9. Dadl: Maes Awyr Caerdydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:56, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar. Dau bwynt byr. Yn gyntaf oll, i'ch atgoffa wrth gwrs fod maer Ceidwadol Dyffryn Tees wedi prynu maes awyr Teeside ac wedi'i frandio fel maes awyr i'r bobl. Tybed sut y mae hynny'n cyd-fynd â'i ddadl. Yn ail, dim ond fel mater o wybodaeth, yr hyn a ddywedais pan oeddwn yn Brif Weinidog gynt—nid wyf nawr—yw mewn amser y byddai'n bosib gwerthu cyfranddaliadau yn y maes awyr ond cadw 50 y cant ac un gyfran yn nwylo'r Llywodraeth er mwyn cadw cyfran reolaethol.