etholiad hwnnw, yna heddiw, o ganlyniad i gwymp Flybe, y byddai'r maes awyr wedi mynd i'r wal hefyd.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, wrth gwrs.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Efallai yr hoffech chi fanteisio ar y cyfle hwn i rannu â'r Siambr y newyddion a roesoch chi i mi ynglŷn â'r swyddi Flybe sydd eisoes wedi'u hachub yn y maes awyr. Wrth gwrs, nid yw hynny'n gysur i'r rheini sy'n cael eu cyflogi mewn meysydd awyr eraill nad oeddent mor ffodus, ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i glywed hynny ar goedd ac y byddai efallai'n gysur.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Mae Helen Mary Jones yn gwneud pwynt pwysig iawn am yr effaith y mae cwymp Flybe wedi ei chael ar bobl, ac mae'n dda gennyf ddweud, o ganlyniad i Loganair yn ymyrryd ac yn rhedeg y gwasanaeth o Gaerdydd i Gaeredin, maen nhw wedi rhoi blaenoriaeth i swyddi staff Flybe ac mae hyn yn cynnwys ym Maes Awyr Caerdydd. Fe'm calonogwyd hefyd gan drafodaethau diweddar iawn y mae'r maes awyr yn eu cael gyda chwmnïau hedfan eraill a allai gamu i'r adwy a chymryd ehediadau hanfodol bwysig o dan eu hadain. 

Hoffwn ddweud fy mod yn wirioneddol ddiolchgar i'r Ceidwadwyr Cymreig am eu cefnogaeth i'n safbwynt ar y doll teithwyr awyr a'u cefnogaeth i'r alwad am sefydlu ehediad rhwng Caerdydd a Manceinion. Mae'n eironig serch hynny oherwydd, wrth gwrs, fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth y DU hyrwyddo rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus o Gaerdydd i Fanceinion a gwrthodasant wneud hynny, i'r Comisiwn Ewropeaidd.

Felly, gofynnaf am gefnogaeth yr holl Aelodau wrth alw ar Lywodraeth y DU i ystyried tri mesur hanfodol bwysig yn ei hadolygiad o gysylltedd rhanbarthol. Yn gyntaf, dileu'r baich costau rheoleiddio ar feysydd awyr rhanbarthol, fel y gwneir yn Ewrop. Yn ail, agor ehediadau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus newydd rhwng rhanbarthau'r DU a hefyd i Ewrop. Yn drydydd ac yn olaf, ond yn hanfodol bwysig, y doll teithwyr awyr: datganoli hon i Gymru fel bod gennym ni reolaeth i gyflawni ein hamcanion polisi.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:37, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:37, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Cyn i ni symud i'r cyfnod pleidleisio a'r ddadl Cyfnod 3 ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), byddaf yn atal y trafodion am 15 munud. Dyna bymtheg munud. Cenir y gloch bum munud cyn inni ailymgynnull, ond a gaf i annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr ar unwaith? Felly, egwyl o 15 munud ac fe genir y gloch bum munud cyn inni ailymgynnull. Felly, mae'r cyfarfod llawn bellach wedi'i ohirio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:38.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 16:59, gyda'r Llywydd yn y Gadair.