Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 10 Mawrth 2020.
O'r gorau. Cytunaf fod £1 miliwn neu £2 filiwn yn llawer o arian, ond credaf mai'r pwynt yw eu bod yn dal o fewn y swm o arian y cytunwyd arno eisoes gyda Llywodraeth Cymru, yn dilyn cwymp Thomas Cook.
Felly, does dim amheuaeth bod cwymp Thomas Cook, ac yn wir Flybe, ac ar ben hynny y coronafeirws, yn gohirio'r amserlen o ran pryd y gall y cwmni ad-dalu'r benthyciad i Lywodraeth Cymru. Ac roedd rheolwyr gweithredol y cwmni'n berffaith onest am hynny, er bod hynny cyn inni wybod am dranc Flybe.
Ond i bob cwmni sy'n methu mewn amgylchiadau masnachol arferol, mae un arall sydd o bosib yn elwa. Felly, rydym ni wedi gweld TUI yn cynyddu nifer y teithiau awyr o Gaerdydd. Rydym ni wedi gweld Loganair yn mabwysiadu rhai o lwybrau Flybe. Bydd yna bob amser gwmnïau masnachol a fydd yn gweld poen rhywun arall fel cyfle busnes, ac mae hynny'n hollol dderbyniol.
Cytunaf â Mick Antoniw y dylai cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod wedi cael ei ddisgrifio'n fwy cywir fel Ysgrifennydd Gwladol Bryste a'r de-orllewin, oherwydd ymddangosai fod ganddo lawer mwy o ddiddordeb yn yr ardal honno. Pam mae Aelod Seneddol Bro Morgannwg yn casáu ei faes awyr lleol gymaint, ef ei hun a ŵyr? Efallai fod yr awyrennau'n hedfan dros ei dŷ. [Chwerthin.]
Ond mae llawer o resymau pam mae Caerdydd yn fwy tebygol o oroesi'r anawsterau presennol i bob cwmni hedfan ym mhob cwr o'r byd na llawer o feysydd awyr rhanbarthol eraill yn y DU; sef oherwydd bod sawl nodwedd o Faes Awyr Caerdydd yn ei gwneud yn safle llawer gwell yn y tymor hir. Un yw'r rhedfa anhygoel o hir sydd gennym ni, sy'n hirach o lawer na'r rhedfa ym Mryste neu Birmingham, sy'n golygu ei bod yn ddelfrydol ar gyfer cwmnïau awyrennau sy'n teithio pellteroedd hir. Beth bynnag fo'r argyfwng newid hinsawdd, mae'n anodd rhagweld y bydd pob un ohonom ni y mae angen iddo deithio i'r Unol Daleithiau yn mynd ar gwch. Mae'r angen i rai pobl fynd ar awyren yn mynd i barhau. Felly, mae'r rhedfa hir hon—sydd wedi'i lleoli'n bennaf dros y môr a thir amaethyddol, sy'n golygu ei bod yn tarfu llawer llai na maes awyr mewn ardal adeiledig—yn golygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer rhedfeydd yn y dyfodol.
Ar ben hynny, mae ganddo'r berthynas â chanolfan gynnal a chadw British Airways, ac mae ganddo'r gallu i fod yn ganolfan arloesi. Er enghraifft, buom yn trafod y podiau teithio awtomatig sy'n gweithredu yn Heathrow, y gellid eu defnyddio i gysylltu gorsaf y Rhws â therfynfa'r maes awyr, a fyddai'n goresgyn un o'r gwendidau sydd gan Faes Awyr Caerdydd ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod hwn yn faes awyr gyda dyfodol, a'i fod yn fuddsoddiad da iawn gan Lywodraeth Cymru.