Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 10 Mawrth 2020.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Efallai yr hoffech chi fanteisio ar y cyfle hwn i rannu â'r Siambr y newyddion a roesoch chi i mi ynglŷn â'r swyddi Flybe sydd eisoes wedi'u hachub yn y maes awyr. Wrth gwrs, nid yw hynny'n gysur i'r rheini sy'n cael eu cyflogi mewn meysydd awyr eraill nad oeddent mor ffodus, ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i glywed hynny ar goedd ac y byddai efallai'n gysur.